Dewis ac argymell dulliau ar gyfer cludo nwyddau
URN: SFL59
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis ac argymell dulliau ar gyfer cludo nwyddau mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Bydd angen i chi ddeall y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol berthnasol ar gyfer cludo nwyddau ac unrhyw ofynion arbennig sydd gan y nwyddau sydd yn cael eu cludo.
Bydd angen i chi hefyd fod yn gallu cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig neu wedi eu heffeithio gan gludo nwyddau, a datrys unrhyw faterion a allai ddigwydd wrth ddewis dulliau ar gyfer cludo nwyddau, mewn perthynas â chydymffurfio â deddfwriaeth contractau, o fewn eich cyfrifoldeb.
Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull o gludo neu gyfuniad o ddulliau, h.y. ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu bod nwyddau’n cael eu cludo mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Adolygu’r holl gyfarwyddiadau trafnidiaeth a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo
- Nodi ac argymell y dulliau trafnidiaeth mwyaf addas ar gyfer y nwyddau
- Dewis y cerbydau a’r cynwysyddion perthnasol ar gyfer cludo’r nwyddau
- Argymell y llwybrau trafnidiaeth mwyaf addas i’r nwyddau gyrraedd eu cyrchfan
- Dewis y cyfuniad mwyaf addas o ddulliau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau
- Nodi unrhyw faterion wrth ddewis y dulliau trafnidiaeth, a chymryd y camau gofynnol i ymdrin â’r rhain
- Adrodd am unrhyw newidiadau mewn gofynion ar gyfer cludo nwyddau wrth y rhanddeiliad
- Adrodd am weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth gofynnol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
- Cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol wrth ddewis dulliau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y cyfarwyddiadau trafnidiaeth perthnasol a manylion y nwyddau sydd yn cael eu cludo
- Manteision ac anfanteision dulliau trafnidiaeth gwahanol a’r effaith y maent yn ei gael ar yr amgylchedd
- Y mathau o gerbydau a ddefnyddir mewn dulliau trafnidiaeth gwahanol
- Y llwybrau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol, hybiau trafnidiaeth, a chyrchfannau, wrth ddewis y dulliau ar gyfer cludo nwyddau
- Rôl sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol wrth symud nwyddau
- Pwysigrwydd dewis y dulliau cywir ar gyfer cludo nwyddau
- Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y sefydliadau a’r asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol sydd yn gysylltiedig â symud nwyddau
- Y dogfennau a’r mathau o wybodaeth sydd yn ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth a llwybrau teithio
- Y termau masnach a’r safonau rhyngwladol perthnasol ar gyfer cludo nwyddau, yswiriant a chostau (Incoterm)
- Y materion sydd yn gallu digwydd wrth ddewis dulliau ar gyfer cludo nwyddau a sut i ymdrin â’r rhain
- Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r cyfyngiadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau wrth gludo nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Y cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a’u gofynion cydymffurfio
- Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer cludo nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth ddewis y dull trafnidiaeth
- Y safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, moesegol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
Nwyddau
• nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
• cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
• eitemau nad ydynt yn beryglus
• darfodus (bwyd)
• nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
• nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos
Dull trafnidiaeth
• Llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo llwythi a RO-RO
• Awyr
• Môr
• Rheilffordd
• Ffordd
Cyfarwyddiadau trafnidiaeth
• amser
• dull trafnidiaeth
• cost
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Incoterm
Termau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o dermau masnach 3 llythyren sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall yng nghontractau ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risg sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau oddi wrth werthwyr i brynwyr.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL59
Galwedigaethau Perthnasol
Gweinyddu, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith
Cod SOC
1241
Geiriau Allweddol
dewis; argymell; dulliau; mathau; llwybr; cyrchfan; rhyngwladol