Dadlwytho’r tancer
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dadlwytho’r tancer, a allai olygu’r cyfan neu ran o lwyth, fel rhan o ddyletswyddau gyrru. Mae’n cynnwys dyletswyddau’r gyrrwr i gadarnhau bod y tancer yn dal yn ddiogel ac yn gyfreithiol wrth ddadlwytho ac ar ôl hynny.
Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho, a phrawf o weithdrefnau dosbarthu.
Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer gyrwyr tanceri a’r rheiny sy’n gyfrifol am danceri mewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi cydweithiwr neu gwsmer sy’n gyfrifol am dderbyn y llwyth
sicrhau bod yr ardal ddadlwytho yn addas ac yn ddiogel ar gyfer derbyn y llwyth
- symud y tancer i mewn i safle addas a diogel ar gyfer dadlwytho
- cadarnhau bod y tancer wedi ei baratoi ac yn barod i’w ddadlwytho
- gwirio bod y maint cywir o’r llwyth i gael ei ddadlwytho’n cael ei nodi
- dewis a defnyddio’r cyfarpar cywir ar gyfer dadlwytho
- gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth ddadlwytho’r tancer gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion llwyth
- dilyn cyfarwyddiadau dosbarthu i ddadlwytho’r tancer, gan sicrhau bod y llwyth yn parhau’n rhydd rhag halogiad
- dilyn cyfarwyddiadau gweithredu cyfarpar i sicrhau nad oes unrhyw ollyngiadau wrth ddadlwytho
- monitro dadlwytho’r tancer a chadarnhau ei fod wedi cael ei ddadlwytho yn unol â chyfarwyddiadau dadlwytho
- nodi a gweithredu pan fydd materion wrth ddadlwytho, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cwblhau a storio cofnodion prawf dosbarthu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r tancer
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r tancer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gadarnhau bod cyfarwyddiadau dadlwytho’n cael eu dilyn wrth ddadlwytho’r tancer
- nodweddion y llwyth i gael ei ddadlwytho, yn cynnwys gofynion gwahanol yn ymwneud â chynnyrch penodol
- y mathau o ragofalon i’w cymryd wrth ddadlwytho’r tancer
- sut i atal y llwyth rhag cael ei halogi wrth ddadlwytho
- y gofynion sefydliadol a gofynion y cwsmer ar gyfer dadlwytho
- sut dylid paratoi’r tancer ar gyfer dadlwytho
- sut i osod y tancer yn ofalus ar gyfer dadlwytho
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth ddadlwytho
- sut i fonitro’r dadlwytho
- y math o faterion a allai ddigwydd wrth ddadlwytho’r tancer, a’r camau y dylid eu cymryd
- y systemau prawf dosbarthu gwahanol a ddefnyddir yn eich sefydliad
pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â dadlwytho’r tancer
y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â dadlwytho’r tancer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cwsmeriaid: mewnol, allanol
Cyfarwyddiadau: ysgrifenedig, llafar
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystystgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
Llwyth: powdrau, deunyddiau gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd, peryglus, gwastraff
Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau yn ôl, troi
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch i’r llygaid, menig, esgidiau uchel
Rhagofalon: defnydd cywir o PPE, atal gollyngiadau, llwch, anweddau, gwrthdrawiadau
Prawf dosbarthu: dogfennau papur neu electronig (e.e. terfynellau llaw)
Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer, cyfarpar ategol
Dadlwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol