Cael gwybodaeth am nwyddau sydd yn cael eu cludo

URN: SFL58
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chael gwybodaeth am nwyddau sydd yn cael eu cludo mewn gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol. Mae’n rhaid i’r wybodaeth fod yn gywir, yn gyflawn a chydymffurfio â gofynion yr awdurdod rheoliadol perthnasol, p’un ai’n gweithredu’n genedlaethol neu’n rhyngwladol. Mae’n rhaid i’r wybodaeth gynnwys yr holl fanylion perthnasol er mwyn i’r nwyddau gael eu cludo’n effeithlon ac ar amser. Byddwch yn gyfrifol am gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau ac ymdrin ag unrhyw anghysondeb yn y wybodaeth.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am gefnogi gweithrediadau masnach a logisteg rhyngwladol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. Cysylltu â’r cwsmer a’r rhanddeiliaid perthnasol i gael gwybodaeth berthnasol am y nwyddau sy’n cael eu cludo
  2. Cael yr holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar gyfer y dogfennau perthnasol am y nwyddau sy’n cael eu cludo
  3. Cael yr holl gyfarwyddiadau cludo perthnasol ar gyfer y nwyddau gan gwsmeriaid, a chadarnhau unrhyw ofynion arbennig neu gyfarwyddiadau am y nwyddau sy’n cael eu cludo
  4. Gwirio’r cynnwys ac addasrwydd y wybodaeth a gafwyd
  5. Nodi’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol sy’n berthnasol i’r nwyddau sy’n cael eu cludo
  6. Cydgrynhoi’r wybodaeth yn barod i’w defnyddio pan fo angen i greu’r holl ddogfennau perthnasol
  7. Sicrhau bod y dogfennau cludo’n cael eu cadw yn unol â’r gofynion statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  8. Nodi unrhyw anghysondebau neu faterion gyda’r nwyddau, y dogfennau a’r cyfarwyddiadau cludo, a chymryd y camau gofynnol i ymdrin â’r rhain
  9. Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â’r gweithdrefnau statudol, rheoliadol, deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  10. Cydymffurfio â’r holl safonau iechyd a diogelwch, amgylcheddol, deddfwriaethol, rheoliadol a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. Gan bwy i gael y wybodaeth berthnasol am y nwyddau sy’n cael eu cludo
  2. Y cyfarwyddiadau cludo perthnasol a manylion y nwyddau sy’n cael eu cludo a sut i gael y wybodaeth berthnasol 
  3. Y dulliau, y cyfryngau a’r graddfeydd amser ar gyfer cludo nwyddau
  4. Rôl y sefydliadau a’r asiantaethau perthnasol yn symud nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  5. Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y sefydliadau a’r asiantaethau perthnasol sydd yn gysylltiedig â symud nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  6. Y dogfennau a’r lefel a’r math o wybodaeth sy’n ofynnol gan y rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer mathau a chymysgedd gwahanol o nwyddau, dulliau cludo a llwybrau teithio
  7. Pwysigrwydd cael a gwirio unrhyw ofynion arbennig sydd eu hangen gan nwyddau gwahanol a chymysgedd o nwyddau sydd yn cael eu cludo
  8. Canlyniadau cwblhau gwybodaeth/dogfennau anghywir ar symud nwyddau a’u diffyg cydymffurfio
  9. Y termau masnach a’r safonau rhyngwladol perthnasol ar gyfer cludo llwythi, yswiriant, a chostau (Incoterm)
  10. Y gweithdrefnau a’r graddfeydd amser cywir ar gyfer cadw dogfennau mewn perthynas â chludo nwyddau i fodloni gofynion rhanddeiliaid perthnasol
  11. Y ffynonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol
  12. Y deddfwriaethau, y rheoliadau a’r cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a’u gofynion cydymffurfio ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth, a masnach rhyngwladol
  13. Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer cludo nwyddau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol
  14. Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol yn y gadwyn gyflenwi wrth gludo nwyddau
  15. Y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sefydliadol cenedlaethol a rhyngwladol sy’n berthnasol i iechyd a diogelwch, a’ch maes cyfrifoldeb eich hun ac ystyriaethau moesegol 


Cwmpas/ystod


Dogfennau
Dogfennau trafnidiaeth
Dogfennau talu
Dogfennau masnach
Tollau 

Nwyddau
nwyddau peryglus (fflamadwy, gwenwynig, llaeth, grawn)
cymysgedd o nwyddau (bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd)
eitemau nad ydynt yn beryglus
darfodus (bwyd)
nwyddau i’w hatgyweirio/dychwelyd
nwyddau ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau arddangos


Gofynion arbennig
gwahanu
gofynion amgylcheddol, gwres, oerfel, lleithder
nwyddau wedi eu cyfyngu
gofynion lles ar gyfer anifeiliaid byw
cymysgedd o nwyddau
diogeledd
datganiadau tollau
 

Cyfarwyddiadau cludo
amser
dull cludo
cost


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Incoterm
Termau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterm yn esbonio set o dermau masnach 3 llythyren sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall yng nghontractau ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterm yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r risg sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau oddi wrth werthwyr i brynwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL58

Galwedigaethau Perthnasol

Gweinyddu, Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Busnes

Cod SOC

1241

Geiriau Allweddol

trafnidiaeth; cludiant; nwyddau; dogfen; symudiad; rhyngwladol