Derbyn a storio nwyddau fferyllol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â derbyn a storio nwyddau fferyllol yn ddiogel mewn cyfleusterau warws a storio. Rhoddir sylw i'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer nwyddau fferyllol a'r amodau storio sy'n ofynnol i gadw'r stoc fel ei fod yn addas at y diben.
Bydd gweithredwyr yn gweithio yn unol â gofynion sefydliadol ar gyfer y ffyrdd y darperir gwasanaethau storio nwyddau fferyllol yn y gweithle. Mae'n rhaid i'r gweithredwyr gydymffurfio ag ymarfer sydd yn adlewyrchu gwybodaeth ddiweddar a pholisïau sefydliadol.
Mae nwyddau fferyllol yn cynnwys meddygaeth neu feddyginiaeth, a gellir ei ddiffinio'n fras fel unrhyw sylwedd cemegol a fwriadwyd i'w ddefnyddio ar gyfer diagnosis meddygol, gwellhad, triniaeth, neu i atal clefydau.
* *
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr warws mewn gweithrediadau logisteg sydd yn ymdrin â storio nwyddau fferyllol yn ddiogel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau tasgau, blaenoriaethau a chyfrifoldebau gyda'r person(au) perthnasol
- dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol yn ymwneud ag Offer Amddiffynnol Personol (PPE), symud, trin a derbyn nwyddau, a rhoi stoc yn yr ardaloedd/lleoliadau storio gofynnol
- gwirio'r cyflenwadau yn erbyn y nodyn dosbarthu a'r archeb wreiddiol i nodi unrhyw anghysondebau
- llofnodi ar gyfer archeb sy'n cael ei derbyn pan fyddwch wedi cadarnhau bod yr holl eitemau wedi cael eu derbyn a pharu gofynion yr archeb
- nodi'r ardaloedd/lleoliadau storio gofynnol a'r gofynion storio ar gyfer y nwyddau fferyllol a dderbyniwyd
- storio'r stoc a dderbyniwyd yn yr ardaloedd/lleoliadau storio, gan ystyried gofynion diogelwch sefydliadol a chyfreithiol perthnasol, gweithdrefnau, gofynion storio a'r gofynion ar gyfer cylchdroi stoc mewn perthynas â storio nwyddau fferyllol
- hysbysu'r person(au) perthnasol ynghylch argaeledd stoc lle mae'r nwyddau ar gyfer archeb sydd heb gyrraedd
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer storio a rheoli sylweddau peryglus yn ymwneud â chynnal a gwaredu nwyddau fferyllol yn ddiogel
- gwirio'r ardaloedd/lleoliadau storio ar yr adegau gofynnol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol i gadarnhau eu bod yn cyd-fynd â chanllawiau sefydliadol
- gwirio'r stoc ar y cyfnodau gofynnol yn unol â'r canllawiau sefydliadol
- ymdrin â galw cynnyrch yn ôl neu rybuddion cyffuriau gan ddilyn canllawiau sefydliadol cytûn
- cwblhau'r holl ddogfennau/cofnodion perthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer stoc sy'n cael ei dderbyn, cylchdroi stoc, gwiriadau stoc a nwyddau wedi eu niweidio
- gwneud eich gwaith yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol ar gyfer Offer Amddiffynnol Personol (PPE), a chynnal eich offer yn yr ardal waith
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer storio nwyddau fferyllol yn ddiogel ac yn gadarn
- sut i ddilyn gweithdrefnau sefydliadol yn ymwneud â derbyn, storio a chynnal nwyddau fferyllol
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn ymwneud â derbyn, storio, cynnal a gwaredu stoc fferyllol
- y gweithdrefnau sy'n berthnasol i dderbyn stoc fferyllol
- y gweithdrefnau ar gyfer trin a galw cynnyrch yn ôl neu rybuddion cyffuriau
- sut i adnabod a chynnal ardaloedd/lleoliadau storio diogel a diogelu amgylcheddau storio
- y gofynion storio ar gyfer y cynnyrch y mae gennych gyfrifoldeb drostynt a pham y maent yn bwysig
- rôl a diben rhaglen cymryd stoc
- sut i storio nwyddau fferyllol yn yr ardaloedd/lleoliadau storio y mae gennych gyfrifoldeb drostynt
- sut a pha wybodaeth stoc i hysbysu'r person(au) perthnasol yn eu cylch ar gyfer y stoc y mae gennych gyfrifoldeb drosto
- sut i reoli stoc, yn cynnwys cylchdroi stoc, a gwirio dyddiadau dod i ben nwyddau fferyllol
- sut i adnabod stoc wedi ei niweidio, wedi ei heintio neu sydd wedi dirywio neu sylweddau peryglus
- beth i'w wneud â stoc nad yw ar gael am ei fod y tu hwnt i'w ddyddiad dod i ben, wedi ei niweidio, wedi ei heintio, â rhif swmp anghyson y mae hysbysiad galw stoc yn ôl neu rybuddion cyffuriau wedi cael ei roi ar ei gyfer
- sut i roi data stoc i mewn a'i adalw
- sut i gynnal a gwneud copi wrth gefn o wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer storio nwyddau fferyllol yn eich maes cyfrifoldeb
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anghysondebau:
Unrhyw wybodaeth neu wahaniaethau rhwng yr hyn a ddisgwylir a'r hyn a gofnodir mewn system rheoli nwyddau.
Ardaloedd/lleoliadau storio: ardaloedd gwaith mewn cewyll/diogel, cyfleusterau storio nwyddau fferyllol yn unig neu'n rhannol
Galw cynnyrch yn ôl neu rybuddion cyffuriau: o gynhyrchwyr, llywodraeth, gwasanaeth iechyd, neu wybodaeth/bwletin ffug posibl
Person(au): goruchwyliwr, rheolwr llinell, cydweithiwr
Sylweddau peryglus: cemegau, cynnyrch yn cynnwys cemegau, mygdarth, anweddau, niwloedd, nwyon ac ati.