Trafod a rheoli contractau cyflenwyr mewn gweithrediadau logisteg rhyngwladol

URN: SFLITLO2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â thrafod a rheoli contractau gyda chyflenwyr i weithrediadau logisteg sydd yn gysylltiedig â masnach ryngwladol. Lle y bo’n berthnasol, gallai contractau hefyd gynnwys rhyw fath o gynhyrchu. Gallai trefniant “offeru” fod wedi ei sefydlu i ystyried patent deallusol a hawliau buddsoddi cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys monitro a gwerthuso contractau, costau a bodlonrwydd ac adborth cwsmeriaid yn effeithiol.

Bydd cymhwyso a deall deddfwriaeth bresennol sy’n berthnasol i’r DU a marchnadoedd rhyngwladol yn allweddol i reoli cydymffurfio â masnach ryngwladol.

Mae’r safon hon wedi ei hanelu at unigolion uwch sy’n gyfrifol am weithio mewn marchnadoedd rhyngwladol, gan weithredu ar lefel cyfarwyddwr neu reolwr yn y sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Nodi’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i fodloni gofynion gweithredol ar gyfer gweithrediadau logisteg rhyngwladol
  2. Sefydlu eich cyllideb brynu ar gyfer y contract a’r gofynion adnoddau
  3. Ymchwilio i gyflenwyr posibl ar gyfer y contract
  4. Sefydlu offeru a hawliau perchnogaeth, os ydynt yn berthnasol i ddatblygu a chynhyrchu cynnyrch
  5. Hyrwyddo gwahoddiad i dendro i amrywiaeth o gontractwyr neu gyflenwyr posibl sydd ag arbenigedd mewn gweithrediadau logisteg rhyngwladol
  6. Gwerthuso tendrau yn erbyn eich meini prawf sefydledig, dewis y cyflenwr neu’r contractwr sy’n bodloni eich anghenion o fewn cyfyngiadau cyllidebol
  7. Trafod contractau sydd yn cynyddu’r potensial ar gyfer elw, tra’n cadw at feini prawf dethol eich sefydliad, y broses dendro, ac yn cydymffurfio â’r holl gyrff deddfwriaethol perthnasol sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau logisteg rhyngwladol
  8. Cadarnhau bod contractau gyda chyflenwyr a chontractwyr yn cyd-fynd o ran arddull a chynnwys, ac yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol ar gyfer gweithredu’n rhyngwladol
  9. Cychwyn a chytuno ar gytundebau lefel gwasanaeth sydd yn glir ac yn dderbyniol i’ch sefydliad a chyflenwyr neu gontractwyr
  10. Rheoli a monitro cydymffurfio â’r contract, gan ystyried y gofynion cyfreithiol, rheoliadol perthnasol a’ch gofynion sefydliadol eich hun ar gyfer gweithrediadau logisteg rhyngwladol
  11. Ymdrin ag achosion o dorri contract o fewn graddfeydd amser derbyniol, gan drafod ad-daliadau neu gredyd ar gyfer eich sefydliad, lle y bo’n briodol
  12. Gwerthuso cytundebau contract y gadwyn gyflenwi ryngwladol yn eich maes cyfrifoldeb


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Y mathau gwahanol o gontractau cyflenwyr a chytundebau gwasanaeth sy’n briodol i weithrediadau rhyngwladol yn cynnwys damcaniaethau rheoli y gadwyn gyflenwi, modelau, ac arferion e.e. trefnu trwy gontract allanol a chytundebau lefel gwasanaeth

  2. Sut i sefydlu eich cyllideb a’r mathau o adnoddau sy’n ofynnol

  3. Sut i wneud ymchwil ar gyflenwyr mewn perthynas â gofynion adnoddau’r contract gan ddefnyddio cyfeiriadau ymchwilio, chwiliadau’r rhyngrwyd, gwybodaeth sydd yn cael ei gadw yn Nhŷ’r Cwmnïau, gwybodaeth am fath o gymhareb asedau
  4. Dulliau tendro, cyflenwyr dewisol eich sefydliad, a’ch awdurdod i ymdrin â chyflenwyr newydd mewn perthynas â gweithrediadau rhyngwladol    fel prosesau tendro agored a chaeëdig, gofynion yr Undeb Ewropeaidd
  5. Sut i archwilio a gwerthuso tendrau, yn cynnwys meini prawf asesu a chymharu a gwrthgyferbynnu gwasanaethau, deall meini prawf dethol ar gyfer chynnyrch a gwasanaethau arferol a chyflenwiy dewisol
  6. Dulliau o drafod contractau, yn cynnwys dulliau cyfathrebu a diffinio ansawdd y gwasanaeth
  7. Y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol sydd yn llywodraethu contractau ac arddull ddewisol eich sefydliad ar gyfer cynnwys a strwythur e.e Cymdeithas Cludo Nwyddau Rhyngwladol Prydain, Deddf Cludo Nwyddau ar y Môr (COGSA), yr Undeb Ewropeaidd
  8. Pam y mae’n bwysig defnyddio cytundebau lefel gwasanaeth, a sut i ysgrifennu cytundeb gwasanaeth i gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol
  9. Pwysigrwydd cynnal cydberthynas gyda chyflenwyr a chontractwyr, i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer eich sefydliad
  10. Dulliau ar gyfer rheoli a monitro cydymffurfio â chontractau yn unol â’ch gofynion sefydliadol
  11. Sut i nodi ac ymdrin â thorri rheolau contract posibl neu wirioneddol gan gyflenwyr yn unol â thelerau ac amodau’r contract
  12. Dulliau o gyfathrebu ac ymdrin â chontractwyr yn effeithiol
  13. Dulliau o gynnal gwerthusiad a pham y mae’n bwysig gwerthuso ac adrodd ar gryfderau cyflenwyr a chontractwyr a meysydd ar gyfer gwella yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol (KPI) y cytunwyd arnynt
  14. Deall rheolau presennol Incoterms er mwyn sicrhau bod y prisiau cywir yn cael eu gweithredu
  15. Pwysigrwydd y cyflenwr yn cytuno â’r Incoterm dewisol ar adeg cwblhau’r contract a lefel y risg sydd yn gysylltiedig


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Incoterms: Termau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterms yn esbonio set o 3 term masnach sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterms yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r rheolau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.

Masnach ryngwladol: Masnach ryngwladol yw cyfnewid nwyddau a gwasanaethau rhwng gwledydd. Mae’r math yma o fasnach yn creu economi’r byd, lle mae prisiau, neu gyflenwad a galw, yn effeithio, ac yn cael eu heffeithio gan brosiectau, contractau a digwyddiadau byd-eang

Adnoddau: stoc, cyfarpar, gwasanaethau, pobl, deunyddiau crai

Cadwyn gyflenwi: Caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Offeru: Yn ymwneud â hawliau perchnogaeth ar gyfer cynnyrch, adnabod buddsoddiad gan gwsmeriaid, patentau a hawliau eiddo


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLITLO2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Gweithrediadau; , Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion Trafnidiaeth, Rheolwr Marchnata a Gwerthiannau

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

cychwyn; rheoli; cyflenwyr; contractwyr; contractau; adnoddau; logisteg rhyngwladol