Cael gwybodaeth am gasglu a dosbarthu llwythau sy’n cael eu cario gan dancer
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldeb y gyrrwr i gael gwybodaeth mewn perthynas â chasglu a dosbarthu'r llwythau y maent yn eu cario mewn tancer.
Mae'n cynnwys yr hyn y mae angen i'r gyrrwr ei wneud i sicrhau bod eu tancer yn addas ar gyfer y llwyth i gael ei gario, a'r dogfennau y mae angen iddynt eu cwblhau i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol yn ystod pob dyletswydd gyrru. Mae'n cynnwys y gofyniad i'r gyrrwr wirio bod y trwyddedau/caniatâd perthnasol yn bodoli ar gyfer y math o gerbyd a'r llwyth sy'n cael ei gario.
Mae'r safon hon yn berthnasol i yrwyr tanceri a'r rheiny sy'n gyfrifol am danceri o fewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cael gwybodaeth am y llwyth i gael ei gasglu a/neu ei ddosbarthu gan dancer
cael gwybodaeth am nodweddion y llwyth i gael ei gario gan dancer
cael gwybodaeth am y math penodol o lwyth i gael ei gario ac unrhyw ofynion penodol
cael gwybodaeth am unrhyw beryglon posibl penodol i'r llwyth i gael ei gario a sut y dylid trin y rhain
gwirio bod y tancer yn addas ar gyfer y math a phwysau'r llwyth i gael ei gario
cael gwybodaeth am gyrchfan y llwyth a'r amserlen
gweithredu pan fydd problemau wrth gael gwybodaeth am y llwyth i gael ei gario, y gyrchfan neu'r amserlen
gwirio hygyrchedd y gyrchfan
nodi'r gofynion ar gyfer llwytho/dadlwytho'r tancer
nodi unrhyw ofynion penodol ar gyfer monitro'r llwyth wrth gael ei gludo
cael gwybodaeth am ofynion ar gyfer amseru dosbarthu neu gasglu
asesu unrhyw wybodaeth ddiweddar neu newidiadau i wybodaeth a allai effeithio ar y gyrchfan a'r amserlen
cyfathrebu'r holl wybodaeth yn ymwneud â'r llwyth i gydweithwyr a chwsmeriaid perthnasol
cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu a dosbarthu'r llwyth sy'n cael ei gario gan y tancer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y math o wybodaeth sy'n ofynnol am y llwyth i gael ei gasglu a/neu ei ddosbarthu gan dancer
- ble i gael gwybodaeth am y llwyth i gael ei gario a phwy sydd angen y wybodaeth yma
- y math o wybodaeth sy'n ofynnol am gyrchfan y llwyth a'r amserlen
- y camau i'w cymryd os nad ydych yn gallu cael gwybodaeth am y llwyth, y gyrchfan neu'r amserlen
- y mathau o ofynion allai fod ar gyfer llwytho/dadlwytho neu fonitro'r llwyth wrth gael ei gludo gan dancer
- y math o broblemau a allai ddigwydd gyda'r llwyth fyddai'n galw am fonitro
- gofynion y cwsmer wrth gyrraedd y gyrchfan, ac amseru'r dosbarthu neu'r casglu
- ble i gael gwybodaeth ddiweddar a allai effeithio ar y gyrchfan a'r amserlen, a sut i'w defnyddio
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd gyda'r gyrchfan a'r amserlen
- sut i gyfathrebu'r mathau gwahanol o wybodaeth am y llwyth i gydweithwyr a chwsmeriaid perthnasol a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer hyn
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chasglu a dosbarthu'r llwyth sy'n cael ei gario gan y tancer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amserlen: amser casglu, amser dosbarthu, dilyniant gyrru, llwybr, amseru, arosfannau**
Cwsmeriaid: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol**
Cydweithwyr: mewnol, allanol**
Cyrchfan: man dosbarthu, man casglu
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau'r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau/caniatâd, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
Llwyth: powdrau, deunydd gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, ddim yn fwyd, peryglus, gwastraff
Llwytho/dadlwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol
Offer Amddiffynnol Personol (PPE): festiau amlwg, hetiau caled, dillad amddiffynnol, amddiffyniad i'r llygaid, menig
Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer, offer ategol