Rheoli cydymffurfio a gofynion rheoliadol gyda gwledydd eraill wrth gludo nwyddau’n rhyngwladol

URN: SFLITLO3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli cydymffurfio a gofynion rheoliadol gyda gwledydd eraill wrth gludo nwyddau'n rhyngwladol.

Mae'r safon hon yn cynnwys cydnabod pwysigrwydd deddfwriaeth masnach ryngwladol, rheoleiddio a chodau ymarfer, gan nodi'r hyn sy'n ofynnol i gefnogi cydymffurfio a pheryglon peidio cydymffurfio.

Efallai bydd yn rhaid i sefydliadau hefyd ystyried eu gweithdrefnau yn ymwneud â'u Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) eu hunain i wledydd a phobl eraill. Bydd yn rhaid i sefydliadau ddeall y gofynion gwahanol ar gyfer symud nwyddau i mewn ac allan o'r DU.  Bydd yn rhaid ystyried tollau cartref a thaliadau eraill hefyd yn ogystal â deall cytundebau talu rhwng gwledydd gwahanol.

Mae'r safon hon wedi ei hanelu at unigolion uwch, sy'n gweithredu ar lefel cyfarwyddwr neu reolwr mewn sefydliad, sydd â chyfrifoldeb dros symud nwyddau o fewn marchnadoedd rhyngwladol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cael y wybodaeth berthnasol yn ymwneud â'r nwyddau i gael eu cludo i mewn neu allan o'r Deyrnas Unedig
  2. nodi'r ddeddfwriaeth berthnasol, y gofynion rheoliadol a'r wybodaeth sy'n berthnasol i'r modd dewisol o gludo wrth gludo nwyddau yn rhyngwladol
  3. cadarnhau'r ddeddfwriaeth berthnasol,  y rheoliadau a'r codau ymarfer ar gyfer cludo nwyddau'n rhyngwladol ar gyfer gwledydd o fewn eich cyfrifoldeb
  4. cadarnhau polisi eich sefydliad ar gyfer eich Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) i wledydd a phobl eraill
  5. rheoli cydymffurfio a gofynion rheoliadol gyda gwledydd eraill a chefnogi'r sefydliad i ddeall arferion nad ydynt yn cydymffurfio gyda'r safonau perthnasol a nodir
  6. nodi'r gweithdrefnau tollau perthnasol a'r dogfennau tollau ar gyfer y nwyddau sy'n cael eu cludo wrth gael eu hallforio o, a'u mewnforio i mewn i'r Deyrnas Unedig
  7. cwblhau'r holl adrannau perthnasol o'r dogfennau tollau ar yr adeg iawn yn unol â'r gweithdrefnau tollau
  8. cael yr holl ddogfennau perthnasol eraill ar gyfer cludo nwyddau'n rhyngwladol
  9. rheoli, cofnodi, cyflwyno a chyfathrebu'r holl wybodaeth a'r dogfennau gofynnol ar gyfer cludo nwyddau'n rhyngwladol i gydweithwyr perthnasol yn y sefydliad a'r gadwyn gyflenwi
  10. cadarnhau dyrannu adnoddau ar gyfer cludo nwyddau'n rhyngwladol
  11. cadarnhau bod cludo nwyddau yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, gofynion rheoliadol a sefydliadol, yn cynnwys codau ymarfer ar gyfer symud nwyddau o fewn y gwledydd perthnasol
  12. monitro symudiadau a chynnal cofnodion o'r nwyddau sy'n cael eu cludo yn unol â gofynion rheoliadol a sefydliadol perthnasol
  13. cymryd camau gofynnol i nodi a datrys unrhyw broblemau gyda'r gweithrediadau masnach rhyngwladol
  14. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu sy'n ymwneud â symud nwyddau'n rhyngwladol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​ffynonellau'r wybodaeth berthnasol a'r dogfennau ar gyfer symud nwyddau'n rhyngwladol e.e. o'r Siambr Fasnach Ryngwladol (ICC), Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
  2. deddfwriaeth berthnasol y DU a rhyngwladol, rheoliadau a chodau ymarfer sy'n berthnasol i'r modd dewisol o gludo wrth gludo nwyddau'n rhyngwladol
  3. sut mae deddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a rheoliadau'n gwahaniaethu ar gyfer gwledydd gwahanol, mathau gwahanol o nwyddau a thrafnidiaeth wahanol o fewn masnach ryngwladol
  4. sut i ddehongli safonau a gofynion o wledydd eraill wrth gludo nwyddau'n rhyngwladol a sut i nodi arferion nad ydynt efallai yn cydymffurfio
  5. y mathau gwahanol o weithdrefnau tollau a dogfennau ar gyfer nwyddau sy'n cael eu cludo o ac i mewn i'r Deyrnas Unedig sy'n berthnasol i'r math o nwyddau, y rheswm dros fewnforio, allforio neu ailallforio a'r modd cludo
  6. sut i ddosbarthu'r nwyddau sy'n cael eu hallforio, eu mewnforio neu eu hailallforio i gydymffurfio â rheoliadau'r DU a'r cyfrifoldeb cyfreithiol perthnasol ar eich sefydliad
  7. y cyfleoedd pan allai eich sefydliad symleiddio gweithdrefnau tollau penodol
  8. y rheolau a'r rheoliadau'n ymwneud â dogfennau cyllid a thollau a'r amser pan fydd nwyddau'n debygol o ddenu tollau
  9. pam y mae'n bwysig cwblhau adrannau perthnasol o'r dogfennau tollau ar yr adeg iawn yn unol â gweithdrefnau tollau a pha effaith y bydd methu â gwneud hyn yn ei chael ar y gadwyn gyflenwi
  10. y mathau eraill o ddogfennau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer cludo nwyddau'n rhyngwladol, yn arbennig ar gyfer symud nwyddau i mewn ac allan o wledydd eraill
  11. sut i reoli a chyflwyno dogfennau, yn cynnwys deall y systemau a'r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir, a chanlyniadau peidio â dilyn y rhain
  12. y dulliau a'r protocol ynghylch sut i gynghori a chyfathrebu gofynion mewn perthynas â chludo nwyddau'n rhyngwladol
  13. y dulliau o fonitro cludo nwyddau'n rhyngwladol yn cynnwys sut i fonitro cynnwys a manylion dogfennau
  14. sut i fonitro cydymffurfio a pheidio â chydymffurfio, a ffyrdd o ddatrys peidio â chydymffurfio sydd yn digwydd wrth symud nwyddau'n rhyngwladol
  15. y gweithrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â symud nwyddau'n rhyngwladol, yn cynnwys cyfrifoldebau a systemau ar gyfer diogelwch ar gontract ac i sicrhau diogelwch y gadwyn gyflenwi
  16. cyfrifoldeb eich sefydliad mewn perthynas ag allforio ac ailallforio nwyddau'n rhyngwladol, yn cynnwys Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR)
  17. y rheolyddion, sancsiynau a'r awdurdodaethau presennol mewn perthynas â symud nwyddau'n rhyngwladol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Cludo/cludwyd

  • Mewnforio
  • Allforio
  • Aildrosglwyddo
  • Ailallforio

Gwybodaeth Cwmpas

Nwyddau

  • Nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, ffrwydrol, cyrydol, ymbelydrol, ocsideiddio ac ati)
  • Cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw'n fwyd)
  • Ddim yn beryglus
  • Darfodus (bwyd)
  • Nwyddau i'w hatgyweirio neu eu dychwelyd
  • Nwyddau ar gyfer arddangosiadau neu ddigwyddiadau arddangos
  • Gwastraff

Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR): proses sydd yn anelu at gymryd cyfrifoldeb dros gamau'r sefydliad ac yn annog effaith gadarnhaol trwy ei weithgareddau ar yr amgylchedd, defnyddwyr, cyflogeion, cymunedau, rhanddeiliaid a'r holl aelodau eraill o'r cyhoedd a allai hefyd gael eu hystyried yn rhanddeiliaid

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau cludo, arferion gwaith, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau'r diwydiant


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLITLO3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Gweithrediadau; , Gweithredu a chynnal a chadw trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiol Trafnidiaeth

Cod SOC

1162

Geiriau Allweddol

gofynion rheoliadol; masnach ryngwladol; mudiad rhyngwladol; cydymffurfio