Rheoli costau ac adnoddau mewn gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid
URN: SFLITLO4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2015
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli costau ac adnoddau mewn gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid. Mae hefyd yn cynnwys galw presennol y sefydliad a’r galw yn y dyfodol yn cynnwys am bobl, sgiliau a gofynion gweithlu.
Mae’n cynnwys nodi a defnyddio dangosyddion perfformiad i werthuso cyflawni amcanion, o fewn yr adnoddau sydd ar gael a chanlyniadau’r prosiect.
Mae’r rôl yn cynnwys ymchwilio i unrhyw wyriadau i ddarparu gwasanaeth, nodi gwelliannau a’u hargymell i wneuthurwyr penderfyniadau.
Mae’r safon hon wedi ei hanelu at unigolion â chyfrifoldeb dros reoli costau ac adnoddau yn y sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi eich maes eich hun a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb dros gynllunio gweithredol
- Nodi gweledigaeth, diben, nodau ac amcanion y weithred logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid a galw yn y dyfodol
- Nodi a gwerthuso syniadau newydd yn erbyn atebion sydd wedi eu rhoi ar brawf ar gyfer cynllunio gweithredol
- Defnyddio amrywiaeth o adnoddau i lywio a datblygu dangosyddion perfformiad ar gyfer ansawdd cyflwyno
- Datblygu cynlluniau gweithredol a rheoli adnoddau i fodloni anghenion gweithredol presennol ac yn y dyfodol a gofynion y cwsmer
- Cadarnhau bod personél ac unigolion allweddol yn cael eu briffio ar gynlluniau a chanlyniadau gweithredol
- Nodi’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun gweithredol
- Nodi dulliau casgu data priodol ar gyfer mesuriad gweithredol cyflawni amcanion
- Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael i gyflawni nodau ac amcanion y sefydliad
- Rheoli a gweithredu systemau, gweithdrefnau ac ymarfer i fonitro a mesur cynnydd yn erbyn dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt
- Gweithredu pan nad yw adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn effeithlon
- Nodi amrywiadau a thueddiadau yn yr ardal weithredol, a nodi cyfleoedd ar gyfer arbed costau
- Adolygu ac optimeiddio costau ac adnoddau i ddarparu ar gyfer amgylchiadau sy’n newid
- Gwirio ac ymchwilio i amgylchiadau unrhyw wyriadau o’r contract, gan gytuno a gweithredu camau cywiro o fewn eich awdurdod
- Briffio gwneuthurwyr penderfyniadau am gynnydd a newidiadau i’r rhaglen weithredol, adnoddau a chostau ac awgrymu’r camau sydd angen eu cymryd
- Cadarnhau bod personél allweddol ac eraill yn cael eu cefnogi pan yn cyfrannu at fonitro a mesur cyflawni nodau yn erbyn dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt
- Casglu gwybodaeth a data i roi llinell sylfaen ar gyfer mesur perfformiad yn ei erbyn a nodi tueddiadau
- Gwerthuso ansawdd darpariaeth gwasanaeth yn erbyn dangosyddion perfformiad, gofynion cwsmeriaid a chanlyniadau gweithredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i gyfathrebu gyda’r tîm rheoli, cydweithwyr a rhanddeiliaid allanol i sefydlu meysydd cyfrifoldeb mewn perthynas â chynllunio gweithredol
- Y dulliau a’r strategaethau i leoli’r diben a’r amcanion i gael eu cyflawni mewn perthynas â rheoli ansawdd, costau ac adnoddau, manylebau cynnyrch a chydymffurfio
- Y dulliau, y fformatiau a’r systemau ar gyfer cynllunio gweithredol a sut i gysylltu’r rhain â gofynion neu anghenion sefydliadol a chwsmeriaid, nawr ac yn y dyfodol
- Y dulliau o ailwerthuso cynllunio a chwistrellu syniadau newydd
- Y ffyrdd o friffio eraill ar gynllunio mewn perthynas â’r gweithrediad
- Y ffyrdd o nodi a chynllunio anghenion adnoddau sydd yn gysylltiedig â’r amcanion a gynlluniwyd, yn cynnwys y mathau gwahanol o adnoddau sydd ar gael
- Sut i ganfod gwybodaeth sydd yn gysylltiedig â gosod a diffinio perfformiad gan ddefnyddio: amcanion Cyraeddadwy, Amser wedi’i bennu, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol
- Y dulliau sydd ar gael ar gyfer casglu data a mesur cyflawniad yn erbyn amcanion
- Sut i ddewis y Darparwr Gwasanaeth Logisteg (LSP) gorau sydd yn cynnig cyfraddau marchnad cystadleuol ar gyfer trafnidiaeth, warws a storio, ac yn gallu bodloni Dangosyddion Perfformiad Allweddol, cydymffurfio, rheoli risg ac ystyriaethau eraill cadwyn gyflenwi
- Y dulliau o weithredu systemau i fonitro a chofnodi cyfnodau allweddol gweithredu’r cynllun
- Sut, pam, a phwysigrwydd cytuno i gamau cywirio mewn amgylchiadau pan fydd gwyro oddi wrth gontract
- Sut i fonitro a gweld cyfleoedd ar gyfer arbed costau
- Y dulliau adolygu parhaus yn unol â gweithdrefnau ac arferion sefydliadol
- Sut i gyfathrebu, cadarnhau ac ymchwilio i wyriadau o’r contract, yn cynnwys dulliau ar gyfer cymryd camau cywiro
- Y dulliau a’r prosesau ar gyfer briffio gwneuthurwyr penderfyniadau ar weithredoedd
- Sut i gynorthwyo personél a chydweithwyr allweddol i gasglu gwybodaeth at ddibenion monitro a mesur
- Y dulliau a’r rhesymau dros gynnal gwerthusiad o ddarpariaeth gwasanaeth, yn cynnwys ystyriaethau yn erbyn amrywiadau costau tymhorol
- Pwysigrwydd sicrhau bod y cwsmer yn deall anghenion a gofynion y gweithrediad logisteg
- Sut i reoli’r gwasanaeth a dderbynnir gan y sefydliad gan y rhai a ddewisir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwneuthurwyr penderfyniadau
Gallai gynnwys y cleient, contractwyr, is-gontractwyr, ymgynghorwyr, cyflenwyr, rheolaeth fewnol
Darparwr Gwasanaeth Logisteg (LSP)
Anfonwr Cludiant Ymlaen neu gludwr a ddewisir i ddarparu ffurfioldeb Trafnidiaeth a Thollau Rhyngwladol.
Adnoddau
Gallai gynnwys unrhyw un o’r canlynol: pobl, peiriannau a chyfarpar, deunyddiau a chydrannau, cyllid, amser, gwasanaethau arbenigol, gwasanaethau cyfleustod, cyllidebau 3PL, trafnidiaeth cerbydau, warws
Systemau i fonitro a chofnodi
Gellid defnyddio systemau i fonitro unrhyw un o’r canlynol: archwilio a phrofi, cofnodion adnoddau, adroddiadau archwilio safle, adroddiadau contractwyr, prydlesi, cytundebau asiantaeth, cyllidebau, cytundebau tramor
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Rhag 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLITLO4
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Rheolwr Gweithrediadau; , Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
rheoli ansawdd; rheoli costau; rheoli adnoddau; costau; gweithrediadau logisteg