Rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi. Mae’n cynnwys sicrhau bod yr holl gamau cyn y daith wedi cael eu cwblhau a bod gyrrwr priodol wedi cael ei neilltuo.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi mewn gweithrediadau logisteg, er enghraifft, rhywun sydd yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon cludiant ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael a chadarnhau manylion y llwythi sydd i gael eu casglu neu eu dosbarthu
- cadarnhau’r wybodaeth gyfeirio a threfnu ar gyfer cludo llwythi
- dewis a dyrannu’r gyrrwr, y cerbyd a’r cyfarpar ar gyfer cludo llwythi
- cadw cofnodion y gyrrwr, y cerbyd a’r cyfarpar sydd wedi eu dyrannu ar gyfer cludo llwythi
- cyfathrebu a chytuno gyda chydweithwyr ynghylch unrhyw gamau i’w cymryd i ddatrys problemau yn dyrannu adnoddau, a chofnodi’r rhain, lle y bo’n briodol
- awdurdodi’r defnydd o adnoddau a chwblhau’r wybodaeth neu’r dogfennau angenrheidiol ar gyfer rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi
- cyhoeddi’r dogfennau perthnasol mewn perthynas â manylion cyflenwad a dosbarthu
- dilyn gweithdrefnau’r sefydliad a’r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sefydliadol perthnasol yn ymwneud â rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y math o lwyth a nodweddion y cyflenwad i gael ei symud
- y dulliau gwahanol o drafnidiaeth a cherbydau a ddefnyddir gan y sefydliad ar gyfer cludo llwythi
- y mathau o gerbydau a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cludo llwythi gwahanol a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer eu rhyddhau
- y sgiliau, y cymwysterau a’r trwyddedau perthnasol sy’n ofynnol gan yrwyr yn y sefydliad
- y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol sy’n ymwneud â dyrannu adnoddau
- y llwybr, y gyrchfan, yr amserlenni casglu a dosbarthu ar gyfer cludo llwythi
- systemau a gweithdrefnau cofnodi’r sefydliad mewn perthynas â rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi
- y gofynion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol perthnasol yn ymwneud â rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi
- y dulliau cyfathrebu i’w defnyddio gyda chydweithwyr a chwsmeriaid
- y gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â rhyddhau cerbydau ar gyfer cludo llwythi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cwsmeriaid: mewnol ac allanol
Dogfennau: rhestrau cargo, nodiadau dosbarthu, gwybodaeth am nwyddau peryglus
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth
Deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer: rheoliadau oriau a thrwyddedau gyrwyr, gofynion DPP gyrwyr, gofynion trwyddedu gweithredwyr cerbydau, gweithdrefnau gweithredu amgylcheddol, gofynion llwythi peryglus, ADR