Cyfeirio a threfnu llwythi

URN: SFL46
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu’r wybodaeth sy’n ofynnol i gyfeirio a threfnu llwythi, yn cynnwys ei ddefnyddio i greu amserlenni dosbarthu. Mae’n cynnwys cydgrynhoi gwybodaeth am amseru a chyrchfannau cyflenwadau a’r math o gerbyd sy’n ofynnol i gludo’r nwyddau.

Mae’r safon hon yn berthnasol i bawb sydd yn gysylltiedig â chyfeirio a threfnu llwythi mewn gweithrediadau logisteg, er enghraifft, rhywun sydd yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon cludiant ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​nodi pob cyflenwad a chael manylion amserau, cyfeirio a’r gyrchfan ar gyfer dosbarthu a chasglu’r llwythi
  2. cydgrynhoi’r cyflenwadau a nodi paramedrau didoli ar gyfer y llwybr dosbarthu, trefnu a chasglu’r llwythi
  3. cadarnhau’r dull trafnidiaeth a’r mathau o gerbydau a chyfarpar i gael eu defnyddio
  4. cyfuno neu rannu cyflenwadau yn lwythi hawdd eu trin, gan ystyried gallu gyrwyr a gweithrediad cerbydau
  5. cofnodi a chyfathrebu gwybodaeth am y llwyth wrth gydweithwyr a chwsmeriaid perthnasol
  6. datrys problemau o ran cyfuno’r cyflenwadau neu rannu nwyddau’n llwythi
  7. nodi ac adrodd am unrhyw gyflenwadau na ellir eu cyfuno neu eu rhannu’n llwythi
  8. cadarnhau’r llwyth a’r math o gerbyd sydd wedi ei ddewis ar gyfer dosbarthu
  9. blaenoriaethu a gwneud y gorau o amserlenni dosbarthu a chasglu i fodloni gofynion cwsmeriaid
  10. gwneud defnydd o delemateg yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  11. cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y math o lwyth a nodweddion cyflenwadau i gael eu casglu neu eu dosbarthu

  2. y math o gerbydau i gael eu defnyddio ar gyfer cludo llwythi gwahanol

  3. y dulliau trafnidiaeth gwahanol sydd ar gael
  4. cyfyngiadau’r llwybrau, y cerbydau, y cyfarpar a’r gyrwyr, yn cynnwys pwysau a dimensiynau perthynasol cerbydau
  5. y dulliau o ddosbarthu llwyth
  6. y mathau o baramedrau didoli sy’n berthnasol i’r cyflenwad, y llwybr dosbarthu, trefnu a chasglu’r llwythi
  7. y materion amgylcheddol, economaidd ac effeithlonrwydd sy’n ymwneud â’r llwyth a’r cerbyd
  8. y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer casglu a dosbarthu llwythi
  9. systemau cofnodi’r sefydliad a’r gweithdrefnau ar gyfer cyfeirio a threfnu llwythi
  10. y gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol i’w dilyn wrth ddatrys problemau
  11. y ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a materion amgylcheddol
  12. ffynonellau gwybodaeth cyfeirio a threfnu yn cynnwys telemateg
  13. pwysigrwydd cael manylion amserau, cyfeirio a’r gyrchfan ar gyfer dosbarthu a chasglu’r llwythi
  14. gweithdrefnau gweithredol a sefydliadol ar gyfer ymdrin â llwythi na ellir eu cyfeirio a’u trefnu
  15. y mathau o weithdrefnau recordio a chofnodi a ddefnyddir wrth gyfeirio a threfnu llwythi
  16. y gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chyfeirio a threfnu llwythi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cwsmer(iaid): mewnol, allanol

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth

Paramedrau didoli: cyrchfan, ffenestr ddosbarthu, amgylchedd ffisegol, nodweddion y cyflenwadau

Deddfwriaeth, amgylcheddol, rheoliadau a chodau ymarfer: Deddfau Traffig Ffyrdd, llwytho y tu allan i oriau, defnydd o gyfarpar codi peirianyddol

Telemateg: defnydd integredig o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFL46

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gyrwyr a Gweithredwyr Peiriannau Symudol, Gweithwyr Trafnidiaeth Cyswllt Proffesiynol

Cod SOC

4134

Geiriau Allweddol

trafnidiaeth; symudiad; cyfeirio; trefnu