Gyrru’r tancer ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
URN: SFL206
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Nwyddau
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gyrru’r tancer ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd. Mae’n cynnwys defnyddio rheolyddion tancer i gynyddu diogelwch ac effeithlonrwydd tanwydd, a gwybodaeth am y ffactorau sy’n effeithio ar effeithlonrwydd tanwydd a diogelwch defnyddwyr eraill y ffordd.
Mae’r safon hon yn berthnasol i yrwyr tanceri a’r rheiny sy’n gyfrifol am danceri o fewn sefydliadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
monitro ac addasu newidiadau mewn amodau gyrru tra’n gyrru’r tancer ar ffyrdd cyhoeddus mewn ffordd sy’n effeithlon o ran tanwydd
monitro ac addasu i newidiadau yn symudiad y llwyth sy’n cael ei gario
- monitro sefydlogrwydd y llwyth wrth deithio
- monitro ac ymateb i unrhyw beryglon posibl o’r llwyth
- monitro ac ymateb i unrhyw beryglon posibl ar y ffordd gyhoeddus neu’r ardaloedd cyfagos
- gosod y tancer a chymhwyso disgyblaeth lonydd i gynnal eich diogelwch eich hun a defnyddwyr eraill y ffordd, yn unol â’r amodau gyrru, y tancer a’r llwyth sy’n cael ei gario
- rhoi’r arwyddion cywir i ddefnyddwyr eraill y ffordd, mewn pryd, fel eu bod yn ymwybodol o’r symudiadau yr ydych yn bwriadu eu gwneud
- gyrru ar y cyflymder gofynnol ar gyfer yr amodau gyrru ac i gynnal sefydlogrwydd y llwyth
- rheoli cyflymder y tancer mewn ffordd sy’n lleihau’r defnydd o ynni a thraul ar y tancer a’r systemau brecio
- defnyddio’r brêcs i arafu neu dod â’r tancer i stop yn gyfan gwbl, mewn ffordd wedi ei reoli sy’n berthnasol i’r amodau gyrru, y pellter sydd ar gael, y tancer a’r llwyth sydd yn cael ei gario
- goddiweddyd defnyddwyr eraill y ffordd mewn man addas, yn unol ag amodau’r ffordd a chan gynnal diogelwch
- rheoli cyflymder a safle’r tancer wrth oddiweddyd
- cymryd camau ataliol i osgoi niwed i unrhyw ddefnyddwyr eraill y ffordd
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gyrru’r tancer ar ffyrdd cyhoeddus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwy i’w hysbysu os oes newidiadau i’r amserlen oherwydd amodau gyrru
nodweddion y llwyth sydd yn cael ei gludo
- sut i nodi ac addasu arddulliau gyrru i newidiadau mewn amodau gyrru
- sut i nodi ac addasu arddulliau gyrru i newidiadau yn symudiad y llwyth
- sut i gynnal sefydlogrwydd y llwyth wrth deithio
- y weithdrefn iechyd a diogelwch gywir ar gyfer ymdrin â gollyngiadau neu orlifiau o’r llwyth sydd yn cael ei gario
- sut gallai gweithredoedd defnyddwyr eraill y ffordd arwain at golli rheolaeth o’r tancer
- sut i wybod pryd mae defnyddwyr eraill y ffordd ar fin newid cyfeiriad a chyflymder
- sut i osod y tancer ar y ffordd i sicrhau eich diogelwch eich hun a defnyddwyr eraill y ffordd
- pryd i ddefnyddio arwyddion i ddangos newid safle
- sut dylid newid cyflymder y tancer i fodloni mathau gwahanol o amodau’r ffordd ac i gynnal sefydlogrwydd y llwyth
- sut i ddefnyddio rheolyddion a gêrs y tancer i addasu cyflymder ac i yrru mewn ffordd sydd yn effeithlon o ran tanwydd
- y ffactorau sy’n effeithio ar bellterau aros y tancer a sut i asesu a gwahanu eich hun yn ddiogel oddi wrth ddefnyddwyr eraill y ffordd
- y math o beryglon sydd yn gysylltiedig â goddiweddyd, pryd dylai goddiweddyd ddigwydd, a phryd na ddylai ddigwydd
- y ffactorau sy’n effeithio ar y pellter sydd yn ofynnol i oddiweddyd defnyddwyr eraill y ffordd
- y math o beryglon a allai ddigwydd ar ffyrdd cyhoeddus
- sut i ddefnyddio rheolyddion y tancer i addasu brecio o dan amodau gwahanol y ffordd
- yr effaith y gallai brecio difrifol ei gael ar sefydlogrwydd y llwyth, addasrwydd y tancer ar gyfer y ffordd ac effeithlonrwydd tanwydd
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gyrru’r tancer ar ffyrdd cyhoeddus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- Peryglon: amodau'r ffordd, y tywydd, amodau traffig, trefn y ffordd, dodrefn stryd, tirwedd, cerddwyr
- Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: Rheolau'r Ffordd Fawr, rheoliadau trafnidiaeth, rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, trwyddedau, oriau gyrwyr, gofynion Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC), gofynion yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA), Cynllun Cydnabod Gweithredwyr Fflyd (FORS), cyfyngiadau cyffuriau ac alcohol, gofynion sefydliadol
- Llwyth: powdrau, deunyddiau gronynnol, mwynau, hylifau, nwyon, bwyd, cynnyrch nad yw'n fwyd, peryglus, gwastraff
- Sefydliad: y cwmni yr ydych yn gyrru iddo neu eich busnes eich hun
- Defnyddwyr y ffordd: cerbydau modur, beiciau modur, beiciau, cerddwyr, anifeiliaid, defnyddwyr ffordd sy'n agored i niwed
- Tancer: y tancer yr ydych yn ei yrru fel arfer, cynwysyddion tancer, cyfarpar ategol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFL206
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu
Cod SOC
8214
Geiriau Allweddol
gyrru effeithlon o ran tanwydd; hylifau; powdrau; tanceri; nwyon