Cynnal Diogelwch Bwyd wrth Gludo
URN: SFLFSLE154
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
29 Meh 2009
Trosolwg
Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch bwyd wrth gludo mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.
Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod y cerbyd yn lân yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Sefydlu pa nwyddau sy’n cael eu dosbarthu ac unrhyw ofynion diogelwch bwyd penodol
- Cynnal gwiriadau penodol ar y cerbyd, fel sy’n ofynnol, i sefydlu a yw’r cerbyd yn cyd-fynd â diogelwch y bwyd
- Gwirio cyflwr y llwyth am beryglon diogelwch bwyd posibl
- Sicrhau bod unrhyw godau ar y bwyd yn cyd-fynd â dogfennau, lle y bo’n briodol
- Cofnodi gwiriadau a gweithgareddau gwaith yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Ymdrin yn brydlon ac yn briodol â dangosyddion peryglon bwyd posibl pan fydd gennych yr awdurdod i wneud hynny
- Os nad oes gennych yr awdurdod i ymdrin â dangosyddion peryglon diogelwch bwyd posibl eich hun, adrodd amdanynt yn brydlon wrth y person priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pam y mae’n bwysig cadw’r cerbyd yn lân
- Natur a nodweddion y peryglon diogelwch bwyd posibl sydd yn gysylltiedig â’r bwyd sydd yn cael ei gludo a’i ddosbarthu
- Y rôl y mae rheoli tymheredd yn ei chwarae i gynnal diogelwch bwyd
- Y prif fathau o wiriadau i’w gwneud ar y cerbydau a’r bwyd sydd yn cael ei gludo
- Beth i’w wneud mewn digwyddiad fel damwain, torri i lawr, neu argyfwng arall er mwyn cynnal diogelwch bwyd
- Deddfwriaeth sy’n berthnasol i’ch maes cyfrifoldeb
- Cyfrifoldebau adrodd a’r systemau a ddefnyddir gan y sefydliad
- Arferion gwaith a gweithdrefnau gweithredu
- Rôl a chyfrifoldebau cydweithwyr
- Wrth bwy i adrodd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Person priodol i adrodd wrthynt: Gallai hyn fod yn oruchwyliwr neu reolwr
Bwyd: Bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid
Peryglon diogelwch bwyd: Rhywbeth a allai achosi niwed i’r cwsmer a gall fod: yn ficrobiolegol (er enghraifft, bacteria, llwydni, feirysau), yn gemegol (er enghraifft, plaladdwyr a ddefnyddir ar ffrwythau a llysiau, cemegion a ddefnyddir i lanhau neu i reoli plâu), yn ffisegol (er enghraifft, pryfed, parasitiaid, gwydr), alergenaidd (er enghraifft cnau, llaeth, wyau)
Dangosyddion peryglon diogelwch bwyd posibl: Pethau a allai wneud bwyd yn anniogel i ddefnyddwyr, er enghraifft:
deunydd pacio wedi ei niweidio, gollyngiadau ar fwyd arall, stoc y mae ei oes wedi darfod, bwyd heb ei storio lle dylai fod, cyfleusterau storio nad ydynt yn gweithredu ar y tymheredd iawn, gwastraff bwyd y mae angen ei waredu, baw, plâu fel cnofilod neu bryfed
Gweithdrefnau: Cyfres o gamau neu gyfarwyddiadau clir ynghylch sut i wneud pethau; rheolau. Mae rhai cwmnïau’n cofnodi eu gweithdrefnau’n ffurfiol yn ysgrifenedig, ac mae gan eraill weithdrefnau y mae’r staff i gyd yn eu deall ac yn eu dilyn ond sydd heb eu hysgrifennu i lawr.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Medi 2012
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLFSLE154
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
Diogelwch Bwyd Trafnidiaeth