Rheoli awdurdodi, gwarantau a chymeradwyo ar gyfer eiddo warws tollau
URN: SFLBW1
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli awdurdodi, gwarantau a chymeradwyo ar gyfer eiddo warws tollau. Mae’n cynnwys cadarnhau bod yr holl gofrestriadau, cymeradwyo a’r gwarantu wedi eu sefydlu. Mae rheolaeth awdurdodiadau yn tanategu cydymffurfio â Chyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) a gofynion deddfwriaethol perthnasol eraill.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob unigolyn sydd yn gysylltiedig â rheoli gweithrediadau warws tollau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rheoli awdurdodiad presennol gofalwr warws tollau ar gyfer eich sefydliad a’ch eiddo
- rheoli cymeradwyo presennol warws tollau a nwyddau lle mae’r doll wedi cael ei hatal ar gyfer eich sefydliad
- cadarnhau bod yr eiddo warws tollau yn cydymffurfio â’r amodau a nodir yn y gyfraith, Hysbysiad Tollau 196 Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a'r holl amodau perthnasol eraill sydd yn cael eu gosod
- cynnal yr adolygiadau a’r archwiliadau gofynnol o ran amodau cymeradwyo i gadarnhau cydymffurfio parhaus â’r ddeddfwriaeth berthnasol
- hysbysu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) pan fydd newidiadau i weithgareddau busnes eich sefydliad
- cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy i gadarnhau bod cwsmeriaid yn fasnachwyr dilys ac yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran nwyddau tollau
- sicrhau bod gan gwsmeriaid gymeradwyaeth berthnasol i dderbyn a storio’r categori perthnasol o nwyddau tollau
- monitro gofynion ar gyfer mathau eraill o awdurdodi a chymeradwyo
- rheoli gwarantau i gynnwys eiddo a symud nwyddau ble mae’r doll wedi cael ei hatal
- cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer eiddo warws tollau
- sicrhau bod yr holl hysbysiadau cyhoeddus perthnasol yn cael eu cynnal, eu bod yn hygyrch ac yn gyfredol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dyletswyddau a’r amodau y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn eu gwneud yn ofynnol i ofalwyr warws tollau
- sut i reoli awdurdodi, gwarantau a chymeradwyo ar gyfer eiddo warws tollau
- y mathau o gymeradwyo eiddo a ddelir gan eich sefydliad a’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â chymeradwyo
- yr amodau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol a nodir yng nghymeradwyaeth eich sefydliad ar gyfer eiddo a gweithgareddau warws tollau
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer parhau i gydymffurfio, gan ystyried newidiadau perthnasol i ddeddfwriaeth, rheoliadau a Hysbysiadau Tollau, ac unrhyw gamau adfer angenrheidiol
- y gweithdrefnau ar gyfer diwygio cymeradwyo a phwy i gysylltu â nhw
- canlyniadau peidio â dilyn diwydrwydd dyladwy a chydymffurfio
- y mathau gwahanol o gymeradwyo ac awdurdodiad sydd ar gael ar gyfer eiddo warws tollau a buddion a chyfyngiadau pob un
- y mathau a'r lefelau o warantau, e.e. TAW Mewnforio wedi ei Symleiddio (SIVA), System Ddiogelwch Taliadau Tollau (EPSS), ac adolygu’r gofynion graddfeydd amser ar gyfer y rhain
- ble i gael gafael ar wybodaeth am y ddeddfwriaeth a'r Hysbysiadau Tollau perthnasol ar gyfer eiddo warws tollau a goblygiadau peidio â chydymffurfio
- sut i gynnal ac arddangos hysbysiadau cyhoeddus yn y gweithle a pham y mae hyn yn bwysig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Awdurdodiad: unrhyw gymeradwyaeth neu gofrestriad a ddarperir gan HMRC i alluogi trin nwyddau ble mae’r doll wedi cael ei hatal
Amodau cymeradwyo: unrhyw amodau a nodir yn y llythyr cymeradwyo warws neu ddogfennau eraill
Diwydrwydd dyladwy: camau rhesymol a gymerir gan berson i osgoi cyflawni trosedd; i bob busnes gynnal gwiriadau i sefydlu hygrededd a dilysrwydd eu cyflenwadau, eu cwsmeriaid a’u cyflenwyr
Gohirio toll: system lle mae HMRC yn caniatáu dyledion tollau cartref mewn cyfnod dychweliad i gronni a chael eu talu trwy ddebyd uniongyrchol ar ddyddiadau penodedig ar ôl diwedd y cyfnod. Mae’n fath o gytundeb credyd a warentir gan warant ariannol a ddarperir gan ddeiliad cyfrif y gohiriad
Atal toll: unrhyw nwyddau tollau lle mae tollau’r DU heb gael eu talu
Nwyddau tollau: nwyddau sydd yn destun tollau cartref e.e. cwrw, gwin, gwneud-win, seidr, sieri, gwirodydd, olewau mwynau, sigaréts a chynnyrch tybaco eraill
System Diogelwch Taliad Tollau (EPSS): system lle mae HMRC yn caniatáu cais deiliad cyfrif wedi ei ohirio i leihau neu ddileu eu gwarant gohirio tollau ar ôl adolygu hanes taliadau
Warws tollau: lle wedi ei gymeradwyo gan HMRC ar gyfer cadw nwyddau lle mae tollau cartref a TAW wedi ei atal
Gofalwr warws tollau: deiliad awdurdodedig a chofrestredig o warws tollau, yn unol â ‘Rheoliadau gofalwr warws a Pherchnogion Nwyddau Warws 1999'
Gwarant: ymgymeriad a roddir gan y gwarantwr i dalu swm o arian i HMRC hyd at lefel y gwarant pan fyddant yn gwneud cais am daliad o’r fath
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC): yr adran sy’n gyfrifol am reoli warws tollau a chyllid (ar wahân, ond a elwir ar y cyd yn storfa’r tollau), yn cynnwys Hysbysiadau Tollau cysylltiedig, yn y DU
TAW Mewnforio wedi ei Symleiddio (SIVA): cynllun i alluogi TAW mewnforio i gael ei ohirio gyda diogelwch gostyngol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLBW1
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
warws; storio; nwyddau; awdurdodiad; toll wedi ei thalu; toll wedi ei hatal; toll wedi ei gohirio; Hysbysiadau Tollau