Cynnal Storfa Diogelwch Bwyd wrth Lwytho a Dadlwytho
URN: SFLFSLE157
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Gyrru Cerbydau Nwyddau
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2009                        
                    
                Trosolwg
Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch bwyd wrth lwytho neu ddadlwytho mewn amgylchedd logisteg.  Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.
Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod y bwyd a/neu ei orchudd/deunydd lapio heb ei niweidio, ei fod ar y tymheredd cywir, ac o fewn ei ddyddiad defnyddio olaf wrth gyrraedd a’i anfon
- edrych ar a chofnodi unrhyw wybodaeth bwysig ar y label
- paratoi bwyd ar gyfer ei storio a’i roi yn y lleoliad cywir mor gyflym ag sydd angen i gynnal ei ddiogelwch
- osgoi’r risg o groes-halogi
- ymdrin ag unrhyw ollyngiadau neu niwed mewn ffordd briodol yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- cadw cofnodion angenrheidiol wedi eu diweddaru
- ymdrin â bwyd mewn ffordd sydd yn sicrhau bod diogelwch bwyd yn cael ei gynnal
- ymdrin yn brydlon ac yn briodol â dangosyddion peryglon diogelwch bwyd posibl pan fydd gennych yr awdurdod i wneud hynny
- os nad oes gennych yr awdurdod i ymdrin â dangosyddion peryglon diogelwch bwyd posibl eich hun, adrodd yn brydlon wrth y person priodol
- cyn llwytho gwirio bod y cerbyd yn lân ac ar y tymheredd cywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam y mae’n bwysig sicrhau bod dosbarthiadau bwyd heb eu niweidio, ar y tymheredd cywir ac o fewn eu ‘dyddiad defnyddio olaf’ a sut i wneud hyn
- pam y mae’n bwysig paratoi bwyd ar gyfer ei storio – er enghraifft trwy dynnu a gwaredu deunydd pacio allanol (tra’n cadw unrhyw wybodaeth bwysig ar y gorchudd, e.e., cyfarwyddiadau defnyddio, gwybodaeth am alergenau)
- pam y mae’n rhaid rhoi bwyd yn yr ardal storio gywir a’r tymheredd y dylid storio bwydydd gwahanol
- pam y mae’n bwysig bod ardaloedd storio yn lân ac yn daclus a beth i’w wneud os nad ydynt
- pam y mae’n bwysig storio bwyd ar y tymheredd cywir, a sut i gyflawni hyn.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Bwyd: Bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid  
Dangosyddion peryglon diogelwch bwyd posibl: Pethau allai wneud bwyd yn anniogel ar gyfer defnyddwyr, er enghraifft:
•  deunydd pacio wedi ei niweidio
•    gollyngiadau ar fwyd arall
•    stoc y mae ei oes wedi darfod
• bwyd nad yw wedi ei storio lle dylai fod
•  cyfleusterau storio a cherbydau nad ydynt yn gweithredu ar y tymheredd cywir
•  gwastraff bwyd y mae angen ei waredu
•  baw
•   plâu fel cnofilod neu bryfed
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2012        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Skills for Logistics
        
    
URN gwreiddiol
        SFLFSLE157
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses        
    
Cod SOC
        8214
        
    
Geiriau Allweddol
            Diogelwch Bwyd Storfa