Rheoli a rheoleiddio storio nwyddau tollau yn y warws
URN: SFLBW3
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli a rheoleiddio storio nwyddau tollau yn y warws. Mae’n ymwneud â chofnodi, labelu, cylchdroi ac adrodd ar nwyddau. Mae’r safon yn cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o’r systemau monitro nwyddau gwahanol a sut dylid storio nwyddau i fodloni gofynion sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob unigolyn sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithrediadau warws tollau. Mae’r safon wedi ei hanelu’n benodol at ofalwr awdurdodedig y warws neu bobl eraill sy’n cyfrannu at y rôl hon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rheoli, rheoleiddio a sicrhau bod nwyddau tollau yn cael eu storio mewn lleoliadau y gellir eu hadnabod a’u bod wedi eu nodi yn unol â’r gofynion sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod lleoliadau storio nwyddau tollau yn cael eu hadnabod a’u nodi yn unol â gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- nodi a rheoleiddio nwyddau tollau er mwyn gallu eu hadnabod yn eich cyfrif stoc gan y staff perthnasol a swyddogion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) sy’n ymweld
- diweddaru’r cyfrif stoc perthnasol pryd bynnag y byddwch yn symud nwyddau tollau i leoliad storio newydd yn eich warws tollau yn unol â’r gofynion sefydliadol perthnasol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- cadarnhau bod gweithrediadau warws yn cael eu cynnal yn unol â gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a chymeradwyaeth eich eiddo tollau
- cynnal gwiriadau stocrestr a chwblhau gwiriadau stoc yn unol â gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gofynion sefydliadol
- cofnodi ac adrodd am anghysondebau i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn unol â gofynion sefydliadol perthnasol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- 8. cadarnhau bod samplau’n cael eu cofnodi, bod y doll yn cael ei chyfrifo a’i thalu, yn unol â gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- cofnodi ac adrodd am nwyddau tollau wedi eu niweidio yn unol â’r gofynion sefydliadol perthnasol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- dilyn gweithdrefnau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi a chydnabod newid perchnogaeth
- cadarnhau bod nwyddau tollau yn cael eu trin yn ddiogel yn unol â gofynion sefydliadol perthnasol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- cwblhau a chyflwyno’r wybodaeth a’r dogfennau angenrheidiol mewn perthynas â dychweliadau warws Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o leoliadau storio a ddefnyddir ar gyfer nwyddau tollau, yn cynnwys lleoliadau a gymeradwywyd ar gyfer nwyddau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu (neu’r labelu priodol i nodi nwyddau lle mae’r doll wedi ei thalu a’r doll wedi ei hatal mewn warws storio ar y cyd)
- sut i reoli a rheoleiddio storio nwyddau tollau yn y warws
- y ffyrdd a’r dulliau y mae’n ofynnol i’w defnyddio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i nodi nwyddau tollau, yn cynnwys lleoliad y warws, lleoliadau rheseli unigol a lonydd storio llwythi
- sut i nodi nwyddau tollau a gallu i gadw stoc a’r lleoliad storio
- sut i gofnodi a diweddaru symudiadau nwyddau tollau, yn cynnwys systemau’r sefydliad a ddefnyddir a gofynion Symud a Rheoli Tollau (EMCS) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- amodau cymeradwyo eich sefydliad a gofynion cyffredinol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn ymwneud â storio nwyddau tollau yn y warws
- rôl a diben rhaglen cofnodi stoc, yn cynnwys gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ac amseru gofynnol e.e. i gynnal cofnod blynyddol neu chwarterol llawn o’r stoc
- pam y mae’n bwysig sicrhau bod y nwyddau tollau a gyfrifwyd yn ffisegol yn y cofnod stoc yn cael eu cysoni â’r balansau stoc a gofnodwyd yn y cofnod stoc wrth gynnal y cofnodi stoc
- y mathau o anghysondebau a allai ddigwydd gyda nwyddau tollau, sut i adrodd arnynt ac wrth bwy
- y mathau o niwed a allai ddigwydd i nwyddau tollau, yr angen am ymchwiliadau cysylltiedig, sut i adrodd arnynt ac wrth bwy
- gofynion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ar gyfer cofnodi gwerthu a newid perchnogaeth nwyddau tollau yn y warws
- trin a storio’n ddiogel a’r gofynion diogeledd ar gyfer nwyddau tollau a pham y maent yn bwysig
- y mathau o wybodaeth sydd yn ofynnol, sut i’w chyflwyno i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), a goblygiadau peidio â chydymffurfio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Newid perchnogaeth: gwerthu unrhyw nwyddau tollau i berson arall tra bod y doll wedi ei hatal yn y warws tollau. Mae hyn yn bwysig oherwydd yr effaith ar atebolrwydd TAW
Anghysondebau: unrhyw wahaniaethau rhwng yr hyn a ddisgwylir a’r hyn a gofnodir yn y system rheoli nwyddau
Gohirio toll: system lle mae HMRC yn caniatáu dyledion tollau cartref mewn cyfnod dychweliad i gronni a chael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol ar ddyddiadau penodedig ar ôl diwedd y cyfnod. Mae’n fath o gytundeb credyd a warentir gan warant ariannol a ddarperir gan ddeiliad cyfrif y gohiriad
Atal toll: unrhyw nwyddau tollau lle nad yw toll y DU wedi ei thalu
Warws tollau: lle sydd wedi ei gymeradwyo gan HMRC ar gyfer cadw nwyddau lle mae tollau cartref a TAW wedi eu hatal
Nwyddau tollau: unrhyw nwyddau sydd yn destun cyllid tollau, er enghraifft, cwrw, gwin, gwneud-win, seidr, sieri, gwirodydd, olewau mwynau, sigaréts a chynnyrch tybaco eraill
System Symud a Rheoli Tollau (EMCS): y system gyfrifiadurol a ddefnyddir i gofnodi symud nwyddau tollau lle mae’r doll wedi ei hatal
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warysau cyllid a thollau (ar wahân, ond a elwir ar y cyd yn storfa’r tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau, yn y DU
Lleoliadau y gellir eu nodi: lleoliadau wedi eu rheoli’n benodol gyda chod unigryw mewn warws
Dychweliadau warws: Dogfennau sydd yn cael eu cwblhau a’u dychwelyd i HMRC yn unol â Hysbysiadau Tollau yn fisol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLBW3
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau, Mewnforio, Storio a Manwerthu
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
arbenigol; tollau; warws; storio; storfa; nwyddau; toll wedi ei thalu; toll wedi ei hatal; Hysbysiadau Tollau