Dadlwytho cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu nwyddau
URN: SFLDGV8
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dadlwytho’r cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu, fel rhan o ddyletswyddau gyrru. Mae’n cynnwys cyfrifoldeb gyrrwr i sicrhau bod y nwyddau a’r cerbyd yn dal yn ddiogel ac yn gyfreithlon yn ystod ac ar ôl dadlwytho.
Mae’r safon hon yn cynnwys dosbarthu gollyngiadau lluosog a/neu unigol. Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad ar gyfer cyfathrebu â chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho a gweithdrefnau prawf dosbarthu.
Gallai’r mathau o gerbydau fod yn faniau cynnyrch oer, sych ar baledi, cymysg, sgwteri, beiciau modur ac ati.
Gallai’r mathau o nwyddau fod yn fwyd (ffres, wedi rhewi, sych), pren, trydanol, mewn bocsys, eitemau cartref ac ati
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gyrrwr sy’n gyfrifol am ddosbarthu gollyngiadau lluosog neu unigol a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn gweithrediadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi cyfeiriad a manylion cyswllt y cwsmer ar gyfer nwyddau fel rhan o’r dosbarthu
- sicrhau bod yr ardal ddadlwytho yn addas ac yn ddiogel ar gyfer derbyn y nwyddau
- dilyn cyfarwyddiadau dadlwytho a chynllunio dadlwytho’r cerbyd
- symud y cerbyd i safle addas a diogel ar gyfer dadlwytho
- cadarnhau bod y cerbyd wedi ei baratoi ac yn barod ar gyfer dadlwytho
- cadarnhau bod y nwyddau, neu ran o’r nwyddau, i gael eu dadlwytho yn cael eu nodi mewn perthynas â’r dosbarthu
- cadarnhau bod y nwyddau yn addas ar gyfer eu trin â llaw neu fod y cyfarpar cywir yn cael ei ddethol ar gyfer dadlwytho’r cerbyd
- gwisgo’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth ddadlwytho’r cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion nwyddau
- cadarnhau bod cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr ar gyfer dosbarthu a’r cyfarpar yn cael eu dilyn wrth ddadlwytho’r cerbyd
- monitro dadlwytho’r cerbyd a chadarnhau ei fod wedi cael ei ddadlwytho yn unol â chyfarwyddiadau dadlwytho
- cadarnhau bod y nwyddau wedi eu gosod yn unol â gofynion y cwsmer unwaith y maent wedi eu dadlwytho
- ailddosbarthu’r nwyddau, fel y bo angen, yn ystod y dilyniant dosbarthu
- cadarnhau bod y nwyddau’n dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
- sicrhau, lle bo angen, bod y nwyddau sydd ar ôl mewn safle diogel ac yn sefydlog ar gyfer dosbarthu pellach
- cymryd camau ac adrodd os oes problemau yn dadlwytho’r cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio cofnodion prawf dosbarthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch, hylendid a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gynllunio a chadarnhau bod cyfarwyddiadau dadlwytho’n cael eu dilyn wrth ddadlwytho’r nwyddau o’r cerbyd
- sut i nodi’r nwyddau i gael eu dadlwytho a beth yw gofynion y cwsmer ar gyfer dadlwytho mewn perthynas â dosbarthu
- ble mae’r nwyddau i gael eu gosod ar gyfer y cwsmer
- sut dylid paratoi’r cerbyd ar gyfer dadlwytho mathau gwahanol o nwyddau
- sut i osod y cerbyd yn ddiogel ar gyfer dadlwytho nwyddau
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth ddadlwytho’r cerbyd
- sut i asesu a yw’r nwyddau yn addas ar gyfer eu trin â llaw a’r technegau i’w defnyddio ar gyfer codi’n ofalus
- sut i nodi’r cyfarpar cywir ar gyfer dadlwytho’r cerbyd
- sut i fonitro dadlwytho mathau gwahanol o nwyddau
- sut i ddilyn gofynion cwsmeriaid wrth osod y nwyddau yn y lleoliad dosbarthu
- y pholisïau a’r cyfarwyddiadau gweithredu yn ymwneud â mannau clicio a gollwng, casgliadau a dychweliadau
- pryd mae’n angenrheidiol ailddosbarthu’r nwyddau yn ystod y dilyniant dosbarthu a sut i wneud hynny
- sut i sicrhau bod y nwyddau mewn safle diogel ac yn sefydlog ac y gellir defnyddio’r ataliadau ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau
- sut i gadarnhau bod y nwyddau’n dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
- y math o broblemau a allai ddigwydd wrth ddadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau a’r camau y dylid eu cymryd
- y caledwedd a’r feddalwedd a ddefnyddir i gynllunio a rheoli dosbarthu a chasglu yn cynnwys dyfeisiadau llaw i ddilysu a chofnodi dosbarthu a darparu olrhain amser real
- y gweithdrefnau neu’r systemau prawf dosbarthu a ddefnyddir gan eich sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion dosbarthu
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r cerbyd
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch, hylendid a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
- Cwsmeriaid: mewnol, allanol
- Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
- Cyfarwyddiadau: ysgrifenedig, llafar
- Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, gollyngiadau unigol, gollyngiadau lluosog, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, ac ati
- Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau am yn ôl, troi
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig
- Prawf dosbarthu: dogfennau papur neu electronig (e.e. terfynellau llaw)
- Dadlwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol, gollyngiadau unigol, gollyngiadau lluosog
- Cyfarwyddiadau dadlwytho: cyfarwyddiadau llwyth, cyfarwyddiadau cwsmeriaid, gofynion llwyth, gweithdrefnau sefydliadol
- Cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys yr ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLDGV8
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
cerbyd nwyddau; dadlwytho; gollyngiadau lluosog; symud dodrefn