Nodi mannau casglu a dosbarthu addas ar gyfer nwyddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi mannau casglu a dosbarthu addas ar gyfer nwyddau. Mae’n cynnwys casglu gwybodaeth am y cyfleusterau sy’n ofynnol neu ar gael ar gyfer llwytho neu ddadlwytho, a mynediad at fannau dosbarthu. Mae hefyd yn cynnwys ystyried materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon cludiant ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi a chadarnhau gofynion a chyfyngiadau’r nwyddau i gael eu symud
sefydlu man cyswllt lle gellir cael manylion y man casglu neu ddosbarthu
- cael gwybodaeth gan gydweithwyr/cwsmeriaid yn ymwneud â gofynion mynediad ffisegol a diogeledd y mannau casglu neu ddosbarthu
- cael gwybodaeth gan gydweithwyr/cwsmeriaid am iechyd, diogelwch ac unrhyw faterion amgylcheddol yn ymwneud â’r mannau casglu neu ddosbarthu
- pennu terfynau neu gyfyngiadau, gan ddefnyddio’r ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol, a allai effeithio ar fannau casglu neu ddosbarthu ar gyfer nwyddau
- cadarnhau’r nwyddau a phennu addasrwydd man dosbarthu neu gasglu
- cael gwybodaeth gan gydweithwyr/cwsmeriaid ar y cyfleusterau llwytho neu ddadlwytho mewn mannau casglu neu ddosbarthu, gan gadw mewn golwg y nwyddau a’r cerbyd penodol sydd yn cael eu defnyddio
- nodi pryd mae angen cyfarpar arbenigol ar gyfer llwytho a dadlwytho nwyddau
- cyfathrebu gyda chydweithwyr/cwsmeriaid mewn perthynas â’r nwyddau ac unrhyw broblemau gyda mannau casglu neu ddosbarthu
- cytuno gyda chydweithwyr/cwsmeriaid ar y camau sy’n ofynnol i ddatrys unrhyw broblemau gyda’r cyfleusterau yn y mannau casglu neu ddosbarthu
- cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
math a nodweddion y nwyddau i gael eu symud
y math o gerbydau sydd yn addas ar gyfer cario nwyddau gwahanol
- y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer mynediad diogel i ac o fannau casglu a dosbarthu
- sut i nodi’r ffynonellau gwybodaeth am iechyd, diogelwch a materion amgylcheddol sy’n ymwneud â’r mannau casglu a dosbarthu
- y gweithdrefnau recordio a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad, mewn perthynas â chasglu a dosbarthu nwyddau
- y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr/cwsmeriaid
- y math o gyfleusterau sy’n ofynnol ar gyfer llwytho a dadlwytho nwyddau a sut i bennu eu haddasrwydd
- y ffynonellau a’r pwyntiau cyswllt ar gyfer gwybodaeth am y cyfleusterau llwytho a dadlwytho
- y ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer llwytho neu ddadlwytho cerbydau
- y mathau a’r ffynonellau cyfarpar arbenigol sy’n ofynnol ar gyfer llwytho a dadlwytho nwyddau
- y gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â mannau casglu a dosbarthu
- sut i gofnodi gwybodaeth am gasglu a dosbarthu nwyddau yn unol â pholisi a gweithdrefnau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cyfathrebu: llafar, ysgrifenedig, electronig
Cwsmeriaid: mewnol ac allanol
Deddfwriaeth, amgylcheddol, rheoliadau a chodau ymarfer: Deddfau Traffig Ffyrdd, llwytho y tu allan i oriau, defnydd o gyfarpar codi peirianyddol