Rhoi cymorth i gwsmeriaid sydd angen dychwelyd nwyddau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cymorth i gwsmeriaid sydd angen dychwelyd nwyddau. Gallai hyn fod wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Mae'n ymdrin â deall polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer ymdrin â nwyddau wedi eu dychwelyd, rhoi'r wybodaeth ofynnol i'r cwsmer, a threfnu gyda'r cwsmer i dderbyn y nwyddau sy'n cael eu dychwelyd.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl yrwyr sydd yn gyfrifol am gerbydau nwyddau o fewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflwyno eich hun i'r cwsmer a rhoi prawf adnabod perthnasol i ddilysu pwy ydych a pha sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli
- gofyn i'r cwsmer pam y mae angen iddynt ddychwelyd nwyddau
- rhoi cymorth i'r cwsmer trwy esbonio unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd, o fewn terfynau eich awdurdod, polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad ac unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol
- cyfeirio unrhyw faterion o ran dychwelyd nwyddau sydd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod at gydweithwyr perthnasol, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau cyflwr y nwyddau i gael eu dychwelyd
- trefnu bod y nwyddau'n cael eu casglu a'u dychwelyd i'ch sefydliad ar adeg sydd yn addas ar gyfer y cwsmer
- hysbysu'r cwsmer trwy gydol y broses o ddychwelyd y nwyddau
- cwblhau'r holl ddogfennau gofynnol ar gyfer dychwelyd nwyddau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- cadarnhau bod gan y cydweithwyr sydd yn derbyn y nwyddau yn eich sefydliad yr holl wybodaeth ofynnol
- storio holl ddogfennau perthnasol y cwsmer fel cofnod o'r nwyddau i gael eu dychwelyd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer dychwelyd nwyddau
- y gweithdrefnau iechyd, diogelwch a diogeledd sefydliadol perthnasol ar gyfer ymdrin â nwyddau sy'n cael eu dychwelyd
- hawliau cyfreithiol y cwsmer mewn perthynas â dychwelyd nwyddau
- y prif resymau y mae cwsmeriaid angen dychwelyd nwyddau yn eich sefydliad
- sut i gael manylion gan y cwsmer am y nwyddau i gael eu dychwelyd
- y dulliau cyfathrebu â chwsmeriaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer amnewid nwyddau
- terfynau eich awdurdod wrth ymdrin â cheisiadau i ddychwelyd nwyddau a phwy i fynd atynt os yw'r mater y tu hwnt i derfyn eich awdurdod
- sut i gadarnhau cyflwr y nwyddau sy'n cael eu dychwelyd
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer trefnu'r nwyddau i gael eu dychwelyd
- sut i hysbysu'r cwsmer trwy gydol y broses o ddychwelyd y nwyddau
- y dogfennau sydd eu hangen ar gyfer dychwelyd nwyddau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
- y wybodaeth a'r systemau cofnodi a ddefnyddir gan eich sefydliad a'r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
- canlyniadau cadw gwybodaeth anghyflawn ar gyfer y sefydliad a'r cwsmer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmer: mewnol, allanol **
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Polisïau a gweithdrefnau: polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad fel y maent yn berthnasol i wasanaeth cwsmeriaid a nwyddau sy'n cael eu dychwelyd
Sefydliad: y cwmni yr ydych yn gyrru iddo neu eich busnes eich hun