Trefnu cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd
URN: SFL63
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â threfnu cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol berthnasol ar gyfer cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd ac unrhyw ofynion arbennig sydd eu hangen gan y nwyddau sy’n cael eu cludo.
Bydd angen i chi hefyd allu cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â chludo a datrys unrhyw faterion a allai godi wrth drefnu cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd, mewn perthynas â chydymffurfio a deddfwriaeth, o fewn eich cyfrifoldeb.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis y môr neu ddyfrffordd ar gyfer cludo nwyddau
- Adolygu’r holl gyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau
- sy’n cael eu cludo ar y môr neu’r ddyfrffordd
- Cyfrifo prisiau cludiant môr neu ddyfrffordd ar gyfer llwythi cynwysyddion llawn a llai na llawn a chreu dyfynbrisiau ar gyfer cwsmeriaid
- Adolygu’r contract cludo i sicrhau cydymffurfio wrth drefnu i gludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd
- Cynllunio ac archebu gofod llwyth ar wasanaethau môr/morwrol yn unol â’r rheolau a'r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n berthnasol i’r nwyddau sy’n cael eu hanfon i’r ardal o’r byd lle mae’r nwyddau i gael eu cludo
- Cwblhau dogfenau teithio cenedlaethol a rhyngwldol ar gyfer cludo ar y môr neu ar ddyfrffordd, yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol
- Cadarnhau bod cyfarwyddiadau ar gyfer trafnidiaeth môr neu ddyfrffordd yn gywir, yn gyflawn ac yn cael eu darparu gyda’r math cywir o ddogfennau a systemau
- Cadarnhau bod unrhyw ofynion neu gyfarwyddiadau arbennig yn cael eu nodi’n glir
- Darparu’r wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar gyfer pawb sydd yn gysylltiedig â chludo’r nwyddau ar y môr neu’r ddyfrffordd
- Darparu cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau yn unol â’r contract
- Cael gwybodaeth ynghylch sut i fonitro cludo nwyddau ar y môr neu’r ddyfrffordd
- Monitro cynnydd trefnu cludo nwyddau ar y môr neu’r ddyfrffordd
- Nodi unrhyw faterion o ran trefnu cludo nwyddau ar y dŵr a chymryd y camau priodol i ymdrin â nhw
- Hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw oedi, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i’r oedi
- Cysylltu â’r goruchwyliwr neu’r uwch gydweithiwr perthnasol os nad ydych yn gallu datrys y materion a nodwyd
- Sicrhau bod y dogfennau cludo’n cael eu cadw yn unol â gofynion statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
- Adrodd am weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth perthnasol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
- Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a'r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol wrth gludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y derminoleg a ddefnyddir mewn gwasanaethau môr neu ddyfrffyrdd
- Y tueddiadau cyfredol mewn gwasanaethau cludiant môr neu ddyfrffyrdd rhyngwladol
- Y cyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo
- Pwysigrwydd adolygu a chydymffurfio â thelerau ac amodau’r contract wrth drefnu i gludo nwyddau ar y môr neu ddyfrffordd
- Mathau o lwythi cefnfor a’r sylfaen ar gyfer prisiau cludiant cefnfor
- Manteision ac anfanteision defnyddio tranfnidiaeth môr neu ddyfrffordd, y mathau gwahanol o drafnidiaeth ar ddŵr a’r effaith y maent yn eu cael ar yr amgylchedd
- Pwysigrwydd cynnal ymwybyddiaeth amgylcheddol busnes er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- Rheoliadau a chyfyngiadau trafnidiaeth môr neu ddyfrffordd wrth gludo nwyddau, yn cynnwys symud nwyddau peryglus
- Y ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau a chymysgedd o nwyddau wrth gludo ar y môr neu ddyfrffordd
- Y llwybrau a’r hybiau teithio cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar y môr neu ar ddyfrffordd
- Rôl cyrff rheoliadol, sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud cludiant ar y môr neu ddyfrffordd a'u gofynion cydymffurfio
- Y mathau o wybodaeth sy’n ofynnol a’r dogfennau perthnasol a ddefnyddir mewn cludiant rhyngwladol ar y môr neu ar ddyfrffordd
- Ble i ddod o hyd i wybodaeth a data diwydiant o systemau’n ymwneud â’r mathau o nwyddau i gael eu cludo, amserlenni ac argaeledd gofod
- Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol a’r rhanddeiliaid perthnasol
- Y biliau llwytho gwahanol a’u diben
- Y cynghreiriau anfon, gwasanaethau cynwyslongau ac awdurdodau porthladd
- Y mathau o faterion sydd yn gallu digwydd wrth drefnu cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd, a phwysigrwydd cyfathrebu unrhyw oedi i’r cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i’r materion
- Pwysigrwydd dilyn y gofynion arbennig sydd eu hangen gan nwyddau a chymysgedd gwahanol o nwyddau
- Pwysigrwydd, a’r rhesymau dros, roi cyfarwyddiadau i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau
- Y prosesau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â threfnu a monitro cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd
- Cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth drefnu cludo nwyddau ar y môr neu ar ddyfrffordd
- Y gweithdrefnau a’r graddfeydd amser cywir yn ymwneud â chadw dogfennau mewn perthynas â chludo nwyddau, i fodloni gofynion rhanddeiliaid perthnasol
- Y gofynion iechyd a diogelwch, deddfwriaeth, amgylcheddol a'r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
- Rôl sefydliadau rheoliadol a masnach allweddol yn anfon yn fyd-eang, yn cynnwys awdurdodau porthladd
Cwmpas/ystod
Nwyddau
• nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
• cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
• cynnyrch nad yw’n beryglus
• darfodus (bwyd)
• nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
• nwyddau ar gyfer arddangosiadau/digwyddiadau arddangos
Gofynion arbennig
• gwahanu
• gofynion amgylcheddol, gwres, oerfel, lleithder
• nwyddau cyfyngedig
• gofynion lles ar gyfer anifeiliaid byw
• cymysgedd o nwyddau
• diogeledd
• datganiadau tollau
Rhanddeiliaid
• cyflenwyr
• swyddogion
• cyrff rheoliadol
Cyfarwyddiadau cludo
• amser
• dull cludo
• cost
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dogfennau: Biliau llwytho/teithrestrau, cyfarwyddiadau anfon llwythi allforio, dogfennau tollau
Incoterm
Telerau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o 3 o delerau yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall mewn contractau ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL63
Galwedigaethau Perthnasol
Gweinyddu, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes
Cod SOC
1241
Geiriau Allweddol
trefnu; trafnidiaeth; nwyddau; môr; logisteg; rhyngwladol; dyfrffordd; cludo; llong