Cynnal Hylendid Personol ar gyfer Diogelwch Bwyd mewn Amgylchedd Logisteg

URN: SFLFSLE152
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 29 Meh 2009

Trosolwg


Am beth mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn ymwneud â cynnal hylendid personol ar gyfer diogelwch bwyd mewn amgylchedd logisteg. Mae’n cynnwys y wybodaeth a’r sgiliau sydd yn ofynnol gan weithwyr yn y sector logisteg mewn perthynas â rheoliadau’r UE sy’n ei wneud yn ofyniad cyfreithiol i bob busnes sy’n ymdrin â bwyd (h.y. bwyd, diod a phorthiant anifeiliaid) i gael Systemau Rheolaeth Diogelwch Bwyd wedi eu sefydlu yn eu systemau gweithredu a rheoli.

Ar gyfer pwy mae’r safon hon
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gweithio ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi, yn cynnwys gyrwyr cerbydau, gweithredwyr warws a storio, goruchwylwyr a rheolwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Cadw eich gwallt, eich croen a’ch ewinedd mewn cyflwr addas ar gyfer gweithio gyda bwyd
  2. Dilyn gweithdrefnau sefydliadol ynghylch pa emwaith ac ategolion y gellir eu gwisgo
  3. Golchi eich dwylo ar yr adegau iawn gan ddefnyddio’r dulliau cywir
  4. Gwisgo dillad glân, yn cynnwys unrhyw ddillad amddiffynnol y mae’r sefydliad yn eu darparu
  5. Osgoi ymddygiad anniogel a allai halogi’r bwyd yr ydych yn ei weithio
  6. Adrodd am unrhyw glwyfau agored, heintiau’r croen a salwch heintus yn brydlon wrth y person priodol
  7. Sicrhau bod unrhyw glwyfau agored a heintiau’r croen yn cael eu trin a’u gorchuddio gyda rhwymynnau addas


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Sut mae gwallt, croen, ewinedd a dillad glân yn cyfrannu at hylendid bwyd
  2. Sut gall gemwaith ac ategolion eraill roi diogelwch bwyd mewn perygl 
  3. Y mathau o ddillad amddiffynnol y mae’n rhaid i chi eu gwisgo yn y gwaith
  4. Yr adegau iawn i olchi eich dwylo, a sut i olchi eich dwylo yn effeithiol
  5. Pam y mae’n rhaid i chi osgoi ymddygiad anniogel pan fyddwch yn gweithio gyda neu gerllaw bwyd
  6. Pam y mae’n rhaid i chi adrodd am unrhyw glwyfau agored, heintiau’r croen a salwch heintus, a phwy yw’r person priodol ar gyfer adrodd wrthynt amdanynt
  7. Pa salwch heintus ddylid adrodd amdanynt
  8. Pam y mae’n bwysig trin clwyfau agored a heintiau’r croen


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Ategolion: eitemau ychwanegol ar wahân i ddillad

Person priodol i adrodd wrthynt: Gallai hyn fod yn oruchwyliwr neu reolwr

Dillad amddiffynnol: Dillad y mae’r cwmni’n eu darparu ar eich cyfer am resymau diogelwch bwyd, a allai gynnwys:
trywsusau, topiau fel siacedi neu dabardiau, cotiau, menig tafladwy, offer pen fel capiau neu rwydi gwallt


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Medi 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLFSLE152

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol, Busnesau Cerbydau, Busnesau Paratoi Bwyd, Gweithredwyr Proses

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

Hylendid Personol Logisteg