Cadarnhau bod y cerbyd nwyddau wedi ei lwytho’n gywir ar gyfer dosbarthu aml-ollwng

URN: SFL221
Sectorau Busnes (Suites): Cludwr,Cerbydau gyrru nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chadarnhau bod y cerbyd nwyddau wedi ei lwytho'n gywir ar gyfer dosbarthu aml-ollwng, gan ddefnyddio gwybodaeth am y math o lwyth, y gofynion dosbarthu a'r amserlen.

Mae'n cynnwys gwirio bod y cerbyd yn cael ei lwytho'n gywir cyn gyrru ar y ffordd gyhoeddus, p'un ai ei fod wedi cael ei lwytho gan y gyrrwr neu rywun arall. Mae'n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y dylid diogelu llwyth, y gwiriadau ffisegol y mae angen i yrrwr eu gwneud a'r dogfennau sydd angen iddynt eu llenwi i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol cyn dechrau pob dyletswydd gyrru.

Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad ar gyfer cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho'r cerbyd nwyddau.

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl yrwyr sydd yn dosbarthu i gwsmeriaid fel rhan o ddosbarthu aml-ollwng a'r rheiny sydd yn gyfrifol am gerbydau nwyddau o fewn sefydliadau logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael y wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer llwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
  2. cadarnhau bod y cerbyd nwyddau yn addas ar gyfer y llwyth sydd i gael ei gario
  3. gwirio a chadarnhau bod y cerbyd nwyddau yn barod i dderbyn y llwyth
  4. gwirio bod yr ardal lwytho yn addas ac yn ddiogel ar gyfer llwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
  5. symud y cerbyd nwyddau i safle addas a diogel ar gyfer llwytho
  6. gwisgo Offer Amddiffynnol Personol (PPE) wrth lwytho'r cerbyd nwyddau gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion y llwyth
  7. gweithredu a hysbysu ynghylch unrhyw broblemau wrth lwytho, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
  8. llwytho'r cerbyd nwyddau yn gywir gan ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, gan ystyried y math o lwyth a threfn dosbarthu ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
  9. cadarnhau bod y pwysau wedi ei ddosbarthu'n gywir ar gyfer y math o gerbyd nwyddau
  10. diogelu'r llwyth gyda'r ataliadau cywir
  11. diogelu unrhyw ddeunydd rhydd, ataliadau ac offer ategol, gan sicrhau na allant symud na dod yn rhydd wrth gludo
  12. ailddosbarthu'r llwyth fel y bo angen yn ystod y drefn ddosbarthu
  13. cadarnhau bod y llwyth yn dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
  14. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer nwyddau wedi eu niweidio neu eu halogi
  15. cadarnhau bod yr holl ofynion diogelwch perthnasol ar gyfer cludo'r llwyth yn cael eu dilyn yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol
  16. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
  17. cadarnhau bod yr holl wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer pob llwyth yn gyflawn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  18. cadarnhau cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredol yn ymwneud â llwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-gyfrwng

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gael y wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar gyfer llwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
  2. y mathau o gyfyngiadau llwyth ar gyfer y cerbyd nwyddau a sut i wirio bod y llwyth o fewn y terfyn (e.e. terfyn pwysau a dosbarthiad pwysau)
  3. yr Offer Amddiffynnol Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth lwytho cerbydau nwyddau
  4. sut dylid paratoi'r cerbyd nwyddau ar gyfer llwythau gwahanol sy'n cael eu cario
  5. y drefn ddosbarthu i'w dilyn wrth lwytho ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
  6. sut i osod y cerbyd nwyddau yn ofalus ar gyfer llwytho
  7. sut i ddosbarthu'r llwyth wrth lwytho'r cerbyd nwyddau
  8. pryd i ddosbarthu'r llwyth yn ystod y drefn ddosbarthu a sut i wneud hynny
  9. sut i wirio bod llwythi'n ddiogel ac yn sefydlog a'r cyfyngiadau y gellir eu defnyddio ar gyfer mathau gwahanol o lwythi
  10. y problemau a allai ddigwydd os nad yw deunyddiau rhydd, ataliadau ac offer ategol yn ddiogel
  11. y math o broblemau a allai ddigwydd wrth lwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng a'r camau y dylid eu cymryd
  12. sut i sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd y llwyth yn ystod y drefn ddosbarthu
  13. sut i sicrhau bod y llwyth yn dal yn rhydd rhag niwed neu halogiad
  14. y gweithdrefnau sefydliadol i'w dilyn os yw'r llwyth yn cael ei niweidio neu ei halogi
  15. sut a ble i wirio pwysau echel ar y cerbyd nwyddau a pham y mae angen hyn
  16. pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng
  17. y gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â llwytho'r cerbyd nwyddau ar gyfer dosbarthu aml-ollwng

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ardal lwytho: safleoedd diwydiannol/masnachol, safleoedd manwerthu, ffordd gyhoeddus

Ataliaethau: strapiau, estyll, plociau, cadwyni, rhaffau

Cerbyd nwyddau: y cerbyd yr ydych yn ei yrru fel arfer, yn cynnwys ôl-gerbyd pan fydd wedi ei gysylltu, ac offer ategol

Cwsmeriaid: mewnol, allanol

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

*Defnyddwyr y ffordd:* cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau'r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau/caniatâd, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol

Llwyth: cynwysyddion, llwythi neu ôl-gerbydau wedi eu selio, nwyddau ar baled, deunydd adeiladu, bwyd, tymheredd wedi ei reoli, anifeiliaid, gwastraff, nwyddau peryglus, offer a pheiriannau, cerbydau, pren, cydgasgliadau ac ati

Llwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol

Offer Amddiffynnol Personol (PPE): festiau amlwg, hetiau caled, dillad amddiffynnol, amddiffyniad i'r llygaid, menig

Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau yn ôl, troeon


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFL221

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Gweithredu a chynnal a chadw trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Drafnidiaeth

Cod SOC

8211

Geiriau Allweddol

cerbyd nwyddau; llwyth; gweithgareddau aml-ollwng