Gwirio a llwytho’r tancer
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwirio a llwytho’r tancer, gan ddefnyddio gwybodaeth am y math o lwyth, y gofynion dosbarthu a’r amserlen.
Mae’n cynnwys cyfrifoldebau gyrrwr i wirio bod y tancer wedi ei lwytho’n gywir cyn gyrru ar y ffordd gyhoeddus, p’un ai ei fod wedi cael ei lwytho gan y gyrrwr neu rywun arall. Mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut dylai llwyth gael ei sicrhau, y gwiriadau ffisegol y mae angen i yrrwr ei wneud a’r dogfennau y mae angen iddynt eu cwblhau i gydymffurfio â’r gofynion cenedlaethol a rhyngwladol, cyfreithiol a sefydliadol perthnasol cyn dechrau pob dyletswydd gyrru.
Mae hefyd yn cynnwys y gofynion ar gyfer cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r tancer.
Mae’r safon hon yn berthnasol i yrwyr tanceri a’r rheiny sy’n gyfrifol am danceri mewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth ofynnol ar gyfer llwytho’r tancer
- gwirio a chadarnhau bod y tancer yn barod i dderbyn y llwyth a bod y tancer yn cyd-fynd â’r llwyth i gael ei gario
- gwirio bod yr ardal lwytho yn addas ac yn ddiogel
- symud y tancer i safle addas a diogel ar gyfer llwytho
- gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) wrth lwytho’r tancer gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol a gofynion y llwyth
- llwytho’r tancer yn ddiogel gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol, gan ystyried y math o lwyth a’r drefn ddosbarthu
- monitro bod y llwyth yn parhau’n rhydd rhag halogiad wrth lwytho
- nodi a gweithredu os oes problemau wrth lwytho, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- dilyn yr holl ofynion iechyd a diogelwch perthnasol ar gyfer gwirio a llwytho’r tancer a chwblhau unrhyw ddogfennau, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- monitro a chadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r tancer
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol a gweithredol sy’n ymwneud â llwytho’r tancer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael y wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol ar gyfer llwytho’r tancer
- y mathau o gyfyngiadau llwyth ar gyfer y tancer a sut i sicrhau bod y llwyth o fewn y terfyn e.e. pwysau
- nodweddion gwahanol y llwyth i gael ei gario
- y mathau o ragofalon i’w cymryd wrth wirio a llwytho’r tancer
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ddylai gael eu defnyddio wrth wirio a llwytho’r tancer
- y gofynion dosbarthu ar gyfer y llwyth a’r drefn ddosbarthu
- sut dylai’r tancer gael ei baratoi ar gyfer y llwyth
- sut i osod y tancer yn ddiogel ar gyfer llwytho
- sut i atal halogi’r llwyth wrth lwytho
- sut i wirio bod y llwyth yn dal yn ddiogel ac yn sefydlog
- y math o broblemau a allai ddigwydd wrth lwytho’r tancer a’r camau y dylid eu cymryd
- sut a ble i wirio pwysau’r echelau ar y tancer a pham mae angen hyn
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid sydd yn gysylltiedig â llwytho’r tancer
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredol perthnasol yn ymwneud â llwytho’r tancer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau’r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystystgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau alcohol a chyffuriau, gofynion sefydliadol
- Llwyth: powdrau, deunyddiau gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw’n fwyd, peryglus, gwastraff
- Llwytho: cyflawn, rhannol, dilyniannol
- Ardal lwytho: safleoedd diwydiannol/masnachol, ffordd gyhoeddus/breifat
- Symud: symudiadau ymlaen, symudiadau yn ôl, troi
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch i’r llygaid, menig
- Rhagofalon: defnydd cywir o PPE, atal gollyngiadau, llwch, anweddau, gwrthdrawiadau
- Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tanceri, cyfarpar ategol