Rheoli symud nwyddau lle mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu o’r warws tollau

URN: SFLBW4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli a symud nwyddau lle mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu o’r warws tollau. Mae’n ymwneud â chofnodi’r nwyddau sydd wedi eu symud ac adrodd am y tollau a dalwyd. Mae hefyd yn ymwneud â nodi a chofnodi anghysondebau fel y maent yn berthnasol i symud nwyddau.

Mae’r safon hefyd yn ymwneud â defnyddio systemau sefydliadol a dilyn canllawiau perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a chanllawiau deddfwriaethol ar gyfer cofnodi symud nwyddau.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob unigolyn sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithrediadau warws tollau.  Mae’r safon wedi ei hanelu at ofalwr awdurdodedig y warws neu’r rheiny sy’n cyfrannu at y rôl hon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cydymffurfio â’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer dilysu gwarantau symudiadau 
  2. cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol ar gyfer symud nwyddau tollau
  3. defnyddio gweithdrefnau cydnabyddedig ar gyfer cofnodi’r gyrchfan derfynol ac awdurdodiadau i dderbyn nwyddau tollau a stoc
  4. cadarnhau bod yr holl ddogfennau masnachol yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion sefydliadol perthnasol
  5. cadarnhau bod holl ddogfennau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) wedi eu cwblhau yn unol â’u gofynion
  6. cadarnhau bod Systemau Rheoli Symudiadau Tollau (EMCS) neu systemau amgen yn cael eu gweithredu, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, cyn symud y nwyddau tollau o’r warws tollau
  7. paratoi a chyflwyno dogfennaeth tollau yn unol â’r gofynion sefydliadol perthnasol
  8. cynnal y gweithdrefnau sefydliadol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) perthnasol ar gyfer cyflwyno a datgan y doll a gronnwyd
  9. cadarnhau bod cofnodi’r doll wedi ei gwblhau yn fanwl, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, cyn symud nwyddau tollau
  10. rheoli symud nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal, y doll wedi ei gohirio a’r doll wedi ei thalu yr ydych yn gyfrifol amdanynt o warws tollau
  11. cadarnhau bod yr holl symudiadau yn derfynol ar systemau gofynnol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a bod unrhyw anghysondebau yn cael eu hadrodd wrth y person cyfrifol yn y sefydliad a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. ble i leoli a sut i ddefnyddio’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer gwarantau symud
  2. y mathau o awdurdodiadau, goblygiadau cyfreithiol a phwysigrwydd gwriadau Systemau ar gyfer Cyfnewid Data Tollau (SEED)
  3. y mathau o ddogfennau masnachol, a’r gofynion ar eu cyfer, a’r broses sefydliadol ar gyfer diweddaru dogfennau masnachol mewn perthynas â nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal, y doll wedi ei gohirio a’r doll wedi ei thalu
  4. cyfrifoldebau asiantau warws a chlirio mewn perthynas â dogfennau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) 
  5. y rhesymau dros Systemau Rheoli Tollau Cartref a datganiadau gorfodol, yn cynnwys sut i roi gwybodaeth i mewn a’r broses gyflwyno i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
  6. y mathau o systemau a ddefnyddir ar gyfer nwyddau tollau sydd yn cael eu hallforio 
  7. y mathau o systemau a ddefnyddir a’r prosesau a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer symud nwyddau tollau
  8. y mathau o ddogfennau cyflwyno a’r prosesau a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer datgan tollau
  9. sut i reoli symud nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu o warws tollau
  10. y dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer datganiadau i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
  11. sut i gofnodi, adrodd a dogfennu nwyddau tollau a pham y mae’n rhaid cadw at y gofynion cyfreithiol perthnasol  


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Datganiad: hysbysiad ffurfiol wedi ei ddatgan i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)

Anghysondebau: unrhyw wahaniaethau rhwng yr hyn a ddisgwylir a’r hyn a gofnodwyd yn y system rheoli nwyddau

Diwydrwydd dyladwy: camau rhesymol a gymerir gan berson i osgoi  cyflawni trosedd; i bob busnes gynnal gwiriadau i sefydlu hygrededd a dilysrwydd eu cyflenwadau, eu cwsmeriaid a’u cyflenwyr

Gohirio toll: system lle mae HMRC yn caniatáu dyledion tollau cartref mewn cyfnod dychweliad i gronni a chael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol ar ddyddiadau penodedig ar ôl diwedd y cyfnod. Mae’n fath o gytundeb credyd a warentir gan warant ariannol a ddarperir gan ddeiliad cyfrif y gohiriad

Atal toll: unrhyw nwyddau tollau lle mae tollau’r DU heb gael eu talu

Nwyddau tollau: nwyddau sydd yn destun tollau cartref e.e. cwrw, gwin, gwneud-win, seidr, sieri, gwirodydd, olewau mwynau, sigaréts a chynnyrch tybaco eraill

Systemau Rheoli Symud Tollau (EMCS): defnyddir ar gyfer symud nwyddau lle mae’r doll wedi ei hatal

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warws tollau a chyllid (ar wahân, ond a elwir ar y cyd yn storfa’r tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau cysylltiedig, yn y DU

Gwarantau symud: gofyniad mewn perthynas â diogelwch, i roi gwarant fydd yn cwmpasu uchafswm y doll sydd wedi ei hatal mewn un symudiad

Person cyfrifol: person a enwir yn y sefydliad. Bydd y person yma naill ai: yn unig berchennog y busnes; yn un o’r partneriaid, os yw’r busnes yn bartneriaeth; neu’n gyfarwyddwr, ysgrifennydd y cwmni neu’n lofnodwr awdurdodedig, os yw’r busnes yn gorff corfforaethol

Cyflwyniad: hysbysiad ffurfiol a gyflwynir i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)

Gwiriadau System ar gyfer Cyfnewid Data Tollau (SEED): defnyddir i sicrhau bod cwmnïau y mae nwyddau lle mae’r doll wedi cael ei hatal yn cael eu hanfon ag awdurdod cyfreithiol i’w derbyn gan yr awdurdodau perthnasol yn y Deyrnas Unedig (DU) 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLBW4

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Mewnforio, Storio a Manwerthu, Trin a Storio Nwyddau

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

arbenigol; awdurdodedig; cyllid; warws; storio; nwyddau; derbyn; toll wedi ei hatal; toll wedi ei thalu; Hysbysiadau Tollau