Dewis ac anfon cynnyrch meddyginiaethol i gydymffurfio â gofynion Ymarfer Dosbarthu Da
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis ac anfon cynnyrch meddyginiaethol i gydymffurfio â gofynion Ymarfer Dosbarthu Da (GDP). Mae'n cynnwys nodi'r cynnyrch meddyginiaethol, a rheoli unrhyw broblemau neu gyfarwyddiadau arbennig sy'n effeithio ar ddosbarthu.
Dylai'r gweithredwyr fod yn gyfarwydd â'r gofynion sefydliadol ar gyfer gweithio gyda chynnyrch meddyginiaethol a sut mae deddfwriaeth yn ymwneud ag Ymarfer Dosbarthu Da (GDP) yn ymwneud â dyletswyddau a rolau gwaith o ddydd i ddydd.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr, personél ar lefel oruchwylio neu reoli sy'n ymdrin â chynnyrch meddyginiaethol ac Ymarfer Dosbarthu Da (GDP). Gallai'r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio gyda chynnyrch meddyginiaethol ym maes warws a storio, cludiant, neu anfon mewnforion ac allforion ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau tasgau, blaenoriaethau a chyfrifoldebau ar gyfer dewis ac anfon cynnyrch meddyginiaethol gyda chydweithwyr perthnasol
- cydymffurfio â gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn ymwneud ag Offer Amddiffynnol Personol (PPE), symud, trin a derbyn yn unol â gofynion Ymarfer Dosbarthu Da (GDP)
- cadarnhau bod yr ardal sy'n cael ei defnyddio i ddewis ac anfon cynnyrch meddyginiaethol yn addas at y defnydd, yn cydymffurfio ag Ymarfer Dosbarthu Da (GDP), ac nad yw'n cynnwys unrhyw rwystrau na pheryglon
- cael y wybodaeth neu'r dystysgrif berthnasol yn ymwneud â chasglu archebion ar gyfer eu hanfon, yn cynnwys gwybodaeth am swp ac oes cynnyrch yn unol ag Ymarfer Dosbarthu Da (GDP)
- nodi'r materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sy'n berthnasol i grynhoi ac anfon archebion ar gyfer cynnyrch meddyginiaethol
- nodi gofynion llwytho neu gludo sy'n berthnasol i grynhoi ac anfon archebion ar gyfer cynnyrch meddyginiaethol
- nodi gofynion i gynnal cyflwr y cynnyrch meddyginiaethol tra bod archebion yn cael eu crynhoi yn barod ar gyfer eu cludo
- dewis a chrynhoi archebion y cynnyrch meddyginiaethol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ac Ymarfer Dosbarthu Da (GDP)
- nodi ac ymateb i broblemau gyda dethol, lapio, pecynnu ac anfon nwyddau
- cofnodi gwaith sy'n cael ei wneud yn cynnwys gwybodaeth am ailarchebu, adleoli, cylchdroi neu adfer cynnyrch meddyginiaethol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ac Ymarfer Dosbarthu Da (GDP),
- paratoi archebion ar gyfer eu hanfon yn cynnwys pecynnu, lapio neu ail-becynnu ar gyfer eu diogelu wrth eu cludo
- cydymffurfio â gweithdrefnau'r sefydliad a'r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chrynhoi archebion cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer eu hanfon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y tasgau, y blaenoriaethau a'r cyfrifoldebau ar gyfer dewis ac anfon cynnyrch meddyginiaethol
- y gofynion ar gyfer Offer Amddiffynnol Personol (PPE), safonau ymddygiad a dulliau ar gyfer cynnal eich offer a'ch ardal waith
- gweithdrefnau sefydliadol, canllawiau'r cynhyrchwyr a'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer storio cynnyrch meddyginiaethol yn ddiogel ac yn gadarn
- y gofynion iechyd, diogelwch, diogeledd a deddfwriaethol perthnasol yn ymwneud â phecynnu, cynnal ac anfon cynnyrch meddyginiaethol
- y math o gynnyrch meddyginiaethol yn yr archeb sy'n cael ei chrynhoi ar gyfer ei hanfon
- y wybodaeth sy'n ofynnol i nodi manylebau'r cynnyrch a gofynion yr archeb yn cynnwys swp a chylch bywyd y cynnyrch
- sut i wirio cynnyrch meddyginiaethol er mwyn nodi unrhyw faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol wrth eu crynhoi ar gyfer eu hanfon
- sut i ddilyn amserlenni sefydliadol yn ymwneud ag anfon cynnyrch meddyginiaethol, yn unol ag Ymarfer Dosbarthu Da (GDP) a gofynion cwsmeriaid
- *y *systemau rheoli stoc a ddefnyddir gan eich sefydliad ac ystyr cylchdroi stoc
- y cyfyngiadau yn ymwneud ag anfon cynnyrch meddyginiaethol, yn cynnwys gofynion llwytho a chludo
- y mathau o offer, cyfleusterau a'r dulliau trin ar gyfer crynhoi ac anfon cynnyrch meddyginiaethol
- y mathau o broblemau sydd yn gallu codi wrth grynhoi archebion
- sut i ymateb i broblemau yn crynhoi archebion
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr wrth ddewis ac anfon cynnyrch meddyginiaethol yn unol ag Ymarfer Dosbarthu Da (GDP)
- y gofynion sefydliadol, deddfwriaethol ac Ymarfer Dosbarthu Da (GDP) perthnasol ar gyfer cofnodi gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr:
**goruchwyliwr, rheolwr llinell, cydweithiwr
Cynnyrch meddyginiaethol:
sylwedd neu gyfuniad o sylweddau a weinyddir i fodau dynol neu anifeiliaid trwy chwistrell, ei roi trwy'r geg, ei fewnanadlu, ac yn y blaen, gyda'r diben o drin neu atal clefydau
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu:
rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
* **
*
*Offer Amddiffynnol Personol (PPE):*
Dillad ac offer amddiffynnol personol, dillad gwaith brand
Problemau yn crynhoi archebion:
adnabod stoc, meintiau stoc, stoc wedi ei niweidio, deunyddiau pecynnu, dogfennau
Systemau rheoli stoc:
â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, offer cofnodi a sganio cludadwy
Ymarfer Dosbarthu Da (GDP):
y rhan o'r sicrwydd ansawdd sydd yn sicrhau bod ansawdd cynnyrch meddyginiaethol yn cael ei gynnal trwy bob cyfnod o'r gadwyn gyflenwi. Mae hyn yn cyfeirio at gaffael, cadw, storio neu ddosbarthu cynnyrch meddyginiaethol i fanwerthwyr, fferyllfeydd, cyfanwerthwyr neu berson ag awdurdod i gyflenwi cynnyrch meddyginiaethol sydd yn gorfod meddu ar yr awdurdod perthnasol wedi ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae dosbarthu cynnyrch meddyginiaethol yn cynnwys y rheiny ar gyfer defnydd pobl a milfeddygon ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â rheolau a rheoliadau'r UE ar Ymarfer Dosbarthu Da