Trefnu cludo nwyddau ar y ffordd

URN: SFL60
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â threfnu cludo nwyddau ar y ffordd mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol berthnasol ar gyfer cludo nwyddau ar y ffordd ac unrhyw ofynion arbennig sydd eu hangen gan y nwyddau sydd yn cael eu cludo.

Bydd angen i chi hefyd fod yn gallu cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig neu wedi eu heffeithio gan gludo nwyddau, a datrys unrhyw faterion a allai ddigwydd wrth drefnu i gludo nwyddau ar y ffordd mewn perthynas â chydymffurfio a deddfwriaeth contractau, o fewn eich maes cyfrifoldeb.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu i gludo nwyddau ar y ffordd mewn gweithrediadau masnach a logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Ystyried yr effaith amgylcheddol wrth ddewis trafnidiaeth ffordd yn hytrach na dulliau amgen
  2. Adolygu’r holl gyfarwyddiadau trafnidiaeth perthnasol a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo ar y ffordd
  3. Cyfrifo prisiau cludo nwyddau ar y ffordd a chreu dyfynbrisiau ar gyfer cwsmeriaid 
  4. Adolygu’r contract cludo er mwyn sicrhau cydymffurfio wrth drefnu cludo nwyddau ar y ffordd
  5. Cynllunio ac archebu cludiant nwyddau ar y ffordd yn unol â’r rheolau a’r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n berthnasol i’r nwyddau a anfonwyd a’r ardal o’r byd y mae’r nwyddau’n cael eu cludo iddi
  6. Cynllunio llwybrau a threfnu anfon llwythi trafnidiaeth ar y ffordd cenedlaethol a rhyngwladol a chael dealltwriaeth o oriau gyrru ac oriau cludo i/o’r DU
  7. Cwblhau dogfennau teithio cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer trafnidiaeth ar y ffordd, yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol
  8. Cadarnhau bod cyfarwyddiadau ar gyfer trafnidiaeth ar y ffordd yn gywir, yn gyflawn ac yn cael eu darparu yn y dogfennau a'r systemau cywir
  9. Cadarnhau bod unrhyw ofynion neu gyfarwyddiadau arbennig yn cael eu nodi’n glir
  10. Darparu’r wybodaeth berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau ar y ffordd 
  11. Rhoi cyfarwyddiadau ar farcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau yn unol â’r contract
  12. Cael gwybodaeth ynghylch sut i fonitro cludo nwyddau ar y ffordd
  13. Monitro cynnydd trefnu cludo nwyddau ar y ffordd
  14. Nodi unrhyw faterion gyda threfnu cludo nwyddau ar y ffordd a chymryd y camau priodol i ymdrin â’r rhain
  15. Hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw oedi, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i oedi 
  16. Cysylltu â’r goruchwyliwr neu’r uwch gydweithiwr perthnasol os nad ydych yn gallu datrys y materion a nodir
  17. Sicrhau bod y dogfennau trafnidiaeth yn cael eu cadw yn unol â’r gofynion statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  18. Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  19. Cydymffurfio â’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol wrth gludo nwyddau ar y ffordd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Y derminoleg a ddefnyddir mewn gwasanaethau cludo nwyddau ar y ffordd 
  2. Y tueddiadau presennol mewn gwasanaethau rhyngwladol cludiant ar y ffordd 
  3. Y cyfarwyddiadau trafnidiaeth perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo
  4. Pwysigrwydd adolygu a chydymffurfio â thelerau ac amodau’r contract wrth drefnu cludo nwyddau ar y ffordd
  5. Manteision ac anfanteision defnyddio trafnidiaeth ar y ffordd, y mathau gwahanol o gerbydau a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau a’r effaith y mae’r rhain yn ei gael ar yr amgylchedd
  6. Pwysigrwydd cynnal ymwybyddiaeth amgylcheddol busnesau er mwyn sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
  7. Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiad cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo ar y ffordd 
  8. Y llwybrau, hybiau trafnidiaeth a’r cyrchfannau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol wrth drefnu trafnidiaeth nwyddau
  9. Sut i gynllunio llwybrau a threfnu llwythi trafnidiaeth ar y ffordd cenedlaethol a rhyngwladol a phwysigrwydd oriau gyrru ac amserau teithiau
  10. Rôl y cyrff rheoliadol, y sefydliadau a’r asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol wrth symud cludiant ar y ffordd, a’u gofynion cydymffurfio
  11. Y broses deithio genedlaethol a rhyngwladol ac unrhyw ddogfennau tollau sy’n ofynnol ar gyfer llwythi penodol yn y tarddiad a’r gyrchfan
  12. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid cenedlaethol a rhyngwladol a rhanddeiliaid perthnasol
  13. Sut i gyfrifo prisiau cludiant ar y ffordd a chreu dyfynbrisiau ar gyfer cwsmeriaid
  14. Y mathau o faterion all ddigwydd wrth drefnu bod nwyddau’n cael eu cludo ar y ffordd, a phwysigrwydd cyfathrebu unrhyw oedi wrth y cwsmer mewn ffordd ragweithiol, gan ganiatáu cymaint o amser â phosibl i ymateb i’r materion
  15. Y mathau o wybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth a llwybrau teithio 
  16. Pwysigrwydd dilyn y gofynion arbennig sydd eu hangen gan nwyddau a chymysgedd gwahanol o nwyddau
  17. Pwysigrwydd, a’r rhesymau dros, roi cyfarwyddiadau i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau ynghylch marcio, labelu, pacio a gwahanu nwyddau
  18. Y prosesau a’r gweithdrefnau sydd yn gysylltiedig â threfnu a monitro cludo nwyddau ar y ffordd
  19. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad trafnidiaeth
  20. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth drefnu trafnidiaeth nwyddau ar y ffordd
  21. Y gweithdrefnau a’r graddfeydd amser cywir ar gyfer cadw dogfennau mewn perthynas â chludo nwyddau er mwyn bodloni gofynion deddfwriaeth a’r rhanddeiliaid perthnasol
  22. Y gweithdrefnau deddfwriaeth iechyd a diogelwch, gofynion amgylcheddol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol i’w dilyn wrth gludo nwyddau ar y ffordd 


Cwmpas/ystod


Nwyddau
nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
eitemau nad ydynt yn beryglus
darfodus (bwyd)
nwyddau i’w hatgyweirio /dychwelyd
nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos

Gofynion arbennig
gwahanu
gofynion amgylcheddol, gwres, oerfel, lleithder
nwyddau wedi eu cyfyngu
gofynion lles ar gyfer anifeiliaid byw
cymysgedd o nwyddau
diogeledd
datganiadau tollau

Rhanddeiliaid 
cyflenwyr
swyddogol
cyrff rheoliadol

Cyfarwyddiadau trafnidiaeth
amser
math o drafnidiaeth
cost


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL60

Galwedigaethau Perthnasol

Gweinyddu, Rheoli busnes, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes

Cod SOC

1241

Geiriau Allweddol

trefnu; trafnidiaeth; nwyddau; ffordd; cludiant; logisteg; rhyngwladol