Glanhau y Tu Mewn i Gerbyd i Gynnal Diogelwch Bwyd

URN: SFLFSLE158
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Meh 2009

Trosolwg


Am beth mae’r safon hon
Y safon hon yw glanhau eich cerbyd i gynnal diogelwch bwyd mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.

Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sydd yn gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. dilyn y cyfarwyddiadau glanhau yng ngweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y sefydliad
  2. dadlwytho cynnwys y cerbydau 
  3. tynnu popeth sydd yn rhydd ac wedi baeddu
  4. defnyddio cyfarpar glanhau addas yn ddiogel ac yn unol â’r cyfarwyddiadau 
  5. defnyddio cyfrwng glanhau priodol ar y cryfder a argymhellir gan y gwneuthurwr, i lanhau holl arwynebau mewnol y cerbyd
  6. asesu eich glanhau wrth i chi wneud y gwaith
  7. cymryd camau priodol pan fydd achosion o blâu yn cael eu nodi ac adrodd wrth y person priodol
  8. golchi pob arwyneb a’u diheintio â diheintydd di-arogl, ar y cryfder a argymhellir, gan adael arwynebau yn rhydd rhag gweddillion glanhau
  9. sychu neu awyr-sychu y tu mewn i’r cerbyd, yn dibynnu ar y bwyd sy’n cael ei gludo


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. ble i gael gafael ar weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y sefydliad
  2. pam mae’n rhaid symud bwyd neu gynnwys arall cyn glanhau
  3. y dulliau cywir o lanhau a chanlyniadau peidio â gwneud hyn yn gywir
  4. yr amrywiaeth o gyfarpar glanhau, a sut a phryd i’w ddefnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol
  5. yr amrywiaeth o gyfryngau glanhau sydd yn addas ar gyfer yr arwynebau yr ydych yn eu glanhau, a sut a phryd i’w defnyddio’n ddiogel ac yn effeithiol
  6. sut i edrych am weddillion glanhau
  7. beth i’w wneud pan fydd achosion o blâu yn cael eu nodi
  8. y dull o sychu’r cerbyd ar gyfer mathau gwahanol o fwyd, a pham y mae hyn yn bwysig


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Person priodol: Gallai hyn fod yn oruchwyliwr neu reolwr

Bwyd: Bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd: Y polisïau, yr arferion, y rheolyddion a’r dogfennau sydd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr, e.e. Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Hanfodol (HACCP).

Plâu: Presenoldeb plâu fel pryfed neu gnofilod yn yr ardal storio sydd yn rhoi diogelwch bwyd mewn perygl

Baeddu: Eitemau gwastraff a allai achosi risg diogelwch bwyd os na chânt eu symud, h.y. deunydd pacio gwastraff, eitemau bwyd wedi eu niweidio, gollyngiadau a baw cyffredinol.

Cyfarpar glanhau: Eitemau o gyfarpar a ddefnyddir i lanhau ardaloedd storio bwyd ar gerbydau neu mewn warysau. Gallai hyn gynnwys brwshis, mopiau, cyfryngwyr glanhau, golchwyr pwerus neu gyfarpar arbenigol glanhau â stêm.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Medi 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLFSLE159

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

Glân Cerbyd Diogelwch Bwyd