Trefnu cludo nwyddau drwy’r awyr
URN: SFL61
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â threfnu cludo nwyddau drwy’r awyr mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cludo nwyddau drwy’r awyr ac unrhyw ofynion arbennig fydd eu hangen wrth gludo’r nwyddau.
Bydd angen i chi hefyd allu cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â’r cludo a datrys unrhyw faterion a allai godi, wrth drefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr mewn perthynas â chydymffurfio â chontractau a deddfwriaeth, o fewn eich cyfrifoldeb.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cludo nwyddau drwy’r awyr mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis trafnidiaeth awyr yn lle dulliau amgen
- Adolygu holl gyfarwyddiadau trafnidiaeth perthnasol y nwyddau
- sy’n cael eu cludo drwy’r awyr
- Cyfrifo prisiau cludiant awyr a pharatoi dyfynbrisiau ar gyfer cwsmeriaid
- Adolygu’r contract cludo er mwyn sicrhau cydymffurfio wrth drefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr
- Cynllunio ac archebu gofod llwyth ar wasanaethau awyr yn unol â gweithdrefnau archebu llwyth awyr
- Cwblhau dogfennau cludo cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cludo drwy’r awyr, yn unol â gofynion rheoliadol a sefydliadol
- Cadarnhau bod cyfarwyddiadau ar gyfer teithio drwy’r awyr yn gywir, yn gyflawn ac yn cael eu darparu yn y dogfennau a'r systemau cywir
- Cadarnhau bod unrhyw ofynion arbennig neu gyfarwyddiadau yn cael eu nodi’n glir
- Darparu gwybodaeth berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau drwy’r awyr
- Rhoi cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau, yn unol â’r contract
- Cael gwybodaeth ynghylch sut i fonitro cludo nwyddau drwy’r awyr
- Monitro cynnydd trefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr
- Nodi unrhyw faterion gyda threfnu i gludo nwyddau drwy’r awyr a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
- Hysbysu’r cwsmer am unrhyw oedi, gan ganiatáu digon o amser i ymateb i’r oedi
- Cysylltu â’r goruchwyliwr neu’r uwch gydweithiwr perthnasol os nad yw’r materion a nodir yn gallu cael eu datrys
- Gwirio bod y dogfennau cludo’n cael eu cadw yn unol â gofynion statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol
- Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
- Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol wrth gludo nwyddau drwy’r awyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y derminoleg a ddefnyddir mewn gwasanaethau cludiant awyr
- Y tueddiadau presennol mewn gwasanaethau cludiant awyr rhyngwladol
- Y cyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo
- Pwysigrwydd adolygu a chydymffurfio â thelerau ac amodau contract wrth drefnu i gludo nwyddau drwy’r awyr
- Manteision ac anfanteision defnyddio cludiant awyr, y mathau gwahanol o awyrennau a ddefnyddir a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar yr amgylchedd
- Pwysigrwydd cynnal ymwybyddiaeth amgylcheddol busnes er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- Rheoliadau a chyfyngiadau trafnidiaeth awyr wrth gludo nwyddau, yn cynnwys symud nwyddau peryglus
- Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau a nwyddau cymysg wrth gludo drwy’r awyr
- Y llwybrau a’r hybiau teithio cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol
- Rôl cyrff rheoliadol, sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud nwyddau drwy’r awyr a’u gofynion cydymffurfio
- Y math o wybodaeth sy’n ofynnol a’r dogfennau perthnasol a ddefnyddir, mewn cludiant awyr rhyngwladol
- Ble i gael gwybodaeth am y diwydiant a data o systemau’n ymwneud â’r math o nwyddau i gael eu cludo, amserlenni ac argaeledd gofod
- Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol a'r rhanddeiliaid perthnasol
- Y cynwysyddion awyr gwahanol o’r Dyfeisiadau Llwytho Unedau (ULD) a’u dibenion
- Tariff a Rheolau Llwythi Awyr (TACT) a Chanllawiau OAG Llwybrau Awyr y Byd
- Y parthau amser a’r amser teithio drwy’r awyr ar gyfer y gyrchfan a'r nwyddau
- Daearyddiaeth y byd a ffiniau gwleidyddol sy’n berthnasol i gyrchfan y nwyddau
- Y mathau o faterion all godi wrth drefnu cludiant nwyddau drwy’r awyr a phwysigrwydd cyfathrebu unrhyw oedi i’r cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i’r materion
- Pwysigrwydd dilyn y gofynion arbennig sydd eu hangen gan nwyddau a chymysgedd gwahanol o nwyddau
- Pwysigrwydd, a’r rhesymau dros, roi cyfarwyddiadau i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau ynghylch marcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau
- Y prosesau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â threfnu a monitro cludo nwyddau drwy’r awyr
- Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth drefnu cludo nwyddau drwy’r awyr
- Diogeledd sylfaenol awyrennau
- Y gofynion iechyd a diogelwch, y deddfwriaeth, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
Nwyddau
• nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
• cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
• cynnyrch nad ydynt yn beryglus
• darfodus (bwyd)
• nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
• nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos
Gofynion arbennig
• gwahanu
• gofynion amgylcheddol, gwres, oerfel, lleithder
• nwyddau wedi eu cyfyngu
• gofynion llesiant ar gyfer anifeiliaid byw
• cymysgedd o nwyddau
• diogeledd
• datganiadau cwsmeriaid
Rhanddeiliaid
• cyflenwyr
• swyddogol
• cyrff rheoliadol
Cyfarwyddiadau cludo
• amser
• dull trafnidiaeth
• cost
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL60
Galwedigaethau Perthnasol
Gweinyddu, Rheoli busnes, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes
Cod SOC
1241
Geiriau Allweddol
trefnu; trafnidiaeth; nwyddau; awyr; cludiant; logisteg; rhyngwladol