Rheoli fflyd cerbydau nwyddau

URN: SFL54
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli fflyd cerbydau nwyddau. Mae’n cynnwys rheoli’r cerbydau a’u gyrwyr, cofnodi adborth, ei gyfathrebu wrth y bobl berthnasol a’u hysbysu am y canlyniadau mewn cysylltiad â rheoli’r fflyd. Mae’n cynnwys gwerthuso perfformiad, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd a gallu nodi tueddiadau.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â rheoli fflyd cerbydau nwyddau mewn gweithrediadau logisteg. Mae’r safon hon yn ymwneud â’r rheiny a allai fod â chyfrifoldeb dros eraill neu’n chwarae rôl rheolwr llinell mewn perthynas â rheoli fflyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli dyraniad adnoddau fflyd cerbydau nwyddau, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad

  2. cynorthwyo cydweithwyr i ddyrannu, rheoli a monitro adnoddau fflyd cerbydau nwyddau i fodloni amserlenni eich sefydliad ar gyfer cludo nwyddau

  3. defnyddio systemau cyfathrebu a gwybodaeth sefydliadol i reoli adnoddau fflyd cerbydau nwyddau
  4. defnyddio systemau cyfathrebu sefydliadol i ddarparu gwybodaeth i yrwyr fflyd cerbydau wrth gludo nwyddau
  5. rheoli amserlenni dosbarthu mewn ymateb i wybodaeth a gafwyd trwy fonitro fflyd cerbydau neu a dderbyniwyd gan yrwyr y fflyd cerbydau
  6. cydgrynhoi adborth a gwybodaeth a gasglwyd gan gwsmeriaid
  7. datrys materion gweithredol yn seiliedig ar adborth gan gwsmeriaid
  8. hysbysu cwsmeriaid a’r personél perthnasol am y newidiadau i’r adnoddau a ddyrennir, yr amserlenni dosbarthu neu’r nwyddau i gael eu dosbarthu
  9. hysbysu cwsmeriaid a’r personél perthnasol am faterion na ellir eu datrys
  10. rheoli cofnodion ac addasu unrhyw ddogfennau cludiant neu nodiadau prawf dosbarthu i adlewyrchu newidiadau
  11. gwerthuso ac adolygu perfformiad y fflyd cerbydau yn erbyn cynllun gweithredol y sefydliad
  12. gwerthuso ac adolygu gallu’r fflyd i fodloni amserlenni dosbarthu
  13. nodi patrymau neu dueddiadau ym mherfformiad y fflyd cerbydau i lywio cynlluniau yn y dyfodol, yn cynnwys dewis dulliau trafnidiaeth
  14. cynnig diwygiadau i weithdrefnau gweithredol a sefydliadol a’u cyfathrebu wrth y personél perthnasol
  15. cydymffurfio â’r gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â rheoli’r fflyd cerbydau nwyddau
  16. cyfathrebu gyda chydweithwyr, gan ddefnyddio’r dulliau gweithredol perthnasol mewn perthynas â rheoli fflyd cerbydau nwyddau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich polisïau a’ch gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer dyrannu adnoddau fflyd cerbydau nwyddau

  2. yr adnoddau fflyd cerbydau nwyddau yn eich sefydliad

  3. y mathau o gerbydau nwyddau a’r cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cario mathau gwahanol o lwythi
  4. y dulliau trafnidiaeth a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyflawni gofynion cwsmeriaid
  5. y cyfarpar cyfathrebu a monitro a ddefnyddir yn eich sefydliad i helpu i reoli fflyd cerbydau nwyddau
  6. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer rheoli fflyd cerbydau nwyddau
  7. y llwybr, y gyrchfan, y amserlenni dosbarthu a chasglu ar gyfer rheoli fflyd cerbydau nwyddau yn eich sefydliad
  8. yr amserlenni perthnasol ar gyfer cludo nwyddau gan eich sefydliad
  9. y mathau gwahanol o weithdrefnau cofnodi a'r dogfennau a ddefnyddir gan eich sefydliad i helpu i reoli fflyd cerbydau nwyddau
  10. y ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sy’n effeithio ar reoli fflyd cerbydau nwyddau

  11. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gwybodaeth am y fflyd cerbydau nwyddau wrth gydweithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid perthnasol

  12. y ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir i roi adborth i’r sefydliad ac i’r cwsmeriaid 
  13. y mathau o systemau a gweithdrefnau adolygu gweithredol a sefydliadol ar gyfer eich sefydliad
  14. y gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredol perthnasol yn ymwneud â rheoli’r fflyd cerbydau nwyddau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cwsmer(iaid): mewnol, allanol

Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth

Adnoddau fflyd cerbydau: gyrwyr, cerbydau, ôl-gerbydau, cyfarpar ategol, tanwydd

Amserlenni: y cytundebau gyda chwsmeriaid sy’n ymwneud â chyflwyno nwyddau i gyrchfan y cytunwyd arni ar amser penodol

Dulliau trafnidiaeth: ffordd, rheilffordd, môr, awyr

Cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL54

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

4134

Geiriau Allweddol

rheoli; arwain; goruchwylwyr; swyddfa; swyddfa draffig; trafnidiaeth; cludiant; cerbydau