Llwytho cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu nwyddau
URN: SFLDGV7
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â llwytho cerbydau a ddefnyddir ar gyfer dosbarthu, gan ddefnyddio gwybodaeth am y math yma o lwyth, y gofynion dosbarthu a’r amserlen.
Mae’r safon hon yn cynnwys dosbarthu gyda gollyngiadau unigol neu luosog. Bydd yn cynnwys sicrhau bod y cerbyd wedi ei lwytho’n gywir cyn gyrru ar y ffordd gyhoeddus, p’un ai ei fod wedi cael ei lwytho gan y gyrrwr neu rywun arall. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut dylai llwyth gan ei osod yn ddiogel, y gwiriadau ffisegol y mae angen i yrrwr eu gwneud i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol cyn dechrau pob dyletswydd gyrru.
Gallai’r mathau o gerbydau fod yn faniau cynnyrch oer, sych ar baledi, cynnyrch cymysg, sgwteri, beiciau modur ac ati.
Gallai’r mathau o nwyddau fod yn fwyd (ffres, wedi rhewi, sych) pren, trydanol, mewn bocsys, eitemau cartref ac ati.
Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad ar gyfer cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r cerbyd nwyddau.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gyrrwr sy’n gyfrifol am ddosbarthu gollyngiadau unigol neu luosog a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth ofynnol ar gyfer llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau, gan gadarnhau bod y nwyddau’n cyd-fynd â’r dogfennau dosbarthu perthnasol
- cadarnhau bod y nwyddau ar gyfer eu llwytho mewn cyflwr da heb unrhyw ddiffygion, niwed neu wallau
- cadarnhau bod y cerbyd yn gweddu i’r nwyddau i gael eu cario
- sicrhau a chadarnhau bod y cerbyd yn barod i dderbyn y nwyddau
- sicrhau bod yr ardal lwytho yn addas ac yn ddiogel ar gyfer llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu
- symud y cerbyd i safle addas a diogel ar gyfer llwytho
- gwisgo’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth lwytho’r cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion y llwyth
- gweithredu ac adrodd am unrhyw faterion o ran llwytho, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- llwytho’r cerbyd yn gywir gan ddilyn y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, gan ystyried y math o nwyddau, y dilyniant llwytho ac unrhyw ddilyniannau dosbarthu
- sicrhau bod unrhyw nwyddau cymysg yn cael eu llwytho mewn ffordd sy’n osgoi halogi ac sy’n bodloni unrhyw safonau diogelwch perthnasol
- cadarnhau bod y pwysau’n cael ei ddosbarthu’n gywir ar gyfer y math o gerbyd
- gwneud y llwyth yn ddiogel gyda’r ataliaeth gywir
- gwneud unrhyw ddeunydd rhydd, ataliaeth a chyfarpar ategol yn ddiogel, gan sicrhau nad ydynt yn gallu symud na dod yn rhydd wrth eu cludo
- ailddosbarthu’r nwyddau fel y bo angen yn ystod y dilyniant dosbarthu
- cadarnhau bod y nwyddau’n dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
- cadarnhau bod yr holl ofynion diogelwch perthnasol ar gyfer cludo’r nwyddau’n cael eu dilyn, yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
- cadarnhau bod yr holl wybodaeth ofynnol ar gyfer pob llwyth yn gyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, hylendid, diogelwch a gweithredol perthnasol yn ymwneud â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael y wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol ar gyfer llwytho’r cerbydau ar gyfer dosbarthu nwyddau a phwysigrwydd paru nwyddau â’r dogfennau dosbarthu perthnasol
- pam y mae’n bwysig archwilio a nodi diffygion, niwed neu wallau gyda’r nwyddau a beth allai ddigwydd os nad oes archwiliadau’n cael eu cwblhau
- y mathau o gyfyngiadau llwyth ar gyfer y cerbyd a sut i sicrhau bod y llwyth o fewn y terfyn (e.e. terfyn pwysau a dosbarthiad pwysau)
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth lwytho’r cerbydau ar gyfer dosbarthu nwyddau
- sut dylai’r cerbyd gael ei baratoi ar gyfer y nwyddau gwahanol sydd yn cael eu cario
- y dilyniant llwytho i’w ddilyn wrth lwytho ar gyfer dosbarthu
- sut i leoli’r cerbyd yn ddiogel ar gyfer llwytho
- sut i ddosbarthu’r nwyddau wrth lwytho’r cerbyd
- pwysigrwydd osgoi halogi unrhyw nwyddau cymysg
- pryd mae’n angenrheidiol ailddosbarthu’r nwyddau yn ystod y dilyniant dosbarthu a sut i wneud hynny
- sut i sicrhau bod y nwyddau wedi eu gosod yn ddiogel ac yn sefydlog ar gyfer yr ataliaeth y gellir eu defnyddio ar gyfer mathau gwahanol o lwythi
- y materion a allai ddigwydd os nad yw deunyddiau rhydd, ataliaeth a chyfarpar ategol wedi eu gwneud yn ddiogel
- y mathau o faterion a allai ddigwydd wrth lwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau a’r camau y dylid eu cymryd
- sut i gynnal diogelwch a sefydlogrwydd y nwyddau wrth ddosbarthu
- sut i sicrhau bod y nwyddau’n parhau’n rhydd rhag niwed neu halogiad
- y gweithdrefnau sefydliadol i’w dilyn os yw’r nwyddau’n cael eu niweidio neu eu halogi
- sut a ble i wirio pwysau echelau ar y cerbyd a pham mae angen hyn
- y caledwedd a’r feddalwedd a ddefnyddir i gynllunio a rheoli dosbarthu a chasglu, yn cynnwys dyfeisiadau llaw i ddilysu a chofnodi dosbarthu a darparu olrhain amser real
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, hylendid, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â llwytho’r cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
- Cwsmeriaid: mewnol, allanol
- Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
- Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, gollyngiad unigol, gollyngiad lluosog, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau ac ati
- Llwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol, gollyngiadau unigol a lluosog
- Ardal lwytho: safleoedd diwydiannol/masnachol, safleoedd manwerthu, ffordd gyhoeddus
- Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau am yn ôl, troi
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig
- Ataliaeth: strapiau, estyll, plociau, cadwyni, rhaffau
- Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed
- Cerbyd ar gyfer dosbarthu nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys yr ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol, cerbyd cynnyrch oer, cymysg
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLDGV7
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
cerbyd nwyddau; llwyth; gweithgareddau gollyngiadau lluosog; gweithgareddau gollyngiad unigol; symud dodrefn