Dyfeisio a Gweithredu Gweithdrefnau Rheoli Diogelwch Bwyd mewn Amgylchedd Logisteg
URN: SFLFSLE156
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
29 Meh 2009
Trosolwg
Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â dyfeisio a gweithredu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.
Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi a gwneud defnydd o’r arweiniad a’r cymorth sydd ar gael ar eich cyfer ym maes rheoli diogelwch bwyd
- nodi gofynion gweithredu y sefydliad a pheryglon diogelwch bwyd cysylltiedig
- nodi’r materion rheoli diogelwch bwyd sydd yn gysylltiedig â’r gofynion gweithredol a’r peryglon hyn
- dewis mesurau rheoli dilys ar gyfer y peryglon diogelwch bwyd yr ydych wedi eu nodi
- cyfathrebu gofynion allweddol y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd wrth y bobl berthnasol
- sicrhau bod hyfforddiant digonol yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu cynnal
- sicrhau bod gweithgareddau gwaith yn cael eu hadrodd a’u cofnodi yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd sefydliad
- monitro’r ffordd y mae gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth diogelwch bwyd yn cael ei dilyn
- annog hinsawdd agored ynghylch bodloni gofynion diogelwch bwyd
- addasu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn unol â newidiadau mewn anghenion sefydliadol
- gwerthuso gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwysigrwydd gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
gofynion deddfwriaethol diogelwch bwyd
- elfennau hanfodol gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- ffynonellau arweiniad a chymorth arbenigol i lunio gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a sut i gael mynediad at hyn
- gofynion gweithredol eich sefydliad ynghylch pa fesurau rheoli i’w rhoi ar waith
- sut i gyfathrebu cyfrifoldebau staff o fewn y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- sut i nodi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar staff
- y cofnodion a’r gweithdrefnau cofnodi ddylai fod ar waith
- sut i ddarparu hyfforddiant priodol
- pwysigrwydd, a’r cyfrifoldeb dros fonitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- y mathau o wyriadau o’r gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a allai ddigwydd a’r camau unioni y dylech eu cymryd
- pwysigrwydd gwerthuso’r gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd a’r hyn y dylid ei gynnwys
- sut i gynnal gwerthusiad rheolaidd ac wedi ei gynllunio o’r gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- ffactorau a allai sbarduno diweddariad uniongyrchol y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
- pwysigrwydd cyfathrebu unrhyw newidiadau yn y gweithdrefnau wrth eich staff
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mesurau rheoli: Gweithredoedd sy’n ofynnol i atal neu ddileu perygl diogelwch bwyd, neu ei leihau i lefel dderbyniol
Peryglon diogelwch bwyd: Rhyw
beth all achosi niwed i’r defnyddiwr a gall fod:
• yn ficrobiolegol (er enghraifft, bacteria, llwydni, feirysau)
• yn gemegol (er enghraifft, plaladdwyr a ddefnyddir ar ffrwythau a llysiau, cemegau a ddefnyddir i lanhau neu i reoli plâu)
• yn ffisegol (er enghraifft, pryfed, parasitiaid, gwydr)
• yn alergenaidd (er enghraifft cnau, llaeth, wyau)
Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd: Y polisïau, yr arferion, y rheolyddion a’r dogfennau sydd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr, e.e. Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Hanfodol (HACCP).
Gweithdrefnau: Cyfres o gamau neu gyfarwyddiadau clir ynghylch sut i wneud pethau; rheolau. Mae rhai cwmnïau yn cofnodi eu gweithdrefnau yn ffurfiol yn ysgrifenedig, ac mae gan eraill weithdrefnau y mae’r staff i gyd yn eu deall a’u dilyn ond sydd heb eu hysgrifennu i lawr.
Hyfforddiant: Dod ag unigolyn i fyny i’r lefel neu’r safon hyfedredd dymunol. Gellir gwneud hyn trwy gyfarwyddyd neu trwy gyrsiau hyfforddiant ffurfiol. Mae hyn hefyd yn cynnwys darparu hyfforddiant diweddaru a recordio cysylltiedig y gweithgaredd hyfforddi.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Medi 2012
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLFSLE156
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
Diogelwch Bwyd Gweithdrefnau Rheoli Logisteg