Cadarnhau bod y cerbyd nwyddau wedi ei ddadlwytho’n gywir ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chadarnhau bod y cerbyd wedi ei ddadlwytho'n gywir ar gyfer gweithgareddau aml-ollwng, fel rhan o ddyletswyddau gyrru. Mae'n cynnwys cyfrifoldeb y gyrrwr i sicrhau bod y nwyddau a'r cerbyd yn dal yn ddiogel ac yn gyfreithlon wrth ddadlwytho ac ar ôl hynny.
Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho a phrawf o weithdrefnau dosbarthu.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl yrwyr sydd yn dosbarthu llwythau aml-ollwng a'r rheiny sy'n gyfrifol am gerbydau nwyddau o fewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod cyfeiriad y cwsmer a'r manylion cyswllt ar gyfer pob llwyth fel rhan o ddosbarthu aml-ollwng
- sicrhau bod yr ardal ddadlwytho'n addas ac yn ddiogel ar gyfer derbyn y llwyth
- dilyn y cyfarwyddiadau dadlwytho a chynllunio dadlwytho'r cerbyd nwyddau
- symud y cerbyd nwyddau i safle addas a diogel ar gyfer dadlwytho
- cadarnhau bod y cerbyd nwyddau wedi ei baratoi ac yn barod ar gyfer dadlwytho
- cadarnhau bod y rhan o'r llwyth i gael ei ddadlwytho wedi ei nodi mewn perthynas â dosbarthu aml-ollwng
- cadarnhau bod y llwyth yn addas ar gyfer ei drin â llaw neu bod yr offer cywir yn cael ei ddewis ar gyfer dadlwytho'r cerbyd nwyddau
- gwisgo Offer Amddiffynnol Personol (PPE) wrth ddadlwytho'r cerbyd nwyddau gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion y llwyth
- cadarnhau bod cyfarwyddiadau dosbarthu a gwneuthurwyr yr offer yn cael eu dilyn wrth ddadlwytho'r cerbyd nwyddau
- monitro dadlwytho'r cerbyd nwyddau a chadarnhau ei fod wedi cael ei ddadlwytho yn unol â'r cyfarwyddiadau dadlwytho
- cadarnhau bod y llwyth yn cael ei osod yn unol â gofynion y cwsmer unwaith y mae wedi ei ddadlwytho
- ailddosbarthu'r llwyth fel y bo angen yn ystod y drefn ddosbarthu
- cadarnhau bod y llwyth yn dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
- gwirio bod y llwyth sydd ar ôl yn ddiogel ac yn sefydlog ar gyfer dosbarthu pellach
- gweithredu ac adrodd pan fydd problemau yn dadlwytho'r cerbyd nwyddau, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio cofnodion prawf dosbarthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gynllunio a chadarnhau bod y cyfarwyddiadau dadlwytho yn cael eu dilyn wrth ddadlwytho'r cerbyd nwyddau fel rhan o ddosbarthu aml-ollwng
- sut i adnabod y llwyth i gael ei ddadlwytho a beth yw gofynion y cwsmer ar gyfer dadlwytho mewn perthynas â dosbarthu aml-ollwng
- ble mae'r llwyth i gael ei gosod ar gyfer y cwsmer
- sut dylid paratoi'r cerbyd nwyddau ar gyfer dadlwytho mathau gwahanol o lwythi ar gyfer gweithgareddau aml-ollwng
- sut i osod y cerbyd nwyddau yn ddiogel ar gyfer dadlwytho
- yr Offer Amddiffynnol Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth ddadlwytho'r cerbyd nwyddau
- sut i asesu a yw'r llwyth yn addas ar gyfer ei drin â llaw a'r technegau i'w defnyddio ar gyfer ei godi'n ddiogel
- sut i adnabod yr offer cywir ar gyfer dadlwytho'r cerbyd nwyddau
- sut i fonitro dadlwytho mathau gwahanol o lwythi
- sut i gadarnhau bod gweddill y llwyth yn dal yn ddiogel ac yn sefydlog ar gyfer dosbarthu pellach
- sut i gadarnhau bod y llwyth yn dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymdrin â nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
- y math o broblemau a allai ddigwydd wrth ddadlwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng a'r camau y dylid eu cymryd
- y gweithdrefnau neu'r systemau prawf dosbarthu a ddefnyddir gan eich sefydliad chi a'r gofynion ar gyfer cadw cofnodion dosbarthu
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, ac offer ategol
Cwsmeriaid: mewnol, allanol
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cyfarwyddiadau: ysgrifenedig, llafar
Cyfarwyddiadau dadlwytho: cyfyngiadau ffordd, cyfarwyddiadau cwsmeriaid, gofynion llwyth, gweithdrefnau sefydliadol
Dadlwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau'r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau/caniatâd, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), Gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau paled, deunyddiau adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, anifeiliaid, gwastraff, nwyddau peryglus, offer a pheiriannau, cerbydau, pren, cydgasgliadau ac ati
Offer Amddiffynnol Personol (PPE): festiau amlwg, hetiau caled, dillad amddiffynnol, amddiffyniad i'r llygaid, menig
Prawf dosbarthu: dogfennau papur neu electronig (e.e. terfynellau llaw)
Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau yn ôl, troi