Paratoi’r cerbyd nwyddau ar gyfer ei yrru

URN: SFLDGV1
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau,Cludwr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi’r cerbyd nwyddau ar gyfer ei yrru a’i wirio cyn ei yrru ar ffyrdd cyhoeddus. Mae’n cynnwys y gwiriadau ffisegol y mae’n rhaid i yrwyr eu gwneud ar y cerbyd a’r dogfennau y mae angen iddynt eu cwblhau, i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol cyn dechrau pob dyletswydd gyrru.

Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad i’r gyrrwr wirio bod y dogfennau cyfreithiol perthnasol yn eu lle ar gyfer y cerbyd nwyddau a’r gyrrwr.

Mae’r safon hon yn berthnasol i yrwyr cerbydau nwyddau a’r rheiny sy’n gyfrifol am gerbydau nwyddau o fewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​paratoi’r cerbyd nwyddau ar gyfer ei yrru trwy gynnal gwiriadau i gynnal diogelwch y cerbyd
  2. gwneud gwiriadau cerdded o amgylch y cerbyd nwyddau yn ddyddiol yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, gan ddefnyddio fformat adrodd ar bapur neu’n electronig
  3. sicrhau bod holl systemau, rheolyddion ac offerynnau’r cerbyd yn gweithio, a bod y cerbyd nwyddau yn addas ar gyfer y ffordd
  4. sicrhau bod offer ategol, os ydynt wedi eu gosod neu eu cyflenwi, mewn cyflwr gweithredol
  5. sicrhau bod yr holl ddogfennau cyfreithiol gofynnol yn eu lle ar gyfer y gyrrwr, y cerbyd nwyddau a’r ôl-gerbyd os oes un yn cael ei ddefnyddio
  6. addasu olwyn lywio, drychau a sedd y cerbyd nwyddau er mwyn gallu rheoli, arsylwi a chael y cysur gorau posibl
  7. sicrhau bod gan y cerbyd nwyddau y maint gofynnol o danwydd, gwefr, ychwanegion, olew, dŵr a hylifau eraill
  8. cymryd y camau gofynnol pan fydd unrhyw ddiffygion gyda’r cerbyd nwyddau yn cael eu nodi, p’un ai’n newydd neu wedi ei adrodd yn flaenorol, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  9. nodi’r person sy’n gyfrifol am ryddhau’r cerbyd nwyddau ar gyfer gyrru gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  10. cwblhau’r holl ddogfennau sefydliadol yn ymwneud â pharatoi’r cerbyd nwyddau ar gyfer gyrru
  11. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, rheoliadol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â pharatoi’r cerbyd nwyddau ar gyfer ei yrru

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​cyfrifoldebau’r gyrrwr dros y cerbyd nwyddau a’r llwyth, yn cynnwys diogeledd y cerbyd (gallai hyn gynnwys diogeledd pobl a masnachu mewn pobl)
  2. y gwiriadau dyddiol y mae’n ofynnol ar yrwyr eu gwneud i gynnal diogelwch eu cerbydau, yn unol â gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), a chanlyniadau peidio â chwblhau’r gwiriadau dyddiol hyn
  3. sut i wirio systemau, rheolyddion ac offerynnau cerbydau, wrth baratoi’r cerbyd nwyddau ar gyfer ei yrru
  4. ble i ddod o hyd i wybodaeth am weithredu systemau, rheolyddion ac offerynnau cerbydau nwyddau
  5. y dogfennau cyfreithiol perthnasol sydd yn gorfod bod yn eu lle cyn bod y cerbyd nwyddau yn cael ei yrru
  6. pwysigrwydd addasu’r olwyn lywio, y drychau a’r sedd i gyd-fynd â’r gyrrwr a chynyddu rheolaeth, arsylwi a chysur
  7. dangosyddion o unrhyw broblemau trydanol neu fecanyddol gyda’r cerbyd nwyddau
  8. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd ar unrhyw ddiffygion a sut i gael gwybodaeth am broblemau a nodwyd yn flaenorol
  9. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhyddhau’r cerbyd nwyddau yn swyddogol ar gyfer ei yrru
  10. y dogfennau cyfreithiol perthnasol y mae eich sefydliad yn ei wneud yn ofynnol i chi eu cwblhau a’u cario gyda chi yn y cerbyd nwyddau
  11. y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â pharatoi’r cerbyd nwyddau ar gyfer ei yrru

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

  • Rheolyddion: cyflymydd, cydiwr, brêc troed, brêc llaw, olwyn lywio, gêrs, cyfeirwyr, goleuadau, sychwyr ffenestri, diniwlwyr, gwres ac awyru, Esgynfa Bŵer (PTO), clo differol

  • Offerynnau: mesurau, goleuadau rhybudd, arddangosiadau, rhybuddion sain, tacograff, dangosyddion pwysedd teiars, lefelau oeryddion, lefelau olew, pwysedd aer, lefelau gwefru

  • Dogfennau cyfreithiol: yswiriant, treth ffordd, plât cerbyd, plât ôl-gerbyd, tystysgrif prawf MOT cerbyd, tystysgrif prawf MOT ôl-gerbyd, trwydded gweithredwr trafnidiaeth, trwydded gyrrwr cerbyd nwyddau

  • Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu’n ymwneud â pharatoi’r cerbyd ar gyfer ei yrru: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, oriau gyrwyr, trwyddedau, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau
  • Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baledi, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, da byw, gwastraff, nwyddau peryglus, peiriannau a pheirianwaith, cerbydau, pren, agregau, ac ati
  • Sefydliad: y cwmni yr ydych yn gyrru iddo neu eich busnes eich hun
  • Systemau: taniwr, trydanol, goleuadau, brêcs, trawsyriant, injan, tanwydd, teiars, cyplysiad, technoleg gwybodaeth, digidol, systemau cyfathrebu a thelemetreg, cyfarpar ategol
  • Cerbyd: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd un wedi ei gysylltu, a chyfarpar ategol

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLDGV1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu

Cod SOC

8214

Geiriau Allweddol

paratoi; gyrru; nwyddau; cerbyd