Gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd. Mae’n cynnwys defnyddio rheolyddion cerbyd i gynyddu diogelwch ac effeithlonrwydd tanwydd, a gwybodaeth am y ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd tanwydd a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd. Bydd tanwydd yn cynnwys petrol, diesel, hybrid, trydanol, a chell tanwydd hydrogen.
Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
monitro ac addasu i newidiadau mewn amodau gyrru tra’n gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
monitro ac addasu i newidiadau yn symudiad y llwyth sydd yn cael ei gario tra’n gyrru
- monitro sefydlogrwydd y llwyth tra’n gyrru
- monitro ac ymateb i unrhyw beryglon posibl gan y llwyth tra’n gyrru
- monitro ac ymateb i unrhyw beryglon posibl ar y ffordd gyhoeddus neu’r ardaloedd cyfagos
- gosod y cerbyd nwyddau a chymhwyso disgyblaeth lonydd i gynnal eich diogelwch eich hun a defnyddwyr eraill y ffordd, yn unol â’r amodau gyrru, y cerbyd nwyddau a’r llwyth sydd yn cael ei gario
- rhoi’r arwyddion cywir i ddefnyddwyr eraill y ffordd, mewn pryd, fel eu bod yn ymwybodol o’r symudiadau yr ydych yn bwriadu eu gwneud
- gyrru’r cerbyd nwyddau ar y cyflymder gofynnol ar gyfer yr amodau gyrru ac mewn ffordd sy’n lleihau’r defnydd o danwydd a thraul ar y cerbyd a systemau brecio
- cynnal sefydlogrwydd y llwyth tra’n gyrru ar y cyflymder gofynnol mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
- defnyddio’r brêcs i arafu neu ddod â’r cerbyd nwyddau i stop yn gyfan gwbl, mewn ffordd wedi ei reoli sy’n berthnasol i’r amodau gyrru, y pellter sydd ar gael, y cerbyd a’r llwyth sydd yn cael ei gario
- goddiweddyd defnyddwyr eraill y ffordd mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd, yn unol ag amodau’r ffordd a chan gynnal diogelwch
- rheoli cyflymder a safle’r cerbyd nwyddau wrth wneud symudiadau
- cymryd camau ataliol i osgoi niwed i unrhyw ddefnyddwyr eraill y ffordd
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwy i’w hysbysu os oes newidiadau yn yr amserlen yn deillio o amodau gyrru, a allai effeithio ar effeithlonrwydd tanwydd
nodweddion y llwyth sydd yn cael ei gario
- sut i nodi ac addasu arddulliau gyrru i newidiadau mewn amodau gyrru
- sut i nodi ac addasu arddulliau gyrru i newidiadau yn symudiad y llwyth
- sut i gynnal sefydlogrwydd y llwyth wrth deithio
- y weithdrefn iechyd a diogelwch gywir ar gyfer ymdrin â symudiad neu ollyngiadau’r llwyth sydd yn cael ei gario
- sut gallai gweithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd achosi colli rheolaeth o’r cerbyd nwyddau
- sut i nodi pan fydd defnyddwyr eraill y ffordd ar fin newid cyfeiriad a chyflymder
- sut i osod y cerbyd nwyddau ar y ffordd i sicrhau eich diogelwch eich hun a defnyddwyr eraill y ffordd
- pryd i ddefnyddio arwyddion i nodi newid safle
- sut dylid newid cyflymder y cerbyd nwyddau i fodloni mathau gwahanol o amodau ffordd, i gynnal sefydlogrwydd y llwyth a’r defnydd o danwydd
- sut i ddefnyddio’r rheolyddion a gêrs y cerbyd i addasu cyflymder a gyrru mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
- sut i asesu a chynnal pellterau gwahanu diogel
- y ffactorau sy’n effeithio ar bellterau stopio’r cerbyd nwyddau
- y math o beryglon sydd yn gysylltiedig â goddiweddyd, pryd ddylai goddiweddyd ddigwydd, a phryd na ddylai ddigwydd
- y ffactorau sy’n effeithio ar y pellter sy’n ofynnol i oddiweddyd defnyddwyr eraill y ffordd
- y mathau o beryglon a allai ddigwydd ar ffyrdd cyhoeddus
- sut i ddefnyddio rheolyddion y cerbyd nwyddau i addasu brecio o dan amodau ffordd gwahanol
- yr effaith y gallai brecio sylweddol ei gael ar sefydlogrwydd y llwyth, addasrwydd y cerbyd nwyddau a’r defnydd o danwydd
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gweithredu perthnasol sy’n ymwneud â gyrru’r cerbyd nwyddau ar ffyrdd cyhoeddus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
Tanwydd: Hybrid, Trydanol, Cell tanwydd hydrogen, petrol a diesel
Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
Peryglon: cyflwr y ffordd, tywydd, amodau traffig, trefn y ffordd, dodrefn stryd, tirwedd, cerddwyr
Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau ac ati
Sefydliad: y cwmni yr ydych yn gyrru iddo neu eich busnes eich hun
Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed