Bachu a dadfachu’r ôl-gerbyd nwyddau

URN: SFLDGV10
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â bachu a dadfachu’r ôl-gerbyd nwyddau. Mae’n cynnwys dewis mannau diogel ac addas i fachu a dadfachu ôl-gerbydau. Mae’n cynnwys nodi a defnyddio cyfarpar bachu gwahanol, a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol. 

Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau mewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. symud y cerbyd nwyddau mewn perthynas â’r ôl-gerbyd, yn barod ar gyfer bachu a dadfachu
  2. sicrhau bod math, dyfnder ac uchder y cerbyd nwyddau a’r ôl-gerbyd yn addas ar gyfer bachu
  3. sicrhau bod brêcs yr ôl-gerbyd yn cael eu defnyddio cyn bachu a dadfachu’r cerbyd nwyddau
  4. symud y cerbyd nwyddau a phrofi bod y bachyn wedi cael ei gysylltu â’r ôl-gerbyd 
  5. gwneud yr holl gysylltiadau gofynnol eraill â’r cerbyd a’r ôl-gerbyd wrth fachu
  6. dilyn holl ganllawiau perthnasol y cynhyrchwyr a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) ar gyfer bachu a dadfachu’r cerbyd nwyddau a’r ôl-gerbyd
  7. cadarnhau bod systemau’r cerbyd nwyddau a’r ôl-gerbyd yn gweithio’n iawn ar ôl eu bachu, a bod y cerbyd yn ddiogel i’w yrru
  8. dewis safle diogel ar gyfer dadfachu ôl-gerbydau o’u cerbyd nwyddau
  9. datgysylltu â’r cysylltiadau rhwng y cerbyd nwyddau a’r ôl-gerbyd wrth ddadfachu
  10. sicrhau bod y dadfachu wedi cael ei gyflawni cyn gyrru’r cerbyd nwyddau i ffwrdd
  11. cydymffurfio â’r gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu wrth fachu a dadfachu ôl-gerbydau nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y systemau gwahanol ar gyfer bachu cerbydau nwyddau ac ôl-gerbydau a sut maent yn gweithio
  2. sut i sicrhau bod math, dyfnder ac uchder y cerbyd nwyddau a’r ôl-gerbyd yn addas ar gyfer bachu
  3. sut i gysylltu a datgysylltu’r mathau gwahanol o gysylltiadau wrth fachu a dadfachu’r ôl-gerbyd nwyddau
  4. sut i gadarnhau bod y cerbyd nwyddau yn cyd-fynd â’r ôl-gerbyd i gael ei fachu a’i ddadfachu, a pham y mae’n rhaid gwneud hyn
  5. pam a sut i sicrhau bod brêc yr ôl-gerbyd yn cael ei ddefnyddio cyn bachu a dadfachu
  6. sut i sicrhau bod y bachu gyda’r ôl-gerbyd wedi cael ei sefydlu 
  7. sut i sicrhau bod systemau’r cerbyd nwyddau a’r ôl-gerbyd yn gweithio’n iawn ar ôl bachu, a bod y cerbyd yn ddiogel i’w yrru
  8. sut i ddewis safle diogel ac addas ar gyfer dadgysylltu’r ôl-gerbyd nwyddau
  9. sut i baratoi’r ôl-gerbyd cyn dadfachu o’r cerbyd nwyddau
  10. pam a sut i gadarnhau bod yr holl gysylltiadau wedi eu gosod i ffwrdd yn gywir pan na fyddant yn cael eu defnyddio
  11. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol (yn cynnwys canllawiau’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau) ar gyfer bachu a dadfachu


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


  • Cysylltiadau: llinell aer, llinellau trydanol, hylifau
  • Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol
  • Gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), 
  • Gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
  • Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau am yn ôl, troi


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV10

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

bachu; dadfachu; cerbyd nwyddau; ôl-gerbyd