Cynllunio’r llwybr a’r amseru ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi aml-ollwng
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio'r llwybr a'r amseru ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi aml-ollwng ar gyfer cerbyd nwyddau.
Mae'n cynnwys cynllunio llwybrau gan ddefnyddio gwybodaeth am ofynion casglu neu ddosbarthu ar gyfer y llwythi aml-ollwng a'r amserlen yn ogystal â nodi ffactorau'n ymwneud â'r cerbyd nwyddau a'r llwyth fydd yn dylanwadu ar y dewis o lwybr, fel cyfyngiadau pwysau ac uchder. Mae hefyd yn cynnwys yr angen i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer seibiau yn ystod dyletswyddau gyrru a nodi mannau addas ar gyfer seibiau o'r fath.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl yrwyr sy'n dosbarthu i gwsmeriaid fel rhan o weithgareddau aml-ollwng a'r rheiny sy'n gyfrifol am gerbydau nwyddau o fewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu'r holl wybodaeth berthnasol am y cyrchfannau, llwybr, amserlen, **pellterau gyrru, gofynion aml-ollwng, amserau dosbarthu a gofynion y cwsmer ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi aml-ollwng
- nodi ffactorau perthnasol, yn cynnwys cyfyngiadau, a allai effeithio ar y cerbyd nwyddau a'r llwyth wrth ddewis a chynllunio'r llwybr ar gyfer llwythi aml-ollwng
- defnyddio adnoddau cynllunio llwybr i gyrraedd cyrchfannau yn cynnwys nodi prif ffyrdd a ffyrdd bach addas
- nodi unrhyw broblemau posibl wrth ddefnyddio llwybrau arfaethedig ar gyfer llwythi aml-ollwng a chynllunio llwybrau amgen
- cynllunio'r pellterau gyrru a'r amser sydd ei angen i gyflawni'r daith a'r amserlen gan ystyried unrhyw ofynion llwyth neu ddosbarthu sydd yn cael effaith ar y cyfnodau gyrru
- nodi seibiau a lleoliadau seibiau gyrwyr sydd â'r cyfleusterau gofynnol ar gyfer y gyrrwr, y cerbyd nwyddau, a'r llwyth
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu neu ddosbarthu llwythi aml-ollwng
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y wybodaeth sydd ei hangen i gynllunio llwybr ac amseru ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi aml-ollwng
- y mathau gwahanol o adnoddau cynllunio llwybr sydd ar gael a sut i'w defnyddio
- y gofynion cwsmeriaid a allai effeithio ar ddewis llwybr ar gyfer llwythi aml-ollwng
- y cyfyngiadau y gallai'r llwyth eu rhoi ar y dewis o lwybr ar gyfer llwythi aml-ollwng
- dimensiynau, uchder a phwysau'r cerbyd nwyddau, a'r effaith y maent yn ei chael ar gynllunio llwybrau
- sut i ddewis a chynllunio llwybr i fodloni gofynion y cwsmer, y cerbyd nwyddau a ddefnyddir a'r llwyth sy'n cael ei dosbarthu neu ei chasglu
- sut i adnabod cyfyngiadau ffordd a allai effeithio ar y llwybr arfaethedig
- y ffyrdd gwahanol o gynllunio llwybrau amgen
- sut i gael gwybodaeth berthnasol am y ffactorau a allai effeithio ar amserau teithiau
- sut i gynllunio pellterau gyrru a'r dechnoleg y gellir ei defnyddio i gynorthwyo gyda hyn
- sut i gynllunio amserau ar gyfer casglu neu ddosbarthu llwythi aml-ollwng, yn cynnwys cyfyngiadau ar amserau gyrru
- y cyfleusterau sy'n ofynnol wrth nodi seibiau i'r gyrrwr
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu neu ddosbarthu llwythau aml-ollwng **
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adnoddau cynllunio llwybr: mapiau, dyfeisiadau llywio â lloeren
Amserlen: amser casglu, amser dosbarthu, seibiau
Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, ac offer ategol
Cyrchfan: man dosbarthu, man casglu
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau'r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau/caniatâd, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), Gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau paled, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, anifeiliaid, gwastraff, nwyddau peryglus, offer a pheiriannau, cerbydau, pren, cydgasgliadau ac ati
Sefydliadol: y cwmni yr ydych yn gyrru iddo neu eich busnes eich hun