Rheoli cydymffurfio’r sefydliad â rheoliadau a gweithdrefnau gweithredol

URN: SFLBW5
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli cydymffurfio’r sefydliad â gofynion rheoliadol a’r ffordd y mae hyn yn effeithio ar weithdrefnau gweithredol y sefydliad. 

Mae’r safon yn cynnwys adrodd, ymchwilio a chofnodi diffyg cydymffurfio. Mae hefyd yn cynnwys y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o nwyddau peryglus a’r dyletswydd gofal dros gyflogeion ac ymwelwyr.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob unigolyn sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithrediadau warws tollau. Mae’r safon wedi ei hanelu’n bennaf at y ceidwad awdurdodedig y warws neu’r rheiny sy’n cyfrannu at y rôl hon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi ac enwi’r person sy’n gyfrifol am reoli cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau gweithredol yn y sefydliad
  2. cofnodi a chadw’r holl weithdrefnau gweithredol yn unol â’r systemau a’r gofynion sefydliadol perthnasol
  3. cadarnhau bod yr holl weithdrefnau a’r polisïau gweithredol yn cydymffurfio â’r gofynion rheoliadol perthnasol
  4. sicrhau bod gweithdrefnau gweithredol sefydliadol wedi eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau i’r gofynion rheoliadol perthnasol, a bod y dogfennau gofynnol wedi eu diweddaru yn unol â hynny
  5. rheoli cydymffurfio â gweithdrefnau gweithredol yn unol â gofynion sefydliadol
  6. rheoli, nodi ac adrodd ar ddiffyg cydymffurfio wrth y person cyfrifol perthnasol yn unol â’r gofynion rheoliadol a sefydliadol perthnasol
  7. adrodd am ddiffyg cydymffurfio a chymryd y camau gofynnol i atal hyn rhag ailddigwydd
  8. cofnodi a symud nwyddau peryglus yn unol â’r gofynion rheoliadol a sefydliadol perthnasol
  9. sicrhau bod y personél yn defnyddio’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  10. rheoli gweithdrefnau dyletswydd gofal ar gyfer yr holl ymwelwyr â’r sefydliad a’r amgylchedd warws


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i reoli cydymffurfio’r sefydliad â rheoliadau a gweithdrefnau sefydliadol 
  2. rôl y person sy’n gyfrifol am gydymffurfio sefydliadol
  3. y gofynion ar gyfer gweithdrefnau gweithredol a pholisïau i gydymffurfio â’r gofynion rheoliadol perthnasol
  4. y gweithdrefnau sefydliadol sydd yn eu lle i reoli cydymffurfio
  5. goblygiadau cyfreithiol diffyg cydymffurfio a’r effaith ar benderfyniadau busnes a gweithredol
  6. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi diweddariadau a diwygiadau i’r rheoliadau
  7. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd ar ddiffyg cydymffurfio wrth y person cyfrifol a goblygiadau diffyg cydymffurfio i’r sefydliad
  8. y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nodi ac unioni diffyg cydymffurfio
  9. y dulliau ar gyfer cadarnhau cydymffurfio â gofynion sefydliadol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
  10. categorïau nwyddau peryglus a’r rhesymau dros gofnodi eu symud
  11. y canllawiau sefydliadol ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) a’r risgiau wrth i bersonél beidio ei ddefnyddio
  12. y mathau o ymwelwyr a chyfrifoldebau sefydliadol mewn perthynas â dyletswydd gofal, yn ogystal â’r risgiau o beidio â dilyn gweithdrefnau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Nwyddau peryglus: cemegau pur, cymysgedd o sylweddau, cynnyrch wedi eu cynhyrchu neu eitemau all gyflwyno risg i bobl, anifeiliaid neu’r amgylchedd os nad ydynt yn cael eu trin yn gywir wrth eu defnyddio neu eu cludo

Dyletswydd gofal: rhwymedigaeth foesol neu gyfreithiol i sicrhau diogelwch neu lesiant pobl eraill; mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal i’w cyflogeion 

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warws tollau a chyllid (ar wahân, ond a elwir ar y cyd yn storfa’r tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau cysylltiedig, yn y DU

Diffyg cydymffurfio: methiant i gydymffurfio ag amodau a gofynion sydd yn cael eu datgan ynghylch unrhyw gymeradwyaeth neu awdurdodiad

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): dillad a chyfarpar diogelu personol, dillad gwaith â brand

Person cyfrifol: person a enwir yn y sefydliad. Bydd hyn naill ai: yn unig berchennog y busnes; un o’r partneriaid os yw’r busnes yn bartneriaeth; neu’n gyfarwyddwr, ysgrifennydd cwmni neu lofnodwr awdurdodedig os yw’r busnes yn gorff corfforaethol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLBW5

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Mewnforio, Storio a Manwerthu, Trin a Storio Nwyddau

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

arbenigol; tollau; warws; storio; nwyddau; derbyn; toll; cydymffurfio; rheoliadau; Hysbysiadau Tollau