Rheoli a monitro cyflwyno contractau mewn logisteg

URN: SFLITLO6
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2015

Trosolwg


Mae’r uned hon yn ymwneud â rheoli a monitro cyflwyno contractau mewn gweithrediadau logisteg trwy ymgynghori a chtundeb gyda rhanddeiliaid. Bydd angen i chi gyfathrebu’r contract, paratoi cynlluniau, creu a monitro cofnodion a gweithgaredd i sicrhau cydymffurfio yn erbyn y contract. Efallai fyddai angen i chi hefyd drafod gyda’r rhanddeiliad pan fydd sefyllfaoedd yn codi sydd angen cytundeb a gweithredu amrywiad ffurfiol i’r contract.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer unrhyw un sydd yn rheoli ac yn monitro contractau mewn gweithrediadau logisteg sydd yn gweithio ar lefel rheolwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Adolygu’r contract i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei chynnwys i sicrhau cyflwyno’r gweithrediadau logisteg yn effeithlon
  2. Ymgynghori â’r bobl briodol i ddatblygu cynllun gweithredu i fodloni amcanion y contract
  3. Cytuno ar y cynllun a’r trefniadau monitro gyda’r bobl briodol yn y gweithrediadau logisteg
  4. Rheoli’r berthynas gyda rhanddeiliaid wrth gyflwyno’r contract
  5. Rheoli a monitro cyflwyno’r contract yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt i gadarnhau cydymffurfio
  6. Cyfathrebu canlyniadau’r monitro ac unrhyw gamau sy’n ofynnol gyda’r bobl briodol 
  7. Cofnodi ac adrodd ar amrywiadau contract gyda’r y person priodol
  8. Cadw cofnodion o holl ddogfennau’r contract, yn cynnwys amrywiadau a chyfarfodydd yn unol â’ch gofynion sefydliadol a deddfwriaethol perthnasol
  9. Creu adroddiad terfynol gydag argymhellion ar gyfer gweithredu pellach
  10. Defnyddio a chynnal rheolaeth ariannol o’r contract yn cynnwys y broses dendro a rheolaethau cyllidebol gyda chydweithwyr priodol
  11. Cynnal rheolaeth ariannol, o fewn eich lefel cyfrifoldeb chi, dros y contract o fewn y gweithrediadau logisteg


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Sut mae gwaith tîm a chyfathrebu effeithiol yn cyfrannu at gyflwyno contractau yn llwyddiannus
  2. A yw dogfennau’r contract yn cynnwys gwybodaeth glir a pherthnasol ar wasanaethau’r darparwr
  3. Pryd mae angen cyngor arbenigol i sicrhau bod amodau’r contract yn glir a bod y goblygiadau cyfreithiol perthnasol wedi eu deall
  4. Y dulliau o gynllunio cyflwyno contract a goblygiadau cyfreithiol perthnasol contractau gwahanol mewn gweithrediadau logisteg
  5. Rolau a chyfrifoldebau personél sy’n gweithio ar gontractau yn eich sefydliad                                             
  6. Egwyddorion a dulliau prosesau rheoli a monitro contract yn y gweithrediadau logisteg
  7. Technegau trafod a gweithredu camau cywiro ar gyfer contractau yn y gweithrediadau logisteg
  8. Sut i nodi achosion amrywiadau contract, sut i gywiro amrywiadau contract ac atal hyn rhag digwydd dro ar ôl tro
  9. Sut i ymchwilio i diffygion ym mherfformiad ac asesiad contract yn y gweithrediad logisteg
  10. Sut i ymateb i newidiadau yn y ddeddfwriaeth a’r polisi sefydliadol perthnasol
  11. Sut gall amgylchiadau sydd wedi newid, technoleg neu dechnegau newydd effeithio ar weithrediad cyflwyno contract
  12. Sut i gofnodi adborth gan gleientiaid ar weithredu contractau presennol a phwysigrwydd gwneud hynny
  13. Y systemau rheoli cost a ddefnyddir gan eich sefydliad
  14. Diben a dull rheolyddion ariannol ac anfantais cael dim o’r rhain


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Rhag 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLITLO6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Mentrau mân-werthu a masnachol, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Mewnforio, Storio a Manwerthu

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

rheoli; monitro; monitro contractau; cyflwyno contractau; contract