Asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli warws a storio
URN: SFL230
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli warws a storio. Mae’n cynnwys asesu a monitro’n rheolaidd yn ogystal â chofnodi ac adrodd ar yr asesiad o systemau silffoedd a rheseli.
Mae’r safon hon ar gyfer person cymwys sydd yn gallu cynnal asesiadau risg a monitro systemau silffoedd a rheseli. Nid yw’n cynnwys y fanyleb gychwynnol, dylunio a chodi systemau silffoedd a rheseli warws, na’r glanhau. Mae glanhau wedi ei gynnwys yn SFLWS16. Mae arolygiadau gweledol ac adrodd am niwed gan weithrediadau warws wedi eu cynnwys yn SFLWS16, SFLWS18 a SFLWS23.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhestru’r tasgau, y blaenoriaethau a’r cyfrifoldebau dros asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli warws a storio yn y sefydliad logisteg
- nodi’r peryglon sydd yn gysylltiedig ag asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli warws a storio, a chynnal a chofnodi asesiad risg
- sicrhau bod y systemau silffoedd a rheseli yn barod ar gyfer eu hasesu a’u monitro
- adrodd am unrhyw amgylchiadau sydd yn atal systemau silffoedd a rheseli rhag cael eu hasesu a’u monitro
- asesu’r systemau silffoedd a rheseli am unrhyw niwed, diffygion neu orlwytho ac ati
- cofnodi’r asesiad yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- adrodd ar y canfyddiadau wrth y rheiny sy’n gyfrifol am drefnu cynnal a chadw ac atgyweirio systemau silffoedd a rheseli
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud ag asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli warws a storio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli warws a storio
- sut i gynnal asesiadau risg mewn perthynas ag asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli warws a storio
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn llywodraethu’r defnydd o systemau silffoedd a rheseli
- sut i asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli am niwed, diffygion a gorlwytho, a chanlyniadau peidio â nodi ac adrodd am namau
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer asesu a monitro systemau silffoedd a rheseli, yr amgylchiadau a allai eich atal rhag cyflawni hyn a’r camau i’w cymryd
- y mathau o broblemau sydd yn digwydd gyda systemau silffoedd a rheseli a sut i nodi ac ymateb i broblemau o’r fath
- wrth bwy i adrodd am yr asesiad o systemau silffoedd a rheseli a pham y mae’n bwysig sicrhau bod y canfyddiadau’n cael eu gweithredu
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu ar gyfer asesu risg a chynnal a chadw systemau silffoedd a rheseli ym maes warws a storio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar a pheiriannau: offer a chyfarpar sy’n cael eu pweru ymlaen, offer pŵer llaw, lifftiau, craeniau
Systemau silffoedd a rheseli: systemau storio arbenigol mewn warws, rheseli, cewyll storio, systemau warws a storio llaw ac awtomataidd
Asesu risg: archwiliad gofalus o’r hyn sydd yn y gweithle a allai achosi niwed i bobl, er mwyn gwerthuso bod rhagofalon digonol wedi cael eu cyflawni neu y dylai fod mwy er mwyn atal niwed
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL230
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Storio a Manwerthu, Galwedigaethau Storio Nwyddau Sylfaenol, Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
arbenigol; warws; storio; rheseli; silffoedd; cynnal a chadw