Rheoli derbyn nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu
URN: SFLBW2
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli derbyn nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a’r doll wedi ei thalu. Mae’n cynnwys gofynion eich sefydliad a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ar gyfer cofnodi a derbyn nwyddau. Mae’r safon wedi ei hanelu at geidwad awdurdodedig y warws sydd wedi ei gymeradwyo i fod yn berchen ar neu gadw nwyddau ble mae’r doll wedi ei thalu neu y mae’r doll wedi ei hatal. Mae hefyd yn cynnwys beth i’w wneud wrth nodi a chofnodi anghysondebau a allai ddigwydd tra’n derbyn nwyddau.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob unigolyn sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithrediadau warws tollau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau y disgwylir nwyddau tollau sydd yn dod i mewn a chydymffurfio ag amodau cymeradwyo eich warws
- Sicrhau bod nwyddau tollau yn cael eu derbyn a’u bod yn cynnwys dogfennau dilys
- cadarnhau statws tollau a phwynt tollau y nwyddau tollau sydd yn cael eu derbyn
- rheoli gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwirio nwyddau a chydymffurfio â gwaith papur perthnasol, ac ymchwilio i anghysondebau
- adrodd am anghysondebau yn unol â gofynion sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- rheoli a sicrhau bod nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei hatal a nwyddau tollau lle mae’r doll wedi ei thalu yn cael eu storio yn y lleoliad cymeradwy yn y warws
- sicrhau bod nwyddau tollau wedi eu cofnodi yn system archebu y sefydliad yn unol â gofynion sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- codi, cofnodi a nodi cyfrifon stoc yn unol â’r awdurdodiad
- cadarnhau derbyn nwyddau tollau yn unol â’r gofynion sefydliadol perthnasol a rhai HMRC
- cadarnhau bod nwyddau’n cydymffurfio â gofynion labelu a nodi sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
- cadarnhau bod dychweliadau cwsmeriaid yn cael eu cofnodi a bod cyfrif ohonynt yn unol â gofynion sefydliadol a rhai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefn eich sefydliad ar gyfer rheoli nwyddau tollau sydd yn dod i mewn, ac amodau cymeradwyo, yn cynnwys pwynt tollau
- y dogfennau sy’n ofynnol i gyd-fynd â mathau gwahanol o dderbyniadau
- y gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol i’w dilyn os yw nwyddau tollau yn cyrraedd heb y dogfennau angenrheidiol
- statws gwahanol nwyddau ble mae’r doll wedi cael ei hatal a nwyddau tollau ble mae’r doll wedi ei thalu a sut i’w hadnabod
- y weithdrefn sy’n berthnasol i dderbyn neu wrthod nwyddau mewn warws, yn cynnwys ond derbyn nwyddau a nodir ar yr archeb wreiddiol, gan ystyried dyddiadau dod i ben a rhifau swp
- y mathau gwahanol o anghysondebau y mae angen eu cofnodi a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer eu hadrodd
- sut i storio nwyddau tollau a dderbynnir a’r hyn y mae storio diogel a lleoliadau gofynnol yn ei olygu
- sut i wneud archebion nwyddau sydd yn cael eu derbyn a gofynion System Symud a Rheoli Tollau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ar gyfer archebu, yn cynnwys y mathau gwahanol o systemau archebu sydd ar gael a goblygiadau cofnodi gwybodaeth anghywir
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rheoli derbyn nwyddau tollau, yn cynnwys diweddaru cyfrifon stoc a systemau sefydliadol eraill
- sut mae’r gofynion deddfwriaethol perthnasol yn gwahaniaethu o gynnyrch i gynnyrch
- gofynion perthnasol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofnodi dychweliadau cwsmeriaid, a goblygiadau cofnodi gwybodaeth anghywir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Awdurdodiad: unrhyw gymeradwyaeth neu gofrestriad a ddarperir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i alluogi trin nwyddau lle mae’r doll wedi ei hatal
Anghysondebau: unrhyw wahaniaethau rhwng yr hyn a ddisgwylir a’r hyn a gofnodir yn y system rheoli nwyddau, yn unol â gofynion HMRC a rhai sefydliadol
Gohirio toll: system ble mae HMRC yn caniatáu dyledion tollau cartref mewn cyfnod dychweliad i gronni a chael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol ar ddyddiadau penodedig ar ôl diwedd y cyfnod. Mae’n fath o gytundeb credyd a warentir gan warant ariannol a ddarperir gan ddeiliad cyfrif y gohiriad
Pwynt tollau: pan fydd nwyddau yn dod yn atebol am doll oherwydd digwyddiad neu symudiad dilys neu afreolaidd
Statws toll: dangosydd yng nghofnodion y warws ynghylch a yw unrhyw nwyddau tolladwy yn destun toll wedi ei hatal neu doll wedi ei thalu
Atal toll: unrhyw nwyddau tollau lle mae tollau’r DU heb gael eu talu
Nwyddau tollau: unrhyw nwyddau neu eitemau sydd yn cael eu storio yn y warws sydd yn denu tollau cartref
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warysau cyllid a thollau (ar wahân, ond y cyfeirir atynt ar y cyd fel storfeydd tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau, yn y DU
Gofynion labelu a nodi: y gofynion ar gyfer labelu a nodi nwyddau a stoc yn gywir, yn unol â gofynion HMRC
Dychweliadau: nwyddau sydd yn cael eu dychwelyd at y cynhyrchydd neu’r gwir berchennog/perchennog cofrestredig
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLBW2
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
warws; storio; tollau; nwyddau; derbyn; rheoli; rheolaeth; toll wedi ei thalu; toll; Hysbysiadau Tollau