Paratoi dogfennau ar gyfer cludo nwyddau
URN: SFL69
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi dogfennau ar gyfer cludo nwyddau, sicrhau eu bod wedi cael eu prosesu, eu cwblhau a’u cyflwyno’n gywir mewn ffordd amserol i’r person priodol. Bydd angen i chi sicrhau bod y dogfennau’n cydymffurfio â gofynion yr awdurdodau rheoliadol perthnasol, p’un ai yn y DU neu’n rhyngwladol, gan gymryd camau priodol i ddatrys unrhyw faterion.
Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r telerau a’r amodau perthnasol yn ymwneud â chwblhau a chadw dogfennau wrth gludo nwyddau yn y DU neu’n rhyngwladol.
Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull trafnidiaeth neu gyfuniad o ddulliau, h.y. ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gyfrifol am brosesu a chwblhau dogfennau yn gywir mewn gweithrediadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau bod yr holl gyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo wedi eu cael
- Cadarnhau llwybr a chyrchfan y nwyddau gyda’r rhanddeiliaid perthnasol
- Nodi unrhyw ffiniau rhyngwladol neu gyfyngiadau o ran cludo’r nwyddau
- Dewis y dogfennau perthnasol sydd yn ofynnol i hwyluso llwybr nwyddau a chadarnhau y sefydliadau perthnasol sydd angen y dogfennau
- Sefydlu faint o amser sydd yn ofynnol i hysbysu’r sefydliadau perthnasol ynghylch cludo’r nwyddau
- Dyrannu amser ac adnoddau i baratoi’r dogfennau ar gyfer cludo nwyddau
- Trefnu’r gwaith o baratoi’r dogfennau i fodloni dyddiadau ac amseroedd tyngedfennol ar gyfer dosbarthu’r nwyddau
- Nodi unrhyw broblemau gyda’r dogfennau, a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
- Sicrhau bod y dogfennau ar gyfer cludo nwyddau’n cael eu cadw yn unol â’r gofynion statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
- Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
- Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, gofynion amgylcheddol, rheoliadau, safonau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y cwsmer, eu cynnyrch a gofynion cludo
- Y dulliau o gadarnhau’r nwyddau i gael eu cludo, y graddfeydd amser ac unrhyw ofynion arbennig gyda’r cwsmeriaid
- Sut i reoli’r gwaith o baratoi dogfennau ar gyfer cludo nwyddau
- Yr amser a’r adnoddau sydd yn ofynnol i baratoi a chwblhau dogfennau ar gyfer cludo nwyddau
- Y cyfnodau hysbysu a’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno dogfennau wedi eu cwblhau ar gyfer yr holl sefydliadau perthnasol
- Y mathau o faterion a all ddigwydd wrth baratoi dogfennau
- Rôl y sefydliadau, yr asiantaethau a’r cyrff rheoliadol perthnasol wrth symud nwyddau’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, a’u gofynion cydymffurfio
- Y systemau a’r gweithdrefnau ar gyfer symud nwyddau a ddefnyddir gan y cwsmeriaid a’r rhanddeiliaid perthnasol
- Y dogfennau a’r lefel a’r math o wybodaeth sydd yn ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer y mathau gwahanol o nwyddau, dulliau cludo a’r llwybrau teithio
- Y canlyniadau i’r cwsmer a’r sefydliad pan fydd gwallau’n digwydd yn y dogfennau
- Y termau masnach a’r safonau rhyngwladol ar gyfer cludo, yswiriant a chostau nwyddau (Incoterm)
- Y gweithdrefnau a’r graddfeydd amser cywir ar gyfer cadw dogfennau mewn perthynas â chludo nwyddau i fodloni gofynion rhanddeiliaid a deddfwriaethol perthnasol
- Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau cludo a masnach rhyngwladol
- Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad
- Arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau a chodau ymarfer, yn cynnwys ymarfer moesegol, eich sefydliad
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi wrth symud nwyddau
- Y deddfwriaethau iechyd a diogelwch, gofynion amgylcheddol, rheoliadau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol i’w dilyn wrth gludo nwyddau
Cwmpas/ystod
Manylion y Nwyddau
• manylion sy’n ofynnol ar gyfer cwsmeriaid
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion amgylcheddol
• gofynion gwahanu
• gofynion pacio
Nwyddau
• nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
• cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
• cynnyrch nad yw’n beryglus
• darfodus (bwyd)
• nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
• nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos
Rhanddeiliaid
• cyflenwyr
• swyddogion
• cyrff rheoliadol
Dull cludo
• llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo llwythi a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd.
• awyr
• môr
• rheilffordd
• ffordd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Incoterm: Telerau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o 3 o delerau yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall mewn contractau ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.
Problemau gyda dogfennau: gwallau yn y wybodaeth am y nwyddau, eu cyrchfan, y dull cludo neu wrth gwblhau dogfennau cludo fydd yn arwain at y dogfennau’n cael eu gwrthod.
Dogfennau cludo: dogfennau am y nwyddau, eu cyrchfan a’r dull cludo sydd ei angen, neu y gallai fod angen ei archwilio gan awdurdodau rheoleiddio trafnidiaeth yn y DU a thramor.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL69
Galwedigaethau Perthnasol
Gweinyddu a’r Gyfraith, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes
Cod SOC
1241
Geiriau Allweddol
rhyngwladol; mewnforio; allforio; trafnidiaeth; dogfen; tollau; ariannol; deddfwriaeth; rheoleiddio