Gwneud adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith
URN: SFL53
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwneud adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith sy’n ofynnol wrth gwblhau amserlen ddosbarthu. Mae’n cynnwys gwirio dogfennau, gwirio cyflwr y cerbyd a chadarnhau bod namau neu niwed wedi cael eu hadrodd. Mae’n cynnwys rheoli llwythi sydd wedi eu dychwelyd ac ailddirprwyo neu aildrefnu’r gyrrwr neu’r cerbyd, os oes angen.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon cludiant ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod y cerbyd wedi cael ei ddychwelyd ar ôl taith, yn unol â gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol
- cynnal gwiriadau ar gyflwr cerbyd, wrth gwblhau amserlen ddosbarthu
- adrodd am namau neu ddiffygion a ganfyddir ar y cerbyd, gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
- cynnal gwiriadau ar ddogfennau a chofnodion eraill yn ymwneud â’r gyrrwr a’r cerbyd, gan gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, gweithredol a sefydliadol perthnasol
- ailddirprwyo neu aildrefnu gyrwyr a cherbydau o ganlyniad i’r adroddiad a baratowyd gan y gyrrwr
- rheoli a threfnu i ddychwelyd llwythi, yn unol â gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu
- cyfathrebu gwybodaeth sy’n berthnasol i adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith wrth gydweithwyr a chwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- systemau dogfennau eich sefydliad ar gyfer adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith
- sut i wneud adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith
- gweithdrefnau gwybodaeth, cofnodi a dogfennau eich sefydliad
- pwysigrwydd a’r defnydd o delemateg a thacograffau yn yr adroddiad a’r gwiriadau ar ôl taith
- y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol mewn perthynas â dyrannu adnoddau a gweithdrefnau sefydliadol
- sut i aildrefnu neu ailddirprwyo gyrwyr ac amserlenni
- y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid
- y materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol perthnasol yn ymwneud â gwiriadau cerbydau ar ôl taith ac aildrefnu cerbydau
- y gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud ag adroddiadau a gwiriadau ar ôl taith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cwsmeriaid: mewnol ac allanol
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwythi, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth
Deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer: oriau a rheoliadau trwydded gyrrwr, gofynion CPC gyrrwr, gofynion trwyddedu y gweithredwr cerbydau, gweithdrefnau gweithredu amgylcheddol, gofynion llwyth peryglus, ADR
Cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL53
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol
Cod SOC
4134
Geiriau Allweddol
trafnidiaeth; cludiant; taith; gwiriadau; adroddiadau