Paratoi’r tancer ar gyfer ei gyrru
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi’r tancer ar gyfer gyrru, a’i wirio cyn gyrru ar ffyrdd cyhoeddus. Mae’n cynnwys y gwiriadau ffisegol y mae’n rhaid i yrrwr eu gwneud ar y tancer a’r dogfennau y mae’n ofynnol iddynt eu cwblhau er mwyn cydymffurfio â gofynion sefydliadol cyn dechrau pob dyletswydd yrru.
Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad i’r gyrrwr sicrhau bod y dogfennau cyfreithiol perthnasol yn eu lle ar gyfer y tancer a’r gyrrwr.
Mae’r safon hon yn berthnasol i yrwyr tanceri a’r rheiny sy’n gyfrifol am danceri mewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
paratoi’r tancer ar gyfer gyrru trwy gynnal gwiriadau i gynnal diogelwch y cerbyd
cynnal gwiriadau cerdded o gwmpas dyddiol ar y tancer yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol, gan ddefnyddio fformat adrodd ar bapur neu electronig
- sicrhau bod holl systemau, rheolyddion ac offerynnau’r cerbyd yn gweithio, a bod yn tancer yn addas i gael ei yrru ar y ffordd
- gwirio bod offer ategol, os ydynt wedi cael eu gosod neu eu cyflenwi, mewn cyflwr gweithredol
- sicrhau bod yr holl ddogfennau cyfreithiol gofynnol yn eu lle ar gyfer y gyrrwr, y tancer a’r ôl-gerbyd, os ydynt yn cael eu defnyddio
- addasu olwyn lywio, drychau a sedd y tancer er mwyn cael y rheolaeth a’r olygfa orau posibl a bod mor gyfforddus â phosibl
- sicrhau bod gan y tancer y maint gofynnol o danwydd, ychwanegion, olew, dŵr a hylifau eraill
- cadarnhau bod yr holl arwyddion gofynnol yn eu lle ac yn weladwy ar gyfer y llwyth sydd yn cael ei gario
- cymryd y camau gofynnol pan fydd unrhyw ddiffygion gyda’r tancer yn cael eu nodi, p’un ai’n newydd neu wedi eu hadrodd yn flaenorol, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- nodi’r person sy’n gyfrifol am ryddhau’r tancer yn swyddogol i gael ei yrru, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau’r holl ddogfennau sefydliadol yn ymwneud â pharatoi’r tancer ar gyfer cael ei yrru
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â pharatoi’r tancer ar gyfer cael ei yrru
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
cyfrifoldebau’r gyrrwr ar gyfer y tancer a’r llwyth, yn cynnws diogeledd cerbyd
y gwiriadau dyddiol y mae’n ofynnol i yrwyr eu gwneud i gynnal diogelwch eu cerbydau yn unol â gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA)
- sut i wirio systemau, rheolyddion ac offerynnau cerbydau, wrth baratoi’r tancer ar gyfer gyrru
- ble i ddod o hyd i wybodaeth am weithredu systemau, rheolyddion ac offerynnau’r tancer
- y dogfennau cyfreithiol perthnasol y mae’n rhaid iddynt fod yn eu lle cyn bod y tancer yn cael ei yrru
- pwysigrwydd addasu’r olwyn lywio, y drychau a’r sedd i fod yn addas ar gyfer y gyrrwr a chynyddu rheolaeth ac arsylwi a chysur
- sut i ddod o hyd i wybodaeth am y llwyth sydd yn cael ei gario a’r arwyddion sydd eu hangen
- dangosyddion unrhyw broblemau trydanol neu fecanyddol posibl gyda’r tancer
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am ddiffygion a sut i gael gwybodaeth am broblemau a nodwyd yn flaenorol
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer rhyddhau’r tancer yn swyddogol ar gyfer ei yrru
- y dogfennau cyfreithiol y mae eich sefydliad yn gofyn i chi eu cwblhau yn ystod y broses baratoi a’u cario gyda chi yn y tancer
- y weithdrefn sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredol perthnasol yn ymwneud â pharatoi’r tancer ar gyfer ei yrru
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rheolyddion: cyflymydd, cydiwr, brêc troed, brêc llaw, olwyn lywio, gêrs, cyfeirwyr, goleuadau, sychwyr ffenestri, diniwlwyr, gwres ac awyru, Esgynfa Bŵer (PTO), clo differol
Offerynnau: mesurau, goleuadau rhybudd, arddangosiadau, rhybuddion sain, tacograff, dangosyddion pwysedd teiars, lefelau oeryddion, lefelau olew, pwysedd aer
- Dogfennau cyfreithiol: yswiriant, treth ffordd, plât cerbyd, plât ôl-gerbyd, tystystgrif prawf MOT cerbyd, tystysgrif prawf MOT ôl-gerbyd, trwydded gweithredwr trafnidiaeth, trwydded gyrrwr cerbyd nwyddau, trwyddedau
- Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
- Llwyth: powdrau, deunyddiau gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd, peryglus, gwastraff
- Systemau: taniwr, trydanol, goleuadau, brêcs, trawsyriant, injan, tanwydd, cyplysiad, technoleg gwybodaeth, digidol, systemau cyfathrebu a thelemetreg, cyfarpar ategol, llwytho, dadlwytho, rheoli tymheredd
- Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer a chyfarpar ategol