Gweithredu a Monitro Gweithdrefnau Rheoli Diogelwch Bwyd

URN: SFLFSLE155
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Meh 2009

Trosolwg


Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithredu a monitro gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cwmpasu’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.

Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sydd yn gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Nodi peryglon diogelwch bwyd perthnasol a mesurau rheoli priodol 
  2. Dyrannu a goruchwylio cyfrifoldebau diogelwch bwyd
  3. Nodi a bodloni anghenion hyfforddiant a datblygiad staff
  4. Sicrhau bod yr holl reolyddion gweithredu a nodwyd yn cael eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  5. Cadw cofnodion cywir a chyflawn o wiriadau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd
  6. Cymryd cam(au) cywiro priodol gyda graddfa briodol o frys
  7. Adrodd wrth y person priodol am unrhyw weithdrefnau nad ydynt yn cydymffurfio â mesurau rheoli
  8. Cael cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer materion y tu hwnt i lefel eich awdurdod neu eich arbenigedd
  9. Argymell addasiadau i weithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn unol â newidiadau mewn anghenion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. pwysigrwdd cael gweithdrefnau diogelwch bwyd a’r mathau o beryglon diogelwch bwyd
  2. beth yw mesurau rheoli yn cynnwys pwyntiau rheoli hanfodol
  3. eich cyfrifoldebau yn unol â gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd eich sefydliad, yn cynnwys y pwyntiau rheoli hanfodol yn ymwneud â gweithgaredd eich gwaith
  4. sut i gyfathrebu cyfrifoldebau ar gyfer gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd i gydweithwyr a sicrhau eu bod wedi cael eu deall
  5. sut i sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant priodol i fodloni eu cyfrifoldebau diogelwch bwyd
  6. effaith goddefiant yn ystod pwyntiau rheoli hanfodol a phwyntiau rheoli ar ddiogelwch bwyd a’ch sefydliad
  7. math ac amlder y gwiriadau y dylech eu cyflawni i reoli diogelwch bwyd yng ngweithgareddau eich gwaith
  8. y gweithdrefnau adrodd pan fydd mesurau rheoli’n methu
  9. y cofnodion sy’n ofynnol ar gyfer rheoli diogelwch bwyd, a sut i’w cynnal
  10. pwysigrwydd ‘y gallu i olrhain' a pham y mae’n bwysig i ddiogelwch bwyd
  11. mathau a dulliau camau unioni i reoli peryglon diogelwch bwyd
  12. beth yw gwelliant parhaus a pham y mae’n bwysig cyfrannu at bwysigrwydd y broses wella
  13. deddfwriaeth ar ddiogelwch bwyd yn eich maes cyfrifoldeb 
  14. ffynonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth diogelwch bwyd
  15. sut dylai swyddogion gweithredu ymdrin â gweithdrefnau sefydliadol yn ymwneud â diogelwch bwyd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Mesurau rheoli: Gweithredoedd sy’n ofynnol i atal neu ddileu perygl diogelwch bwyd, neu ei leihau i lefel dderbyniol

Pwynt rheoli: Cyfnod allweddol yn y gadwyn fwyd lle dylid cymryd camau priodol i atal perygl diogelwch bwyd neu i leihau’r risg cysylltiedig

Cam unioni: Y cam i’w gymryd pan fydd terfyn hanfodol yn cael ei dorri

Pwynt rheoli hanfodol: Cyfnod allweddol yn y gadwyn fwyd lle dylid cymryd camau priodol i atal perygl diogelwch bwyd neu i leihau risg cysylltiedig

Peryglon diogelwch bwyd: Rhywbeth a allai achosi niwed i’r defnyddiwr a gall fod:
yn ficrobiolegol (er enghraifft, bacteria, llwydni, feirysau)
yn gemegol (er enghraifft, plaladdwyr a ddefnyddir ar ffrwythau a llysiau, cemegau a ddefnyddir i lanhau neu i reoli plâu)
yn ffisegol (er enghraifft, pryfed, parasitiaid, gwydr)
yn alergenaidd (er enghraifft cnau, llaeth, wyau)

Gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd: Y polisïau, yr arferion, y rheolyddion a’r dogfennau sydd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr, e.e. Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Hanfodol (HACCP).

Gweithdrefnau: Cyfres o gamau neu gyfarwyddiadau clir ynghylch sut i wneud pethau; rheolau. Mae rhai cwmnïau yn cofnodi eu gweithdrefnau yn ffurfiol yn ysgrifenedig, ac mae gan eraill weithdrefnau y mae’r staff i gyd yn eu deall a’u dilyn ond sydd heb eu hysgrifennu i lawr.

Goddefiant: Y gwahaniaeth rhwng y terfynau a gynlluniwyd neu safonol a ganiateir a’r gwerthoedd gwirioneddol sydd yn cael eu monitro


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Medi 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLFSLE155

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

Diogelwch Bwyd Gweithdrefnau