Gwirio a diogelu’r cerbyd nwyddau a’r llwyth
URN: SFLDGV2
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwirio a diogelu’r cerbyd nwyddau a’r llwyth ar adegau perthnasol yn ystod taith.
Mae’n cynnwys y gwiriadau ffisegol y mae angen i yrwyr eu gwneud, a’r gweithdrefnau perthnasol a’r dogfennau cysylltiedig y mae angen iddynt eu cwblhau. Mae’n gofyn bod gyrwyr yn ymwybodol o ffactorau a allai effeithio ar ddiogeledd y cerbyd nwyddau a’i lwyth, a’r camau y gallant eu cymryd i leihau’r risg.
Mae’r safon hon yn berthnasol i yrwyr cerbydau nwyddau a’r rheiny sy’n gyfrifol am y cerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth am weithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer gwirio a diogelu’r cerbyd nwyddau a’r llwyth sydd yn cael ei gario
- gwirio diogeledd y cerbyd nwyddau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio diogeledd a chyflwr y llwyth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- adrodd am unrhyw newid yng nghyflwr y llwyth sydd yn cael ei gludo, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- nodi unrhyw faterion gyda’r cerbyd nwyddau neu’r llwyth a chymryd y camau gofynnol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol i ddiogelu diogeledd y cerbyd nwyddau, chi eich hun, teithwyr a’r llwyth mewn lleoliadau gwahanol
- adrodd ar unrhyw ladrad neu niwed i’r cerbyd nwyddau neu’r llwyth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- ble i gael gwybodaeth am weithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer y cerbyd nwyddau a’r llwyth sydd yn cael ei gario
- y camau sy’n ofynnol pan fydd materion o ran cydymffurfio â gweithdrefnau gwirio’r sefydliad
- sut i nodi niwed neu ddirywiad i gyflwr y llwyth sydd yn cael ei gario
- gweithdrefnau adrodd y sefydliad os oes newid yng nghyflwr neu unrhyw faterion eraill gyda’r llwyth
- gweithdrefnau adrodd y sefydliad, os oes problem gyda’r cerbyd nwyddau
- gweithdrefnau adrodd y sefydliad ar gyfer lladrad neu niwed i’r cerbyd nwyddau neu’r llwyth
- y dulliau o ddiogelu’r cerbyd nwyddau a’r mathau gwahanol o lwyth
- y mathau o risg sydd yn gysylltiedig â diogelu’r cerbyd nwyddau, chi eich hun, teithwyr a’r llwyth mewn lleoliadau gwahanol
- y gweithdrefnau sefydliadol i’w dilyn ar gyfer diogelu’r cerbyd nwyddau a’r llwyth rhag y risgiau gwahanol a’r materion sydd yn gallu digwydd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
- Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliad
- Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, ac ati
- Lleoliadau: parcio dros nos, parcio yn ystod y dydd, ail-lenwi tanwydd, gyrru, llwytho, dadlwytho, croesfannau ffiniau, gorsafoedd gwasanaeth
- Risgiau: lladrad, herwgipio, niwed maleisus, dirywiad llwyth, eich diogeledd chi a theithwyr, masnachu mewn pobl, terfysgaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLDGV2
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
diogelu; gwirio; llwytho; nwyddau; cerbydau