Cynnal Diogelwch Bwyd wrth Ddosbarthu
URN: SFLFSLE159
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
29 Meh 2009
Trosolwg
Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch bwyd wrth ddosbarthu mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.
Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio bod y cofnodion cywir yn barod i dderbynnydd yr eitemau bwyd eu dilysu
- sicrhau nad yw eitemau sydd i fod cael eu dosbarthu wedi cael eu niweidio wrth eu cludo
- sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i gynnal amodau amgylcheddol gofynnol ardal llwytho cerbydau wrth ddadlwytho
- dadlwytho eitemau bwyd i leoliad a gytunwyd gyda’r cleient ac sydd yn cynnal diogelwch yr eitemau bwyd
- cymryd y camau priodol i sicrhau bod risg yn cael ei leihau pan fydd cleientiaid yn gwrthod derbyn eitemau bwyd oherwydd pryderon yn ymwneud â’u diogelwch, neu am resymau eraill
- gwirio a chytuno gyda’r cleient bod yr eitemau bwyd cywir wedi cael eu dosbarthu
- cael y gwaith papur perthnasol gan y cleient fel cofnod a chadarnhad dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam y mae’n bwysig cadw’r cerbyd yn lân
- y lefelau tymheredd sy’n berthnasol i’r categorïau amrywiol o eitemau bwyd y mae eu tymheredd yn cael ei reoli sydd yn cael eu cludo.
- pam y mae’n bwysig cynnal tymheredd gofynnol yr ardal llwytho cerbydau
- y rôl y mae rheoli tymheredd yn ei chwarae yn cynnal diogelwch bwyd
- y peryglon a allai arwain at ardal ddosbarthu’n cael ei hystyried yn anniogel
- pam y mae’n bwysig cynnal y gallu i olrhain bwyd trwy ddefnyddio cofnodion cywir bwyd sydd wedi cael ei ddosbarthu neu ei ddychwelyd.
- y rhesymau pam y gallai cleientiaid wrthod eitemau bwyd
- gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi ac ymdrin ag eitemau i’w dychwelyd.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Bwyd: Bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid
Gallu i olrhain: Y gallu i olrhain a dilyn bwyd neu sylwedd trwy bob cam o’r gadwyn fwyd. Gallai’r broses a ddefnyddir fod yn ffocws canolog o’r ‘Gweithdrefnau Rheoli Diogelwch Bwyd’.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Medi 2012
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLFSLE159
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad y Grîn, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
Diogelwch Bwyd Dosbarthu