Trefnu cludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo lluosog

URN: SFL68
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â threfnu cludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo lluosog mewn gweithrediadau masnach a logisteg. Bydd angen i chi ddeall y dulliau cludo gwahanol er mwyn gallu gwneud penderfyniad gwybodus am y dulliau cludo mwyaf addas ar gyfer y nwyddau sy’n cael eu cludo.

Bydd angen i chi hefyd allu cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â chludo a datrys unrhyw faterion a allai ddigwydd wrth drefnu cludo nwyddau mewn perthynas â dulliau cludo a chydymffurfio.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo lluosog mewn gweithrediadau masnach a logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis trafnidiaeth ffordd ar gyfer cludo nwyddau 
  2. Adolygu’r holl gyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo
  3. Cyfrifo prisiau cludo a pharatoi dyfynbrisiau ar gyfer cwsmeriaid
  4. Adolygu’r contract cludo i sicrhau cydymffurfio wrth drefnu cludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo lluosog
  5. Pennu’r cyfuniad mwyaf addas o ddulliau cludo ar gyfer y nwyddau, gan ystyried effaith amgylcheddol pob dull cludo
  6. Cynllunio ac archebu gwasanaethau cludo yn unol â’r rheolau a’r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n berthnasol i’r nwyddau sydd yn cael eu hanfon a’r ardal o’r byd lle mae’r nwyddau’n cael eu cludo, a’r gweithdrefnau archebu sefydliadol a thrafnidiaeth
  7. Cwblhau dogfennau teithio cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cludo yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol
  8. Cadarnhau bod cyfarwyddiadau ar gyfer dulliau cludo lluosog yn gywir, yn gyflawn ac yn cael eu darparu ar y ffurf cofnodi a’r systemau cywir
  9. Cadarnhau bod unrhyw ofynion neu gyfarwyddiadau arbennig yn cael eu nodi’n glir
  10. Darparu’r wybodaeth berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo’r nwyddau
  11. Rhoi cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau yn unol â’r contract
  12. Cael gwybodaeth ynghylch sut i fonitro cludo nwyddau yn ôl dulliau lluosog
  13. Monitro’r cynnydd o drefnu i gludo nwyddau yn ôl dulliau lluosog
  14. Nodi unrhyw faterion wrth drefnu dulliau cludo, a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
  15. Hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw oedi, gan ganiatáu amser digonol i ymateb i’r oedi 
  16. Cysylltu â’r goruchwyliwr neu’r uwch gydweithiwr perthnasol os na ellir datrys y materion a nodir
  17. Sicrhau bod y dogfennau cludo yn cael eu cadw yn unol â’r gofynion statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  18. Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  19. Cydymffurfio â’r holl weithdrefnau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, deddfwriaethol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol wrth gludo nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Y cyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo
  2. Pwysigrwydd adolygu a chydymffurfio â thelerau ac amodau’r contract wrth drefnu cludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo lluosog
  3. Manteision ac anfanteision mathau a dulliau cludo gwahanol a’r effaith y mae pob un yn ei gael ar yr amgylchedd
  4. Pwysigrwydd cynnal ymwybyddiaeth amgylcheddol busnes er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
  5. Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau cludo a masnach rhyngwladol
  6. Y llwybrau, hybiau trafnidiaeth a’r cyrchfannau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol wrth drefnu i gludo nwyddau
  7. Rôl a chyfrifoldebau cyrff rheoliadol, sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud cludiant, a'u gofynion cydymffurfio
  8. Y mathau o wybodaeth a’r dogfennau perthnasol sy’n ofynnol ar gyfer mathau gwahanol, cymysgedd o nwyddau, dulliau cludo a llwybrau teithio
  9. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol a'r rhanddeiliaid perthnasol wrth ddefnyddio dulliau cludo perthnasol
  10. Y mathau o faterion a allai ddigwydd wrth drefnu dulliau cludo lluosog a phwysigrwydd cyfathrebu unrhyw oedi i’r cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu amser digonol i ymateb i’r materion
  11. Y mathau o wybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau cludo a llwybrau teithio 
  12. Pwysigrwydd dilyn y gofynion arbennig sydd eu hangen gan nwyddau a chymysgedd gwahanol o nwyddau
  13. Pwysigrwydd, a’r rhesymau dros roi cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau, a’r rhesymau drostynt
  14. Y prosesau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â threfnu a monitro cludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo lluosog
  15. Y telerau masnach a’r safonau rhyngwladol ar gyfer cario, yswiriant a chostau cludiant (Incoterm)
  16. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
  17. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth drefnu cludo nwyddau gan ddefnyddio dulliau cludo lluosog
  18. Y gweithdrefnau a’r graddfeydd amser cywir ar gyfer cadw dogfennau mewn perthynas â chludo nwyddau i fodloni gofynion rhanddeiliaid perthnasol
  19. Y gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, deddfwriaeth, rheoliadau a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol wrth gludo nwyddau 


Cwmpas/ystod


Nwyddau
nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
cynnyrch nad yw’n beryglus
darfodus (bwyd)
nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
nwyddau ar gyfer arddangosiadau/digwyddiadau arddangos

Gofynion arbennig
gwahanu
gofynion amgylcheddol, gwres, oerfel, lleithder
nwyddau wedi eu cyfyngu
gofynion llesiant ar gyfer anifeiliaid byw
cymysgedd o nwyddau
diogeledd
datganiadau tollau

Rhanddeiliaid
cyflenwyr 
swyddogion
cyrff rheoliadol

Dull cludo
llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo llwythi a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd
awyr
môr
rheilffordd
ffordd

Cyfarwyddiadau cludo
amser
dull cludo
cost


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Incoterm
Telerau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o 3 o delerau yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall mewn contractau ar gyfer gwerthu nwyddau.  Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL68

Galwedigaethau Perthnasol

Gweinyddu, Rheoli busnes, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes

Cod SOC

1241

Geiriau Allweddol

rhyngwladol; mewnforio; allforio; trefnu; trafnidiaeth; nwyddau; ffordd; awyr; rheilffordd; dŵr; môr; logisteg