Dewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau
URN: SFL67
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2022                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol berthnasol ar gyfer cludo nwyddau ac unrhyw ofynion arbennig sydd eu hangen gan y nwyddau sy’n cael eu cludo.
Bydd angen i chi hefyd allu cyfathrebu gyda’r bobl briodol a datrys unrhyw faterion a allai ddigwydd wrth ddewis darparwyr gwasanaeth o fewn eich cyfrifoldeb.
Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull o gludo neu gyfuniad o ddulliau, h.y. ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cludo nwyddau mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Adolygu’r holl gyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo
 - Cadarnhau’r meini prawf sefydliadol ar gyfer dewis darparwyr gwasanaeth i gludo’r nwyddau gan ddefnyddio’r llwybrau a’r dulliau cludo a ddewiswyd
 - Nodi darparwyr gwasanaeth posibl sy’n bodloni’r meini prawf sefydliadol ar gyfer nwyddau, yn unol â gofynion y cwsmer
 - Cael gwybodaeth am y cyfraddau, y telerau a’r amodau y mae darparwyr y gwasanaeth yn eu cynnig
 - Cadarnhau gyda darparwyr y gwasanaeth y byddant yn cludo’r nwyddau yn unol â gofynion y cwsmer
 - Dewis darparwyr gwasanaeth i gludo’r nwyddau yn unol â’r meini prawf sydd wedi eu sefydlu
 - Nodi unrhyw broblemau gyda darparwyr y gwasanaeth a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
 - Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
 - Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Cyfarwyddiadau a manylion cludo perthnasol y nwyddau sy’n cael eu cludo
 - Y meini prawf sefydliadol ar gyfer dewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau
 - Y systemau ar gyfer cyflwyno archebion gyda darparwyr y gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau
 - Manteision ac anfanteision dulliau cludo gwahanol a’r effaith y mae bob un yn ei gael ar yr amgylchedd
 - Y llwybrau, hybiau trafnidiaeth, a’r cyrchfannau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, wrth ddewis y dulliau ar gyfer cludo nwyddau
 - Rôl y cyrff rheoliadol, sefydliadau a’r asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol yn symud nwyddau, a’u gofynion cydymffurfio
 - Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y cwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a’r rhanddeiliaid perthnasol
 - Y mathau o wybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau cludo a llwybrau teithio
 - Y telerau masnach a’r safonau rhyngwladol perthnasol ar gyfer cario, yswiriant a chostau llwythi (Incoterm)
 - Y materion all ddigwydd wrth ddewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau a sut i ymdrin â’r rhain
 - Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
 - Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad
 - Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth ddewis darparwyr gwasanaeth ar gyfer cludo nwyddau
 - Y safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol i’w dilyn wrth gludo nwyddau
 
Cwmpas/ystod
Nwyddau
• nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
•    cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
•  cynnyrch nad yw’n beryglus
•    darfodus (bwyd)
•   nwyddau i’w hatgyfeirio/dychwelyd
• nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos
Cyfarwyddiadau cludo
•  amser
• dull cludo
•    cost
Rhanddeiliaid
• cyflenwyr 
•    swyddogion 
•   cyrff rheoliadol  
Dull cludo
•    llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo llwythi a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd  
• awyr
•  môr
•   rheilffordd
•   ffordd 
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Incoterm
Telerau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o 3 o delerau yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall mewn contractau ar gyfer gwerthu nwyddau.  Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        SFL67
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Gweinyddu a’r Gyfraith, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes        
    
Cod SOC
        1241
        
    
Geiriau Allweddol
            rhyngwladol; mewnforio; allforio; trafnidiaeth; darparwyr; is-gontractwyr