Rheoli a gweithredu gweithrediadau diogeledd o fewn logisteg
URN: SFLITLO5
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2015
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys y gweithgareddau a’r ystyriaethau sydd eu hangen i reoli a gweithredu gweithrediadau diogeledd mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys pob dull trafnidiaeth, yn cynnwys diogeledd porthladd, ffordd, rheilffordd a chludiant drwy’r awyr. Caiff anghenion diogeledd eu rheoli mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, bydd diogeledd yn cydymffurfio ag arfer da a gofynion deddfwriaethol presennol. Bydd anghenion a gofynion gweithredol diogeledd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion sefydliadol. Bydd cydweithredu a chyswllt â’r asiantaethau perthnasol yn parhau i gydymffurfio â gofynion diogeledd rheoliadol.
Mae’r safon hon wedi ei hanelu at unigolion sydd â chyfrifoldeb dros reoli trefniadau diogeledd, p’un ai eu bod ar y safle neu oddi ar y safle a byddant yn gyfarwyddwr neu’n rheolwr yn aml.
Mae’r safon hon hefyd yn berthnasol i bob unigolyn sydd â dyletswydd i hwyluso cymhwyso trefniadau diogeledd yn ddiogel ac yn effeithlon gyda chyfrifoldebau wedi eu diffinio o dan godau a rheoliadau diogeledd cenedlaethol a rhyngwladol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cynnal asesiadau diogeledd mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid i sefydlu’r math a lefel y diogeledd sydd ei angen ar gyfer y gweithrediad logisteg
- Nodi a dehongli cyfarwyddiadau gwaith a chasglu’r holl wybodaeth berthnasol i sefydlu gofynion diogeledd
- Cyfathrebu’r canfyddiadau a’r argymhellion diogeledd i’r rhanddeiliaid priodol
- Rheoli a gweithredu gweithrediadau diogeledd, yn cynnwys cyswllt rheolaidd â rhanddeiliaid rheoli a’r awdurdodau perthnasol
- Rheoli a rheoleiddio safleoedd logisteg i gynnal amodau sydd yn ddiogel ac yn daclus
- Sicrhau bod y broses ar gyfer gwiriadau diogeledd wedi eu sefydlu ac yn cael eu cynnal yn unol â’r gofynion rheoliadol perthnasol
- Sicrhau bod yr hysbysiadau hynny sydd yn darparu gwybodaeth yn cydymffurfio â gofynion statudol a’u bod wedi eu gosod a’u cynnal yn unol â’r gofynion rheoliadol perthnasol
- Cadarnhau bod systemau diogeledd wedi eu gweithredu yn unol â’r dull trafnidiaeth a’r nwyddau sydd yn cael eu cludo
- Sicrhau bod yr ardaloedd storio, llety dros dro a gwaith priodol wedi eu nodi, yn ddiogel ac yn cael eu cyfathrebu i’r personél perthnasol
- Cyfathrebu a monitro gweithredu cynlluniau diogeledd
- Monitro ac adolygu systemau diogeledd, yn cynnwys rheoli gwybodaeth ac asesiadau risg
- Cysylltu ag asiantaethau gorfodi ac asiantaethau perthnasol eraill i sicrhau bod trefniadau diogeledd effeithiol yn cydymffurfio â gofynion diogeledd perthnasol
- Cofnodi’r holl wybodaeth gan ddefnyddio’r dogfennau a’r systemau priodol
- Dilyn y gofynion iechyd a diogelwch, deddfwriaeth, codau ymarfer ac amgylcheddol perthnasol bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y mathau a’r lefelau gwahanol o asesiadau diogeledd a sut i’w cynnal nhw
- Y mathau gwahanol o risg diogeledd sy’n debygol o godi yn eich sefydliad
- Y dulliau o gynnal ac adolygu systemau diogeledd
- Sut i weithredu systemau diogeledd a’r systemau gwahanol sydd ar gael
- Y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir i adrodd canfyddiadau diogeledd ac argymhellion i randdeiliaid o fewn eich cyfrifoldeb
- Sut i ddylunio a chynnal ymarferion diogeledd i amlygu’r hyn y dylid ei wneud mewn sefyllfaoedd o argyfwng yn ymwneud â’r dull trafnidiaeth a nwyddau sydd yn cael eu cludo
- Y dulliau sefydliadol a ddefnyddir i reoli diogeledd mewn perthynas â thrafnidiaeth, safle a lleoliad
- Y mathau gwahanol o adnoddau diogeledd sydd eu hangen ar gyfer safle, dull trafnidiaeth a nwyddau eich sefydliad
- Yr asiantaethau gorfodi gwahanol a’r rhesymau dros gydweithredu a gweithio gyda’i gilydd
- Y risgiau tollau wrth weithredu mewn gwledydd eraill a sut i leddfu’r risgiau hyn
- Sut i nodi a chyfathrebu diogeledd ar gyfer storio nwyddau mewn llety dros dro
- Ble i osod hysbysiadau sydd yn rhoi gwybodaeth mewn perthynas â gofynion diogeledd, diogelwch a statudol
- Y gofynion statudol ar gyfer diogeledd mewn gwledydd gwahanol
- Y ffyrdd o fonitro gweithredoedd a chyfrifoldebau ar gyfer gweithredu cynlluniau diogeledd
- Y mesurau y mae eich sefydliad yn eu defnyddio i ddiogelu ei ddiogeledd a’u buddion neu eu cyfyngiadau perthnasol
- Y gofynion iechyd a diogelwch, deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer ac amgylcheddol yn ymwneud â diogeledd ar gyfer eich sefydliad, y dull trafnidiaeth a’r nwyddau sydd yn cael eu cludo
Cwmpas/ystod
Asiantaethau gorfodi
• Lluoedd ffiniau
• Heddlu porthladdoedd
• Tollau
Gweithrediadau logisteg
• DU
• Rhyngwladol
Systemau diogeledd
• Chwiliadau staff ar y safle
• Gwirio seliau ar nwyddau a cherbydau
• Cludo nwyddau yn rhyngwladol ac yn fyd-eang
• Cludo nwyddau yn y DU
• Dull trafnidiaeth
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Codau ymarfer
- CTPAT – UDA (Partneriaeth Fasnach Tollau yn Erbyn Terfysgaeth) rheolaeth cadwyn gyflenwi ddiogel
- CAA – DU (Awdurdod Hedfan Sifil) corff Rheoliadau Diogeledd Hedfan yn y DU
- AEO – (Gweithredwr Economaidd Awdurdodedig) gweithredwr cyfwerth Ewrop o reolaeth cadwyn gyflenwi ddiogel C-TAP
- TAPA – Cymdeithas Diogelu Asedau sydd yn cael eu Cludo
- ISO2800 – Tystysgrif rheoli diogeledd ar gyfer y gadwyn gyflenwi
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Rhag 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLITLO5
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Gweithrediadau; , Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
logisteg; rheoli; diogeledd; ymgynghoriad, gofynion diogeledd rheoliadol