Symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn gofod cyfyngedig
URN: SFLDGV4
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â symud cerbyd nwyddau neu dancer mewn unrhyw ofod cyfyngedig, naill ai ar ffordd gyhoeddus, mewn canolfan neu ar eiddo’r cwsmer. Mae’n cynnwys y gwiriadau y mae angen i yrrwr eu gwneud cyn bod symudiad yn cael ei wneud a’r ffordd i symud yn ddiogel.
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau neu danceri, a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau a ddefnyddir mewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi unrhyw beryglon cyn symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer
- gwybod pan fydd y gofod sydd ar gael i symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn gyfyngedig
- cynllunio sut byddwch yn gwneud y symudiad gofynnol yn y gofod cyfyngedig
- rhoi arwydd o’r bwriad i symud mewn digon o amser i ddefnyddwyr eraill y ffordd ymateb
- monitro gweithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd trwy gydol y symudiad, gan ystyried unrhyw newidiadau i’r gofod yr ydych yn ceisio symud i mewn iddo
- symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer ar gyflymder priodol ar gyfer y cerbyd, ei lwyth a’r gofod cyfyngedig y mae’r cerbyd yn ceisio symud ynddo
- cynnal eich diogelwch eich hun, y llwyth, y cerbyd a defnyddwyr eraill y ffordd a’r amgylchedd cyfagos wrth symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn y gofod cyfyngedig
- cwblhau’r symudiad fel bod y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn safle addas ar gyfer y gweithgaredd gofynnol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn gofod cyfyngedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- dimensiynau’r cerbyd nwyddau neu’r tancer, ei nodweddion trin ac unrhyw hongian drosodd ar y cefn neu’r ochrau a allai effeithio ar symud, ac unrhyw addasiadau cerbyd a allai gyfyngu ar symudiad a chyflymder
- Y cliriadau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y cerbyd nwyddau neu’r tancer i gynnal y gweithgaredd gofynnol
- y mathau a nodweddion y gofod cyfyngedig a allai effeithio ar symud
- yr hyn sydd angen ei ystyried wrth gynllunio sut i wneud y symudiad angenrheidiol yn y gofod cyfyngedig, a phryd gallai fod angen cymorth
- yr addasiadau i’r cerbyd neu’r cyfarpar a allai gynorthwyo neu effeithio ar symud
- y mathau o arwyddion y gellir eu defnyddio wrth symud
- yr arsylwadau sydd yn ofynnol i gynnal eich diogelwch eich hun, y llwyth, y cerbyd, defnyddwyr eraill y ffordd a’r amgylchedd cyfagos, wrth symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn y gofod cyfyngedig
- y mathau o beryglon a allai ddigwydd wrth symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer yn y gofod cyfyngedig
- effeithiau defnyddio’r cyflymder anghywir wrth symud
- beth i’w ystyried wrth nodi lle addas i osod y cerbyd nwyddau neu’r tancer ar gyfer y gweithgaredd
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â symud y cerbyd nwyddau neu’r tancer mewn gofod cyfyngedig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- Gweithgaredd: llwytho, dadlwytho, ail-lenwi â thanwydd, parcio, cynnal a chadw
- Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
- Cerbyd nwyddau neu dancer: y cerbyd nwyddau neu’r tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys yr ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
- Peryglon: cyflwr y ffordd, amodau traffig, trefn y ffordd, dodrefn stryd, tirwedd, cerddwyr, defnyddwyr eraill y ffordd
Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd ac ati
Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau am yn ôl, troi
- Gofod cyfyngedig: gofod bach, mannau anodd i fynd iddynt, gofod â mannau y mae’n anodd i gerbydau gael mynediad iddynt, gofod ag uchder a mynedfeydd cyfyngedig, gofod oddi ar y ffordd/priffordd heb unrhyw dramwyfa, gofod a rennir
- Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed
- Gofod: safleoedd diwydiannol/masnachol, safleoedd manwerthu, ffordd gyhoeddus, ardaloedd parcio, modurdai, priffordd gyhoeddus
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLDGV4
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
symud; cerbydau nwyddau; tanceri; gofod cyfyngedig