Derbyn a storio nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu
URN: SFLBW6
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn a storio nwyddau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu. Mae toll yn fath o dreth a godir ar nwyddau tollau pan fyddant yn mynd trwy bwynt tollau ac yn daladwy i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Mae’r safon hon hefyd yn ymwneud â HMRC a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer storio nwyddau tollau mewn lleoliadau diogel sydd yn addas at y diben. Bydd defnyddwyr y safon hon yn sicrhau bod ymarfer yn adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf, polisïau, gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth mewn perthynas â gofynion cyllid a thollau.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr warws mewn gweithrediadau logisteg ac yn ymwneud â phersonél eraill sydd yn gysylltiedig â derbyn a storio nwyddau lle mae’r doll wedi ei hatal a’i thalu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau tasgau, blaenoriaethau a chyfrifoldebau gyda’r person perthnasol mewn perthynas â derbyn a storio nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal neu wedi ei thalu
- dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn ymwneud â Chyfarpar Diogelu Personol (PPE), symud, trin a derbyn nwyddau tollau, a rhoi’r nwyddau tollau yn yr ardaloedd neu’r lleoliadau storio angenrheidiol
- gwirio eitemau sy’n cael eu dosbarthu yn erbyn y nodyn dosbarthu a’r archeb wreiddiol
- nodi, cofnodi ac adrodd ar anghysondebau wrth y person perthnasol
- cadarnhau bod yr holl eitemau wedi cael eu derbyn a’u bod yn unol â gofyniad yr archeb a llofnodi ar gyfer yr archeb a dderbyniwyd
- nodi’r ardaloedd storio neu’r lleoliadau perthnasol ar gyfer y nwyddau tollau a dderbyniwyd
- rhoi’r nwyddau tollau a dderbyniwyd yn yr ardaloedd storio neu’r lleoliadau angenrheidiol yn unol â gofynion sefydliadol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) perthnasol
- ystyried gofynion storio sy’n cefnogi cylchdroi stoc nwyddau tollau
- hysbysu’r person perthnasol am argaeledd nwyddau tollau ar gyfer archeb frys neu ddyledus
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer storio, rheoli a gwaredu nwyddau peryglus yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
- archwilio ardaloedd neu leoliadau storio i gadarnhau eu bod yn bodloni gofynion, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gwirio nwyddau tollau, yn cynnwys cyfeiriadau cylchdroi stoc, yn unol â gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gofynion sefydliadol
- nodi a thrin problemau yn yr ardaloedd neu’r lleoliadau storio a’r amgylchedd cyfagos
- prosesu ceisiadau i adalw neu rybuddion am ffugio ar gyfer nwyddau tollau yn unol â gofynion sefydliadol
- cwblhau’r holl ddogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau a deddfwriaeth gyfredol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a’r Hysbysiadau Tollau sy’n berthnasol i dderbyn, storio a chynnal nwyddau tollau lle mae’r doll wedi ei hatal ac wedi ei thalu
- y gofynion ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a’r dulliau ar gyfer cynnal a chadw eich cyfarpar a’r ardal waith
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer storio nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal ac wedi ei thalu yn ddiogel
- sut i reoli sylweddau peryglus, a’r gofynion iechyd a diogelwch yn ymwneud â nwyddau tollau lle mae’r doll wedi ei thalu neu wedi ei hatal
- sut i gofnodi ac adrodd ar anghysondebau yn unol â gofynion a gweithdrefnau sefydliadol, a phwysigrwydd gwneud hynny
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn ymwneud â derbyn, storio, samplu a chynnal nwyddau tollau mewn warws, yn cynnwys gwaredu nwyddau tollau y mae eu dyddiad wedi dod i ben, sydd wedi eu niweidio neu eu halogi ac sydd mewn cwarantîn
- y gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i dderbyn nwyddau tollau, yn cynnwys ond derbyn nwyddau a nodir ar yr archeb wreiddiol, dyddiadau dod i ben a rhifau swp
- y camau i’w cymryd os bydd adalwadau neu rybuddion am ffugio yn cael eu derbyn
- y gofynion storio a diogelwch ar gyfer nwyddau tollau
- sut i storio nwyddau tollau yn yr ardaloedd neu’r lleoliadau storio diogel angenrheidiol
- rôl a diben system derbyn nwyddau tollau a sut mae’n cefnogi gweithrediadau dyddiol
- sut i reoli nwyddau tollau, yn cynnwys cyfeiriadau at gylchdroi stoc, cylchdroi nwyddau tollau, rheoli dyddiadau dod i ben nwyddau tollau, a sut i nodi nwyddau tollau sydd wedi eu niweidio, eu halogi neu sydd wedi dirywio
- y camau i’w cymryd ar gyfer nwyddau tollau sydd y tu hwnt i’r dyddiad dod i ben, wedi eu niweidio, eu halogi, sydd â rhif swp anghyson neu rif swp lle mae adalwadau neu rybuddion am ffugio wedi cael eu cyhoeddi
- sut i roi gwybodaeth a data nwyddau tollau i mewn a’i hadfer yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- sut i gynnal dogfennau yn cynnwys systemau wrth gefn eich sefydliad yn achos methiant TGCh
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anghysondebau: unrhyw wahaniaethau rhwng yr hyn a ddisgwylir a’r hyn a gofnodir yn y system rheoli nwyddau
Nwyddau ble mae’r doll wedi ei hatal: unrhyw nwyddau tollau ble nad yw toll y DU wedi cael ei thalu
Nwyddau tollau: unrhyw nwyddau neu eitemau sydd yn cael eu storio yn y warws sydd yn denu tollau cartref
Sylweddau peryglus: gwirodydd, tanwydd tanwyr, batris oriorau ac ati
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE): corff gwarchod annibynnol cenedlaethol ar gyfer iechyd, diogelwch a salwch yn ymwneud â gwaith. Mae’n gweithredu er budd y cyhoedd i leihau marwolaeth ac anafiadau difrifol yn ymwneud â gwaith ar draws gweithleoedd Prydain Fawr
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warws tollau a chyllid (ar wahân, ond a elwir ar y cyd yn storfa’r tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau cysylltiedig, yn y DU
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): dillad a chyfarpar diogelu personol, dillad gwaith brand
Adalwadau neu rybuddion am ffugio: gwybodaeth a anfonir i’r sefydliad mewn perthynas ag amheuaeth o ffugio nwyddau, neu’n ymwneud â nwyddau nad ydynt yn cydymffurfio â safonau diogelwch presennol ar gyfer defnydd gan bobl
Person perthnasol: goruchwyliwr, rheolwr llinell, cydweithiwr
Ardaloedd neu leoliadau storio: ardaloedd gwaith mewn cawell/diogel, cyfleusterau warws llawn a chyfleusterau warws storio rhannol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLBW6
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Mewnforio, Storio a Manwerthu, Trin a Storio Nwyddau
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
warws; tollau; storio; tollau; nwyddau; derbyn; toll wedi ei hatal; toll wedi ei thalu; Hysbysiadau Tollau